Yma, mae Rebecca Gould, Pennaeth Celfyddydau British Council Cymru, yn disgrifio sut y denodd cyfres o ddigwyddiadau ar-lein gynulleidfa a oedd yn awyddus i glywed am sut y mae diwylliant wedi helpu i feithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac India.
Bu’r ŵyl yn llwyddiant ysgubol ac fe ymunodd miloedd gyda ni i wylio’r digwyddiadau ar blatfformau’n cynnwys Facebook, YouTube ac Instagram.
‘Mentrau ar y cyd mewn llenyddiaeth’ oedd y digwyddiad a lansiodd yr ŵyl - mewn partneriaeth gyda Diwali Digidol Llywodraeth Cymru #DiwaliCymru
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Barbara Wickham OBE, Cyfarwyddwr British Council India a chafodd ei gadeirio gan Clare Reddington, un o Ymddiriedolwyr y British Council a Phrif Swyddog Gweithredol y Watershed ym Mryste. Roedd y panel yn cynnwys y bardd gwobrwyedig o Gymru, Natalie Ann Holborow; Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler; y bardd a’r curadur, Mamta Sagar; ac Arunava Sinha, cyfieithydd llenyddol ac Athro Cyswllt mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Ashoka.
Lansio cyfrol newydd ar-lein
Roedd y digwyddiad yma’n archwilio’r mentrau ar y cyd niferus ym maes llenyddiaeth sydd wedi cael eu cynnal yn ddiweddar rhwng India a Chymru. Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd cyfrol newydd Modern Bengali Poetry: Desire for fire ei lansio gan y cyhoeddwyr blaenllaw o Gymru, Parthian Books. Mae’r gyfrol yn cyflwyno casgliad o gerddi’n dathlu dros ganrif o farddoniaeth o’r ddwy Bengal – y dalaith yn Nwyrain India a gwlad Bangladesh. Mae’n cynnwys cerddi gan dros hanner cant o feirdd gwahanol mewn myrdd o ffurfiau ac arddulliau. Cafodd y cerddi eu dewis a’u cyfieithu gan Arunava Sinha.
Natalie Ann Holborow (a dderbyniodd grant India-Cymru yn 2017) oedd ein siaradwr cyntaf. Fe ddangosom ffilm fer, And suddenly you find yourself, lle gwelir Natalie yn adrodd ei cherddi ar strydoedd India. Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan y sgwennwr, Sion Tomos Owen. Rhannodd Natalie ei phrofiadau o India gyda ni; gan sôn am yr argraff ddofn a wnaeth y wlad a’i phobl arni, a’r cyfeillion newydd y gwnaeth hi eu cwrdd ar hyd y daith. Soniodd hefyd am ei phrofiad yng Ngŵyl Lenyddol Kolkata, lle cafodd ei llyfr ei lansio.
Nesaf, cawsom gyfle i wylio ffilm delynegol ‘INTERVERSIONS 3’ a seiliwyd ar gysyniad gan Mamta Sagar ac a gynhyrchwyd gan Sefydliad Celf, Dylunio a Thechnoleg Srishti-Manipal. Roedd y ffilm yn ffrwyth llafur menter farddonol ar y cyd rhwng Mamta Sagar a Nia Davies fel rhan o brosiect ‘Cysylltiadau Barddonol’ a drefnwyd gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau.
Dod â deg o feirdd o India a Chymru at ei gilydd
Ar ôl y ffilm, cafwyd sgwrs fer gan Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, yn trafod prosiect ‘Cysylltiadau Barddonol India-Cymru’ a ddaeth â deg o feirdd o India a Chymru at ei gilydd i gydweithio. O ganlyniad i’r prosiect, cafodd pump o gyfrolau eu creu – gellir eu prynu yma. Soniodd Alexandra am bwysigrwydd datblygiad creadigol y sgwennwr a sut y mae mentrau cydweithredol fel yma’n helpu sgwenwyr i greu perthnasoedd newydd yn ogystal â’u helpu i ddiffinio eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain.
Nesaf, cafwyd perfformiad grymus gan Arunava Sinha yn adrodd detholiad o gerddi. Wedi hynny, siaradodd am ei gysylltiad personol â Chymru, a sut y tyfodd i fyny’n darllen barddoniaeth Dylan Thomas. Soniodd am ei gyfrol, ‘Modern Bengali Poetry’, a diolchodd i Richard Davies o Parthian am gysyniad y gyfrol ac am ei chyhoeddi.
Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn Holi ac Ateb bywiog a llawn gweledigaeth lle bu’r panelwyr yn trafod pwysigrwydd gwyliau a digwyddiadau sy’n rhoi cyfle i bobl ym maes llenyddiaeth ddod at ei gilydd; sut mae amlieithrwydd yn dod ag ansawdd arbennig i ysgrifennu, barddoniaeth a gwleidyddiaeth; sut y mae’r panelwyr wedi addasu i’r ‘normal newydd’; a sut y mae’r broses o ddefnyddio platfformau digidol i greu cysylltiadau a gwaith wedi dod â haul ar fryn.
Gallwch wylio’r digwyddiad cyfan yma: https://fb.watch/1-qIVTBZRn/