Mae Anna Vivian Jones yn disgrifio sut y gallai'r Cwricwlwm newydd i Gymru addysgu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc amlieithog.
Mewn ymateb i arolygon rhyngwladol ac adroddiadau gan Estyn, dechreuodd Cymru ar y broses o ddiwygio addysg er mwyn codi safonau a chreu cwricwlwm addas i’r unfed ganrif ar hugain. Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddysgu ym mhob ysgol a lleoliad yng Nghymru hyd at Flwyddyn 7 o fis Medi 2022, ac yna i bob blwyddyn ddilynol nes ei fod yn cyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026.
Bydd y cwricwlwm hwn yn darparu cyfleoedd cyffrous i ysgolion fabwysiadu ymagwedd newydd tuag at ddysgu ieithoedd er mwyn magu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc amlieithog yng Nghymru.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a gweledigaeth y pedwar diben
Yr hyn sy’n unigryw am y cwricwlwm hwn yw ei fod yn cael ei yrru gan ddibenion. Mae hyn yn golygu bod y pwyslais yn symud o’r hyn y mae dysgwyr yn ei wybod i’r bobl y byddant yn tyfu i fod.
Bydd y dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei rannu ar draws 6 maes dysgu a phrofiad, a rhaid eu gweld nid fel nod ynddynt eu hunain, ond yn gyfrwng i alluogi ysgolion i wireddu gweledigaeth y pedwar diben. Bydd yr holl ddysgu yn cefnogi dysgwyr i ddod yn:
• ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
• gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
• ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
• unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Daw ieithoedd at ei gilydd yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu a dyw e ddim yn anodd gweld sut bydd y Maes hwn yn galluogi dysgwyr i weithio tuag at y pedwar diben hyn, gan mai’r dyhead yw i feithrin dysgwyr
• sy’n ddefnyddwyr hyderus o’r Gymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith arall, ac yn meddu ar y sgiliau a’r chwilfrydedd i ddysgu a mwynhau ieithoedd gydol oes
• sy’n ymfalchïo yn eu hunaniaeth Gymreig, ac yn ymhyfrydu mewn amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol
• sy’n deall bod ieithoedd yn arwain at ymdeimlad o berthyn ac yn allwedd i ddeall pobloedd a chymunedau eraill yng Nghymru a’r byd.
Camau cyntaf tuag at wireddu y weledigaeth
Y cam cyntaf i ysgolion yw deall bod tirwedd ieithyddol Cymru yn dod yn fwyfwy amrywiol a chyfoethog, ac yn gallu bod yn eithaf cymhleth. Mae’r sector cyfrwng Cymraeg yn enghraifft o hyn. Mae yna ysgolion yng ngogledd orllewin Cymru lle mae hyd at 99% o’r dysgwyr yn dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Ewch i’r de ddwyrain, fodd bynnag, ac fe welwch ysgolion lle nad yw 99% o’u dysgwyr yn clywed y Gymraeg o gwbl y tu allan i oriau ysgol. Mae’r amrywiaeth hyd yn oed o fewn un sector yn drawiadol. Ar ben hynny, mae yna ysgolion yng Nghaerdydd, er enghraifft, lle nad yw tri chwarter o’r dysgwyr yn siarad Cymraeg na Saesneg gartref.
Mae’n hollbwysig, felly, bod ysgolion yn adnabod eu tirwedd ieithyddol unigryw er mwyn gallu cynllunio cwricwlwm sy’n bodloni anghenion iaith eu dysgwyr.
Dull newydd o ddysgu ieithoedd
Wrth i ffyrdd newydd o feddwl am ddysgu ieithoedd ddod i’r amlwg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, felly mae Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ein gwahodd i fabwysiadu ymagwedd newydd.
Dyma bump o egwyddorion allweddol y dull newydd hwn sy'n sail i'r dysgu yn y Maes , ac a fydd yn galluogi'r dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
Yn gyntaf, tra bod ieithoedd hyd yn hyn wedi tueddu cael eu dysgu fel disgyblaethau ar wahân, mae CiG yn dod â ieithoedd at ei gilydd. Y peth pwysicaf i’w ddeall am y Maes hwn yw ei fod wedi'i seilio ar y dybiaeth bod unrhyw ddysgu mewn un iaith – boed hynny'n feithrin geirfa, gramadeg, sgiliau neu werthfawrogiad o lenyddiaeth – yn gallu cefnogi dysgu ym mhob iaith ddilynol. Mae dwyn pob iaith ynghyd yn y modd hwn yn rhoi pwyslais ar drosglwyddo gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o un iaith i'r llall.
