Yn 2020 fe deithiodd Marian Brosschot i Batagonia yn yr Ariannin i ddysgu Cymraeg yn y Wladfa. Ond fe gymerodd ei hantur fythgofiadwy dro newydd pan gydiodd Covid-19 yn y byd.
Bu gen i ryw syniad niwlog yn fy mhen erioed am le pellennig o’r enw Patagonia a stori am long y Mimosa a hwyliodd ar draws y môr i chwilio am diroedd newydd. Ond nid oedd wedi gafael yn fy nychymyg fel y gwnaeth ddwy flynedd yn ôl pan glywais gyfweliad am gynllun a oedd yn chwilio am diwtoriaid Cymraeg i weithio gydag oedolion ym Mhatagonia.
Doedd gweithio gyda phlant ifanc mewn ysgolion cynradd erioed wedi apelio cymaint i mi â gweithio gydag oedolion a phobl ifanc yn eu harddegau; a dyma gyfle i wneud yr union beth hynny - ar ochr arall y byd. Roeddwn i’n gweithio fel tiwtor Cymraeg yng Ngogledd Cymru ar y pryd a doeddwn i ddim yn siwr beth yr oeddwn am ei wneud nesaf.
Roedd natur hyblyg y gwaith a’r ffordd y gallai newid yn gyson yn un o’r pethau a daniodd fy nychymyg cyn i mi benderfynnu gwneud cais. Roedd yn teimlo fel yr union beth yr oedd ei angen arnaf; diwylliant newydd, pobl newydd, swydd newydd, ond rhywbeth hefyd yr oeddwn yn gwybod sut i’w wneud a hynny mewn iaith yr oeddwn eisoes yn ei dysgu. Roedd yn gyfle i ddysgu mwy am hanes y mudo o Gymru i Batagonia dros 150 o flynyddoedd yn ôl – rhywbeth nad oeddwn i’n gwybod rhyw lawer amdano ar y pryd.
Cynllun yr Iaith Gymraeg a dysgu Cymraeg ym Mhatagonia
Cynllun yr Iaith Gymraeg yw enw’r prosiect yr ymunais ag ef. Mae’n cael ei drefnu a’i ariannu gan British Council Cymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Ers 1997 mae’r cynllun wedi bod yn anfon athrawon a gweithwyr proffesiynol o fyd addysg i ysgolion a chymunedau yn y Wladfa (ardaloedd ym Mhatagonia lle siaredir Cymraeg).
Dros y blynyddoedd mae nifer yr ysgolion yno wedi tyfu a bellach mae tair ysgol gynradd ddwyieithog yn croesawu athrawon o Gymru bob blwyddyn. Mae Coleg Camwy, ysgol uwchradd y Gaiman, hefyd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Agorodd Ysgol yr Hendre (ysgol gynradd yn Nhrelew) ei drysau yn 2006 ac erbyn heddiw mae 160 o ddisgyblion yno. Rhoddwyd statws swyddogol fel ysgol gynradd i Ysgol Gymraeg y Gaiman yn 2015; a llynedd, gwelwyd cohort o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn gadael yr ysgol am y tro cyntaf. Bedwar can milltir ar draws y paith yn Nhrefelin, wrth droed mynyddoedd godidog yr Andes, saif ysgol Ysgol y Cwm – ysgol newydd a adeiladwyd yn 2016 gyda digon o le i groesawu hyd at 200 o ddisgyblion.
