Gan Lucy Jenkins, Cydlynydd Cenedlaethol, Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern

20 Tachwedd 2020 - 12:00

Rhannu’r dudalen hon

Cafodd Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern ei lunio mewn ymateb i’r dirywiad parhaus yn nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern wedi’r cyfnod lle mae’n bwnc gorfodol yng Nghymru (Cyfnod Allweddol 3). Mae dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 rhwng 11-14 oed, sef Blynyddoedd 7,8 a 9 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac S1, 2 a 3 yn yr Alban 

Ers 2015 mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru, ac mae bellach yn elfen graidd o’r Strategaeth Dyfodol Byd-eang a gafodd ei diweddaru ar gyfer 2020-22. 

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar newid agweddau ac argraffiadau am ieithoedd drwy hyfforddi myfyrwyr israddedig mewn pedair prifysgol yng Nghymru (Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe) i fentora dysgwyr Blynyddoedd 8 a 9 (12-14 oed) mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru i weld gwerth a manteision dysgu ieithoedd. 

Mae’r prosiect yma wedi ysbrydoli cynllun tebyg yn Lloegr – Language Horizons

Ers 2015, mae’r prosiect wedi tyfu – o weithio gyda 18 o ysgolion cynradd yng Nghymru yn y flwyddyn gyntaf, i gydweithio gyda 95 o ysgolion uwchradd yn 2019-20. Mae’r prosiect wedi ysbrydoli datblygiad prosiect tebyg yn Lloegr, sef Language Horizons  yn ogystal â chefnogi chwaer-brosiect ar gyfer Ffiseg  yma yng Nghymru. Hefyd, mae tîm y prosiect wedi datblygu partneriaeth ryngwladol gyda rhanbarth Castilla y Leon yn Sbaen. 

Mae’r hyfforddiant a ddarperir gan y prosiect wedi’i lunio’n arbennig i helpu’r mentoriaid i ddefnyddio methodoleg amlieithog yn ogystal ag amlygu cysylltiadau traws-gwricwlaidd ieithoedd, diwylliannau a phobloedd. Mae’r mentoriaid, sy’n fyfyrwyr israddedig, yn gallu dangos i’r dysgwyr iau nad yw ieithoedd yn gaeth mewn tyrau ynysig, ond yn hytrach eu bod yn rhyngweithio’n fywiog gyda meysydd pwnc eraill ac yn rhan annatod o brofiadau bywyd bob dydd.

Mae 2020 wedi cyflwyno heriau a chyfleoedd newydd i addysgu a dysgu ieithoedd

Mae’r prosiect yn cefnogi dull amlieithog y Cwricwlwm i Gymru , gan herio dysgwyr iau i ystyried yr amgylchedd ieithyddol ar garreg eu drws yn ogystal ag amgylcheddau ieithyddol pellach i ffwrdd  – gan symud o ddwyieithrwydd i amlieithrwydd. Un o fanteision y berthynas gefnogol ymysg y rheini sydd bron yn gyfoedion, yw y gall y dysgwyr a’r mentoriaid herio safbwyntiau, disodli rhagdybiaethau am ieithoedd, a thanio brwdfrydedd am ddysgu ieithoedd gydol oes. Mae hunanfynegiant a chysylltedd â’r lleol a’r byd-eang yn elfennau craidd o’r Cwricwlwm i Gymru ac o’r prosiect yma. Mae ieithoedd yn rhan o bwy ydym, lle yr ydym a phwy yr ydym am fod yn y dyfodol – maent yn fwy na chyfrwng i ennill cymwyster TGAU. 

Mae 2020 wedi cyflwyno heriau a chyfleoedd newydd i’r prosiect. Bu newid ar fyd y rhan fwyaf o ddysgwyr yng Nghymru wedi’r newid sydyn i ddysgu ar-lein/o bell oherwydd Covid-19. Gadawyd y dysgwyr hyn heb fawr o gefnogaeth ffurfiol neu ‘fyw’ ar gyfer eu haddysg iaith. Ac eto, yn groes i’r disgwyl, mae syrthni’r cyfnod clo wedi ein gwneud ni’n fwy ymwybodol o werth cyfathrebu mewn gwahanol ffurfiau, fel dyheu am goflaid (ystumiau/ cyfathrebu corfforol), dysgu sut i gyfathrebu ar-lein (gweledol, ysgrifenedig a/neu ar lafar) ac ail-ddysgu sut i ffurfio a chynnal perthnasoedd o bell. Wrth i ni ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth, gallwn fanteisio ar y profiadau bywyd yma i newid agweddau at ieithoedd, diwylliannau a chyfathrebu.

Mentora Ieithoedd yn symud ar-lein

Yn 2020-21 bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno’n llawn ar-lein. Bydd yn cynnig cefnogaeth i ysgolion uwchradd yng Nghymru mewn tair ffordd:

1.Mentora ar-lein ar gyfer Blynyddoedd 8 a 9 https://www.mflmentoring.co.uk/project_streams

2.NEWYDD! Prosiect Adfer a Defnyddio Sgiliau Iaith ar gyfer dysgwyr ôl-16  https://www.mflmentoring.co.uk/project_streams

3.NEWYDD! Casgliad o adnoddau ar-lein ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4, yn datblygu dulliau’r Cwricwlwm i Gymru https://www.mflmentoring.co.uk/project_streams

Bydd y prosiect yn parhau i weithio i newid agweddau a thanio brwdfrydedd tuag at ieithoedd. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae rhwng 40% - 50% o’r dysgwyr a gafodd eu mentora wedi dewis astudio iaith ar gyfer TGAU (o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru yn 2018, sef 18%). Bydd y prosiect yn cynnal y momentwm yma yn ogystal â hybu datblygiad ymarfer newydd. Er bod y ‘rhyngwladol’ yn gallu ymddangos fel rhywbeth sy’n bell i ffwrdd, yn enwedig wrth i’r cyfnod clo barhau, ni fu dysgu ieithoedd yng Nghymru a thu hwnt erioed mor bwysig ag ydyw nawr.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma: www.mflmentoring.co.uk 

Lucy Jenkins, Cydlynydd Cenedlaethol, Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern

Lucy Jenkins

Cydlynydd Cenedlaethol, Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern