Mae pob un ohonom yn ffeindio ein ‘llwybr’ ein hunain at daith dysgu iaith, a’n ffordd ein hunain o ddilyn ei thrywydd. Ond, yng Nghymru mae llai a llai o ddysgwyr yn dewis parhau â’u teithiau ieithyddol, ac nid yw ffigurau eleni’n eithriad. Er bod amodau eleni’n anarferol, mae ffigurau arolwg Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2020 yn dangos bod cwymp pellach yn y nifer sy’n dewis sefyll arholiad TGAU neu Lefel A mewn iaith ryngwladol.
Ond ni fu prinder mentrau gan Lywodraeth Cymru, ysgolion a chyrff allannol i hyrwyddo dysgu ieithoedd ledled y wlad, yn ogystal ag ymdrech ar y cyd i amlygu sut y gall potensial Cymru fel gwlad ddwyieithog fod yn enghraifft o arfer da yn y maes yma. Felly, sut yn union gall y mentrau yma helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad?
Yn yr erthygl yma, rwy’n trafod fy ngwaith ymchwil ar gyfer fy Noethuriaeth, sy’n archwilio cyfraniad mentrau allanol i’r ymdrech i hyrwyddo addysgu a dysgu ieithoedd tramor yma yng Nghymru. Wrth ganolbwyntio ar un elfen o fenter Llwybrau at Ieithoedd Cymru, sef defnyddio cynlluniau llysgenhadon i fanteisio ar ddylanwad cyfoedion ar ei gilydd, byddaf yn amlygu’r rôl sydd gan weithgareddau allanol i’w chwarae wrth gefnogi ysgolion a dysgwyr i ffeindio eu ‘llwybr’ at daith dysgu iaith, a’u ‘llwybr’ ar hyd y daith honno.
Ymchwilio i fentrau allanol
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae mentrau allanol wedi bod yn un o’r arfau amlwg a ddefnyddiwyd i hyrwyddo addysgu a dysgu ieithoedd yn y Deyrnas Unedig, ac mae athrawon yng Nghymru wedi nodi defnydd sylweddol o fentrau o’r fath . Yn hytrach na ffurfio rhan uniongyrchol o’r system addysg, daw’r elfennau hyn o’r tu allan. Yn aml maent yn cael eu cynnal gan brifysgolion, gan ddod â nifer o ffactorau allweddol yn y maes ynghyd i greu rhwydweithiau eiriolaeth cydweithredol a rhagleni amrywiol o weithgareddau.
Y gred gyffredinol yw y gall mentrau fel hyn newid cymhelliant ac agwedd dysgwyr tuag at ieithoedd ac mae’r ysgolion sy’n cymryd rhan ynddynt yn rhoi gwerth mawr arnynt. Ond hyd yma, bu ymchwil y tu hwnt i effeithiolrwydd mesuradwy gweithgareddau fel hyn yn brin. Mae dealltwriaeth am y prosesau a’r profiadau a ddaw yn sgil gweithgareddau fel hyn hefyd yn brin. Gallai gwell dealltwriaeth ein helpu i asesu eu heffaith bosib yn y dyfodol a gwneud y gorau o’r manteision hynny mewn cyd-destunnau amrywiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yma yng Nghymru lle mae gennym dirlun addysgol ac ieithyddol gwahanol yn ogystal ag amgylchedd ysgogol i ddysgwyr. Deall ‘sut’ mae’r prosiectau yma’n cael dylanwad yw’r cam pwysig nesaf i sicrhau eu cynaliadwyedd a’i heffeithiolrwydd yn y dyfodol.
Llwybrau at Ieithoedd Cymru
Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn un o’r mentrau allanol mwyaf nodedig yng Nghymru (a’r Deyrnas Unedig). ‘Prosiect allanol cydweithredol yw Llwybrau at Ieithoedd Cymru sy’n anelu i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dewis astudio Ieithoedd Tramor Modern drwy hybu amlygrwydd, poblogrwydd a phroffil ieithoedd modern yng Nghymru’.
Mae cylch gwaith ‘Llwybrau Cymru’ yn cwmpasu Cymru gyfan ac mae’n cael ei gynnal a’i ariannu gan bump o Brifysgolion Cymru (gyda’r prif hybiau ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor). Mae’r prosiect hefyd yn derbyn arian gan bedwar consortiwm addysg rhanbarthol Cymru fel rhan o gynllun Dyfodol Byd-eang a British Council Cymru. Mae’r prosiect yn trefnu amrywiaeth eang o weithgareddau i ysgolion gan gynnwys dosbarthiadau meistr ar gyfer dysgwyr Lefel A a chynhadleddau a digwyddiadau iaith.
Gweithgareddau mwyaf poblogaidd y prosiect o bell ffordd yw ei ddau gynllun llysgenhadon; ‘Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith’ (SLA) a ‘Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith’ (PLA). Y ddau gynllun yma yw prif ffocws fy ngwaith ymchwil. Mae’r ddau gynllun yn hyfforddi llysgenhadon i hyrwyddo dysgu ieithoedd ymysg eu ‘cyfoedion’ - naill ai drwy ymweld ag ysgolion (Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith) neu drwy drefnu gweithgareddau yn eu hysgolion (Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith). Ond beth sy’n gwneud y model yma mor eithriadol o boblogaidd a pha elfennau sy’n helpu i hwyluso’r gwaith o hyrwyddo dysgu ieithoedd?
Cymhelliant i ddysgu: gwerth rhyngweithio rhwng cyfoedion
Gwelir bod myfyrwyr o brifysgol sy’n cymryd rôl Llysgenhadon Iaith mewn ysgolion ‘yn cymryd safle rhwng yr athrawon a’r disgyblion’ O ganlyniad, pan maen nhw’n ymweld ag ysgolion i siarad â disgyblion neu ddarparu cefnogaeth yn y dosbarth, maen nhw’n gallu sefydlu perthnasoedd llai ffurfiol a mwy cyfartal gyda disgyblion. Mae hynny yn ei dro yn eu helpu i ennill ymddiriedaeth y disgyblion wrth rannu eu rhesymau dros ddysgu ieithoedd.
Mae cysylltiad annatod rhwng ceisio hybu dysgu ieithoedd mewn ysgolion a phrofiadau’r disgyblion yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt, gan gynnwys ymddieithrio o’r pwnc a dylanwad agweddau cymdeithasol. Er y gall hyn gyflwyno heriau o ran dysgwyr sydd wedi dadrithio, fe all ‘Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith’ helpu yma hefyd. Gan fod y llysgenhadon a’r disgyblion yn agosach o ran oedran, mae’r disgyblion yn ei chael yn haws troi at y llysgenhadon, ac felly mae’n haws creu canfyddiad bod profiadau cyffredin ganddynt - ‘yr un sefyllfa(…) yr un heriau’ . Gall yr argraff bod dysgu ieithoedd yn anodd fod yn rhwystr i lawer, ond drwy rannu eu profiadau personol am eu teithiau dysgu yn agored a gonest gall y Llysgenhadon Iaith gynnig gobaith ac ysbrydoliaeth i ddysgwyr iau.
Ar ben hynny, yn aml mae ‘Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith’ yn gallu dod â phrofiadau, ieithoedd a diwylliannau na fyddai’n cael eu rhannu fel arall yn yr ystafell ddosbarth. Rhyngddynt roedd y Llysgenhadon Iaith a gafodd hyfforddiant drwy brosiect Llwybrau Cymru yn 2019/20 yn defnyddio o leiaf 12 o ieithoedd gwahanol yn ogystal â Chymraeg a Saesneg. Felly, nid yn unig maent yn gallu tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng yr ieithoedd hyn, ond maent hefyd yn gallu ehangu canfyddiad y disgyblion am yr amrywiaeth o lwybrau gwahanol sydd ar gael wrth ddysgu iaith. Mae hynny’n ffitio’n agos gyda’r dull amlieithog a amlinellir yng nghynllun Dyfodol Byd-eang a’r Cwricwlwm i Gymru yn 2022 .
Tra bod ‘Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith’ yn cymryd safle rhwng disgyblion ac athrawon, mae ‘Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith’ (PLA) yn cymryd safle yn eu cylch yn yr ysgol fel dysgwyr yn ogystal â llysgenhadon. Maent yn ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 sy’n cael eu hyfforddi i hybu dysgu ieithoedd ymysg eu grŵp oedran. Mae ‘Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith’ yn unigryw yn hyn o beth. Prin iawn (os oes rhai o gwbl) yw’r enghreifftiau eraill o fentrau sy’n cynnig rolau tebyg i ddisgyblion.
Mae cysylltiad agos rhwng darpar ddylanwad cynllun ‘Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith’ a dylanwad grwpiau cyfoedion ar gymhelliant a llwyddiant academaidd ‘drwy ‘fodelu’ ac atgyfnerthu sy’n seiliedig ar gyfoedion’ . Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod cyfnod yr arddegau, sef oedran y Llysgenhadon Iaith yma, lle mae dysgwyr yn edrych ymysg eu cyfoedion am gymeradwyaeth i’w gweithredoedd a’u penderfyniadau. Ond weithiau gall dylanwad cyfoedion amlygu gwahaniaeth yn ogystal â thebygrwydd. Mae hyn yn awgrymu bod dewis pa ddisgyblion sy’n dod yn Llysgenhadon Iaith a dewis y gweithgarwch sy’n cael ei hybu ganddynt yn ystyriaethau pwysig wrth roi’r cynllun yma ar waith - i sicrhau bod y grŵp cyfeirio sy’n cael ei greu yn cael ei weld fel rhywbeth positif gan eu cyfoedion.
O ystyried pwysigrwydd cyfoedion ymysg disgyblion yr oedran yma, gellid dadlau mai’r Llysgenhadon Iaith sydd yn y sefyllfa orau i ddeall cymhellion eu cyd-ddisgyblion, a llunio gweithgareddau hyrwyddo sy’n berthnasol iddynt. Wedi dweud hynny, gellid ystyried bod a wnelo’r rôl lawn cymaint â chymell y disgyblion hynny sy’n dod yn llysgenhadon ag a wnelo â chymell y disgyblion o’u cwmpas. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i’r Llysgenhadon Iaith ‘chwarae rolau arwain’ yn eu hysgolion – cyfle sydd ddim ar gael yn aml i ddisgyblion yr oedran yma ac sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn a statws iddynt.
Fel rhan o fy ngwaith ymchwil, rwy’n archwilio rhai o’r elfennau hyn o rôl y ‘Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith’ (SLA) a’r ‘Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith’ (PLA), gan ystyried os adlewyrchir yr elfennau hynny ym mhrofiadau’r rheini sy’n cymryd rhan yn y prosiect ar hyn o bryd.
Mapio’r daith ymlaen
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos nad gwaith i un sector neu un grŵp yn unig yw troi’r dirywiad yn nifer y dysgwyr ieithoedd yng Nghymru ar ei ben, ac ni fydd y sefyllfa yma’n cael ei datrys dros nos.
Yn ogystal â dod â nifer o randdeiliaid at ei gilydd i roi model cydweithredol ar waith, mae prosiectau fel Llwybrau Cymru’n cynnwys y dysgwyr yn y gwaith o hyrwyddo dysgu ieithoedd. Nod fy ymchwil yw dangos pwysigrwydd rhoi cyfle i ddysgwyr gyfrannu i’r broses yma, gan mai ganddyn nhw mae’r profiad mwyaf diweddar o lywio eu ffordd ar hyd y daith.