Mae Menter Patagonia, grŵp hybu’r Gymraeg yn y Wladfa, yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau sy’n rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd i ddefnyddio eu Cymraeg. Mae dinasoedd eraill fel Puerto Madryn a Comodoro, sydd 200 milltir i’r de, hefyd yn cynnal dosbarthiadau a gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pobl fodern a bywiog, dinasoedd mawr a strydoedd llydan
Roeddwn wedi teithio gryn dipyn yn Ewrop ac yn gallu siarad Sbaeneg, ond doeddwn i erioed wedi troi fy ngolwg tua gorwelion pellennig De America. Doedd gen i ddim syniad sut brofiad fyddai byw a gweithio ym Mhatagonia, rhanbarth anferth sy’n ymestyn ar draws de’r Ariannin a Chile, a chlywed pobl yn siarad Cymraeg yno a dysgu Cymraeg a siarad mor wresog am Gymru mor bell o fy mamwlad. Dechreuais gael fy swyno gan ddelweddau rhamantaidd o hen wragedd a hen ddynion yn camu oddi ar y Mimosa i grwydro’r paith llychlyd. Ond yn hytrach na hynny, fe ddes (wrth gwrs) ar draws pobl fodern a bywiog, dinasoedd mawr a strydoedd llydan, ceir cyflym, sŵn, chwerthin, bwyd da a chymuned o bobl sy’n trysori eu hanes a’u treftadaeth ac yn siarad Cymraeg fel petai hynny’r peth mwyaf naturiol yn y byd.
Ond nid Cymru yw’r Wladfa, ac nid yw’r Gymraeg a siaredir yno’n perthyn i unrhyw ran benodol o Gymru; ac nid Cymry yw’r bobl sy’n byw yno chwaith, ond Archentwyr balch. Er bod teidiau a neiniau a hen deidiau a hen neiniau llawer ohonynt yn dod o Gymru, fe gawson nhw eu geni a’u magu yn yr Ariannin. Dyma eu mamwlad, a Chymraeg yw eu mamiaith ac mae’n perthyn yma yn y dyffryn, y mynyddoedd, yr afonydd, y systemau dyfrio a’r sianeli a adeiladwyd gan yr arloeswyr cyntaf o Gymru i alluogi cnydau i dyfu a phentrefi a threfi i ddatblygu. Mae’r Gymraeg yn perthyn i’r bobl sy’n dewis ei dysgu ac i’r plant sy’n ei defnyddio wrth iddynt dyfu.
Trelew, dinas o ryw 100,000 o drigolion, oedd fy nghartref. Fe wnaeth fy Sbaeneg addasu’n gyflym. Roeddwn i’n awyddus i ffitio i mewn a defnyddio’r castellano Archentaidd mor naturiol ag y gallwn. Roedd y bobl yn garedig ac agored, ac roeddent yn chwilfrydig. Roedd profi diwylliant mor agored fel chwa o awyr iach: roedd llai o gynllunio a mwy o fwynhau! Yn fuan iawn roeddwn i’n teimlo’n gartrefol iawn. Roedd byw’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Sbaeneg heb fawr angen am Saesneg yn brofiad bendigedig.
Ochr arall y geiniog o fod yn rhan o gymdeithas mor agored sy’n byw o foment i foment yw bod cynllunio ac amserlenni pethau dipyn ymlaen llaw yn gallu bod braidd yn anodd ac yn wahanol i sut yr oeddwn wedi arfer gwneud pethau yng Nghymru. Ond allwch chi ddim gorfodi pobl i wneud rhywbeth na’u gorfodi i fod yn rhywle ar adeg benodol chwaith; yr oll y gallwch ei wneud yw estyn gwahoddiad iddynt. Gan fod tueddiad i bethau gael eu newid ar y funud olaf, roedd bod yn hyblyg yn allweddol.
Addasu i’r pandemig
Cafodd ‘bod yn hyblyg’ ei godi i lefel newydd wrth i ni addasu i bandemig byd-eang. Pan ddaeth rheolau caeth a chwarantin llym i rym ynghanol mis Mawrth ar ben yr holl ansicrwydd a oedd yn lledu drwy wlad, prin bedair wythnos ar ôl i ni gyrraedd a dechrau ffeindio’n traed, roedd ceisio dychmygu pa fath o flwyddyn oedd o’n blaenau yn brofiad go frawychus.
Trwy holl hynt a helynt addasu i sefyllfa a oedd yn newid yn gyson, bu Garyn Pritchard, ymgynghorwr y cynllun yn British Council Cymru, a Clare Vaughan, cyd-lynydd y cynllun yn yr Ariannin, yn gefn cadarn gyda’u cefnogaeth gyson a dibynadwy. Llynedd teithiodd wyth o athrawon profiadol allan i Batagonia i weithio’n ystod y flwyddyn ysgol, sy’n rhedeg o fis Mawrth i fis Rhagfyr. Ond gan fod yr un nifer o athrawon wedi penderfynnu dychwelyd i Gymru ar hediad siarter a drefnwyd gan Lysgenhadaeth Prydain ym mis Mai, doedd neb yn gwbl sicr beth fyddai’n digwydd. Ond yn raddol, daeth yn amlwg y byddai strwythur y cynllun nid yn unig yn gallu gwrthsefyll y pandemig ond yn gallu addasu iddo a thyfu yn ei sgil.
Disgynnodd popeth i’w le ar-lein yn ddigon buan. Cafodd yr holl ddosbarthiadau, o gyrsiau oedolion a chyrsiau ysgol, i grwpiau plant a gweithgareddau cymdeithasol, eu symud ar-lein, ac fe wnaeth yr athrawon a oedd wedi dychwelyd i Gymru barhau i weithio ar-lein hefyd er gwaetha’r pedair awr o wahaniaeth amser rhwng y ddwy wlad. Yn ôl trefn arferol y cynllun, cafodd y dosbarthiadau eu rhannu rhwng athrawes/athro lleol ac athrawes/athro o Gymru. Fe weithiodd hyn yn dda iawn yn y byd rhithwir newydd a oedd yn tyfu o’n cwmpas, ac fe ddatblygodd perthynas agos rhwng yr athrawon ar naill ochr y byd a’r llall drwy gyfarfodydd wythnosol a galwadau fideo.
Cafodd ‘Paned a Sgwrs’ ei symud ar-lein
O ystyried nad oeddem wedi cwrdd wyneb yn wyneb â’r rhan fwyaf o bobl cyn y daeth y cyfyngiadau teithio i rym, roedd y syniad o gynllunio a chynnal digwyddiadau ar-lein yn teimlo fel tipyn o her i ddechrau. Ond fe ymunodd pobl yn union fel o’r blaen, ac roedden nhw’n llawn brwdfrydedd. Cafodd boreau Paned a Sgwrs eu trefnu (a nosweithiau cwrw a gwin hefyd – i gadw’r ddysgl yn wastad!) yn ogystal â chwisiau, gemau geiriau a Noson Lawen (noson o adloniant a cherddoriaeth). Hefyd, roeddem yn cynnal dosbarthiadau un-i-un i helpu dysgwyr nad oedd yn gallu mynychu dosbarthiadau yn ogystal â grwpiau darllen ar gyfer dysgwyr o wahanol lefelau gallu. Yn sydyn roedd technoleg yn agor drysau nad oeddem yn gwybod amdanynt o’r blaen, ac fe ddaeth ‘zoom’ yn rhan annatod o’n byd newydd.
Ond mae effeithiolrwydd technoleg yn dibynnu ar effeithiolrwydd eich cysylltedd wi-fi. Mewn ardaloedd lle mae cysylltedd yn wan gall hyn fod yn brofiad rhwystredig a thorcalonus; mae dysgwyr yn diflannu, cysylltedd anwadal yn amharu ar gyfarfodydd, ac weithiau gall prynhawn cyfan fynd heibio cyn y gallwch ail-gysylltu. Mewn nifer o gartrefi mae pawb yn gorfod rhannu’r un cyfrifiadur a bach iawn o gysylltedd sydd ar gael (os o gwbl) ac yn aml mae amserlenni gwahanol aelodau’r teulu yn gwrthdaro hefyd. Ond, fe ddysgodd pobl i fyw gyda’r heriau hyn ac addasu iddynt. Roedd addasu i broblemau beunyddiol i’w weld yn ail natur i lawer.