Yn ail, mae’n ofynnol yn y cwricwlwm hwn i ddysgu am ieithoedd. Bydd rhannu negeseuon cyson ar draws y Maes am sut mae ieithoedd yn gweithio yn hwyluso cynnydd y dysgwyr ym mhob iaith. Bydd cyfle yma i ddeall strwythur ieithoedd yn well trwy adeiladu ar y tebygrwydd, y cysylltiadau ac hefyd y gwahaniaethau rhyngddynt. Gwelwn hefyd bod gan ddysgwyr ddiddordeb mewn tarddiad ac esblygiad ieithoedd, ac yn hoffi dysgu am le y Gymraeg yn stori ieithoedd y byd. Mae’n bwysig hefyd iddynt ddeall taw addasu mae ieithoedd i anghenion cymdeithas ac y gallan nhw fod yn rhan o’r esblygiad hwnnw trwy fod yn greadigol gyda’u defnydd nhw o iaith.
Yn drydydd, mae’r cysyniadau allweddol ar gyfer dysgu ym mhob Maes wedi eu hymgorffori yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Mae’r datganiad bod ‘Ieithoedd yn ein cysylltu ni â’n gilydd’ yn ein harwain i ystyried y berthynas rhwng iaith a diwylliant a iaith a hunaniaeth. Bydd deall hyn yn hollbwysig i baratoi ein dysgwyr i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.
Bydd y cyfle I fyfyrio ar eu perthynas nhw â ieithoedd yn arwain dysgwyr i ddatblygu delwedd gadarnhaol o’u hunain fel pobl ifanc amlieithog. Dywedodd un bachgen blwyddyn 9 mewn ysgol leol yn ddiweddar : “ I don’t speak any languages, but I am learning Spanish in school and I’m pretty good at Welsh.” Dyna braf pe byddai ef trwy’r cwricwlwm hwn yn gallu ymfalchio yn ei berthynas amrywiol ef â’r dair iaith hon , ac yn dweud yn lle “ I speak three languages : firstly English, then Welsh, then Spanish”.
Yn bedwerydd, er bod llawer o ysgolion cynradd eisoes yn cyflwyno trydydd iaith, bydd yn ofynnol nawr i ddysgwyr ddangos cynnydd yn yr iaith honno. Bydd angen i ysgolion roi ystyriaeth i ba iaith y byddan nhw yn ei dewis a pham. Rhaid cofio hefyd nad jyst ychwanegu trydydd iaith ar wahân yr ydym, ond ychwanegu haen arall o iaith i gyd-destun dwyieithog, ac felly bydd dechrau gyda’r hyn mae dysgwyr yn ei ddeall am ieithoedd yn barod yn allweddol.
Yn olaf, mae sgiliau newydd yn ymddangos yn y cwricwlwm hwn. Rydym yn hen gyfarwydd â’r sgiliau arferol o ddysgu iaith, sef gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu, ond beth am y sgil o negydu dwy iaith? Wel mae’r sgiliau o bontio rhwng ieithoedd, sef cyfryngu a thrawsieithu yn ymddangos yma yn ein Maes ni. Er bod plant a phobl ifanc yn defnyddio y sgiliau hyn yn reddfol yn eu bywyd bob dydd, bydd yn ofynnol nawr i ddangos cynnydd ynddynt. Mae cyfle yma hefyd i gynnwys ieithoedd eraill megis ieithoedd cymunedol, iaith arwyddion a dulliau eraill o gyfathrebu, a fydd yn sicrhau bod y cwricwlwm hwn yn un hollol gynhwysol.
Mae’r egwyddorion hyn yn gwneud Cwricwlwm i Gymru yn berthnasol, yn uchelgeisiol ac yn gyfoes. Mae’n gwahodd ymarferwyr ar draws y Maes i gydweithio a dychymgu dyfodol newydd o ran dysgu a mwynhau ieithoedd gydol oes i’w dysgwyr. A’r cwestiwn sydd angen i ni gyd ei ofyn yw nid 'Sut y bydd hi os gwnawn pethau'n well?' ond 'Sut y gallai fod pe byddem yn gwneud pethau yn wahanol?”