‘Galés con Marian’ ar YouTube
Ym mis Gorffennaf fe wnes gynllunio a ffilmio ‘Un mes de galés’ - cwrs byr o 25 o fideos, tua 10 munud yr un, trwy gyfrwng y Sbaeneg - a fu’n help wrth ddelio â rhai o’r problemau technolegol. Gan nad oedd angen gwylio’r fideos yn fyw, gallai pobl eu lawrlwytho ar unrhyw ddyfais unrhyw bryd neu mewn unrhyw fan lle’r oedd cysylltedd. Cafodd y fideos eu llwytho i fyny i sianel YouTube newydd Menter Patagonia a’u rhannu’n ddyddiol drwy gyfryngau cymdeithasol am fis cyfan. Cawsom ymateb rhagorol – drwy sylwadau ar-lein, yn y wasg leol ac ar y radio. Ym mis Hydref 2020 fe lansiais ail gyfres sef, ‘Otro mes de galés’. Ers hynny rwyf wedi creu mwy o fideos YouTube ar wahanol agweddau o ddysgu Cymraeg – y cyfan drwy gyfrwng y Sbaeneg. Felly, gall unrhyw un, yn unrhyw le, sy’n dysgu Cymraeg (drwy gyfrwng y Sbaeneg) ddefnyddio a mwynhau’r fideos yma. Enw’r sianel ar YouTube yw ‘Galés con Marian’ (Cymraeg gyda Marian).
Yn sydyn roedd gyda ni ddysgwyr yn Buenos Aires, Mecsico a Ffrainc
Roedd cynnal gwersi ar-lein yn ei gwneud yn bosib i bob math o bobl ddysgu Cymraeg – pobl na fyddai’n gallu mynychu dosbarthiadau Cymraeg fel arfer. Ym mis Awst fe ddechreuon ni ddau grŵp newydd. Ein bwriad oedd eu cynnal ar-lein yn unig - hyd yn oed pan fyddai gwersi’n cael dychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Gan fod dros 50 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y cwrs Mynediad (A1), cafodd y dysgwyr eu rhannu’n ddau grŵp. Roedd y grwpiau yma’n cael dwy wers bob wythnos, un gydag athrawes/athro lleol ac un gydag athrawes/athro o Gymru. Yn sydyn roedd gyda ni ddysgwyr yn Mendoza, Buenos Aires, La Plata, Salta, a hyd yn oed mor bell i ffwrdd â Mecsico, Wrwgwai a Ffrainc. I lawer, roedd hwn yn gyfle unwaith mewn oes i gysylltu â’u gwreiddiau – rhywbeth a oedd yn amlwg yn bwysig iawn iddynt. Roedd yna gymaint o angerdd i ddysgu!
Bydd y flwyddyn sydd o’n blaenau yn anodd. Bydd llai o athrawon a llai fyth o deithio, ac rydym bellach yn deall mwy am y pandemig ac am faint, o bosib, y bydd ei effeithiau’n parhau. Ond bydd brwdfrydedd, creadigrwydd a pharodrwydd yr athrawon, y dysgwyr a phawb sy’n rhan o’r cynllun i addasu yn cario pawb drwy flwyddyn lwyddiannus arall.
Ar ôl deg mis yn Nhrelew fe ddychwelais i Gymru i dreulio amser gyda fy nheulu dros y Nadolig. Yn anffodus, roedd yn amhosib dychwelyd i Batagonia oherwydd bod mathau newydd o’r firws yn rhwystro teithio a chau ffiniau. Ond unwaith y bydd hi’n saff i deithio eto, byddaf ar yr awyren gyntaf yn ôl i Drelew!