Gan Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru

16 Rhagfyr 2020 - 11:00

Rhannu’r dudalen hon
Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg
Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg ©

Llywodraeth Cymru

Siaradodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg â ni am ei gweledigaeth ar gyfer dysgu ITM a Chymru fel cenedl amlieithog.

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer Cymru fel gwlad amlieithog?

Rwyf wedi ymrwymo i’r weledigiaeth y bydd dysgwyr yng Nghymru yn tyfu’n ddinasyddion byd-eang ac amlieithog. Mae’n hanfodol ein bod yn hyrwyddo pwysigrwydd ieithoedd tramor modern a’r cyfleoedd arwyddocaol y maent yn eu cynnig i fywydau a gyrfaoedd ein pobl ifanc.

Mae dysgu ieithoedd yn cynnig mwy i’n pobl ifanc na chymwysterau’n unig, mae’n ehangu eu gorwelion, cyfoethogi eu dealltwriaeth ddiwylliannol a’u harfogi â sgiliau y gallant eu defnyddio yma a ledled y byd.

Pa amcanion y dylid eu blaenoriaethu wrth hyrwyddo dysgu ieithoedd yng Nghymru?

Rwy’n cydnabod fod mwy o gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth yn ganolog i hybu gwerthfawrogiad ysgolion o bwysigrwydd ieithoedd rhyngwladol.

Yn unol â’m hymrwymiad parhaus i ieithoedd rhyngwladol, rwyf wedi cytuno i ddwy flynedd arall o ariannu ar gyfer cymal nesaf ein rhaglen Dyfodol Byd-eang (2020-2022). Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gynyddu cyfanswm nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd yng Nghymru – ar bob lefel ac ar draws pob sector.

Un o amcanion strategol allweddol ein rhaglen Dyfodol Byd-eang ddiwygiedig yw cefnogi dysgwyr, rhieni ac ysgolion i werthfawrogi’r holl fanteision a ddaw wrth ddysgu iaith er mwyn herio canfyddiadau negyddol.

Rwy’ eisiau grymuso ein partneriaid a’n hymarferwyr i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth a chydweithio wrth fynd i’r afael â rhwystrau cenedlaethol cyffredinol i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei weithredu’n effeithiol ar gyfer ieithoedd.

Beth yw cryfderau Cymru ym maes addysgu a dysgu ieithoedd? Pa heriau sy’n wynebu Cymru o hyd?

Mae bod yn wlad ddwyieithog yn sicr yn gryfder. Bydd Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn hyrwyddo dull cyfannol o addysgu a dysgu ieithoedd, gan fanteisio ar gyfoeth ein treftadaeth ieithyddol fel gwlad ddwyieithog.

Rwy’ wastad wrth fy modd o weld cyrhaeddiad rhagorol ein myfyrwyr iaith bob blwyddyn – sy’n dysteb nid yn unig i waith caled y dysgwyr ond hefyd i’r addysgu rhagorol y maent wedi ei dderbyn. 

Mae gwybod bod ein hysgolion cynradd eisoes yn cynyddu eu darpariaeth iaith hefyd yn galondid i mi. Mae gwybod fod gwaith rhagorol yn digwydd yn barod yn ein hysgolion cynradd yn galonogol achos mae’n gosod y seiliau a fydd yn cefnogi ein gweledigaeth am Gymru amlieithog.

Rwy’ hefyd yn ymwybodol iawn o’r dirywiad yn nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio Ieithoedd Tramor Modern yn ysgolion uwchradd Cymru. Gyda chymorth ein partneriaid yn rhaglen Dyfodol Byd-eang rydym yn gweithio i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn astudio iaith a bod ysgolion yn cynnig dewisiadau i’w holl ddisgyblion.

Pa fath o gyfleoedd fydd y cwricwlwm newydd yn eu cynnig i hyrwyddo addysgu a dysgu ieithoedd?

Mae’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amgylcheddau a darpariaeth sy’n ieithyddol gyfoethog ledled Cymru. Mae’n dynodi newid yn ein diwylliant – yn hytrach na dweud wrth ysgolion beth y dylent ei wneud a’i addysgu, mae’n rhoi cyfrifoldeb i ysgolion ddatblygu’r cwricwlwm sy’n gweithio orau ar gyfer eu holl ddysgwyr, ond o fewn fframwaith cenedlaethol.

Dylai’r broses ddatblygu yma annog mwy o gyd-weithio, o fewn adrannau iaith, drwy’r ysgol i gyd, gydag ysgolion eraill, a hefyd, yn allweddol, gyda’r dysgwyr eu hunain. Dylai ysgolion deimlo fod ganddynt y grym i fod yn greadigol a datblygu cyfleoedd dysgu ystyrlon ar draws amrywiaeth o brofiadau a chyd-destunnau sy’n diwallu anghenion y dysgwyr.

Beth yw prif gryfderau a llwyddiannau strategaeth Dyfodol Byd-eang?

Mae’n bwysig cydnabod y modd y mae rhaglen Dyfodol Byd-eang wedi cefnogi’r gwaith o herio agweddau a chanfyddiadau negyddol am ddysgu iaith. Mae Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang, sy’n cynnwys partneriaid o’r consortia addysg rhanbarthol, Estyn, sefydliadau iaith a phrifysgolion, wedi gweithio i godi proffil, darparu arbenigedd a chefnogi addysgu a dysgu ieithoedd yn ein hysgolion.

Mae ariannu drwy raglen Dyfodol Byd-eang wedi arwain at greu canolfannau rhagoriaeth, lle mae ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion i wella addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern.

Mae’r Rhaglen Mentora Myfyrwyr ITM wobrwyedig sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan Brifysgol Caerdydd wedi bod yn rhedeg ers pedair blynedd. Mae wedi cyrraedd dros 10,000 o ddisgyblion ac wedi arwain at gynydd o 50% ar gyfartaledd yn nifer y dysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Tramor Modern yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan.

Rwy’ wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i’r consortia addysg rhanbarthol ar gyfer 2020-21 i wella’r cynnig cymorth iddynt ar gyfer ieithoedd tramor modern (ITM) - gyda ffocws penodol ar y sector cynradd. Ein nod yw hybu’r gwaith hollbwysig o adeiladu gallu yn y system. 

Rwy’ wedi rhoi cefnogaeth bellach i hyn drwy gynnig cyllid ychwanegol i alluogi athrawon cynradd i gymryd rhan yng nghynllun Athrawon yn Dysgu i Addysgu Ieithoedd (TELT) y Brifysgol Agored, sy’n cynnig Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mandarin i ddechreuwyr.

Mae strwythur y cwricwlwm newydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i greu polisi amlieithog cyfoethog ac effeithiol ar gyfer addysg ieithoedd yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion i werthfawrogi’r cyfleoedd yma a gwneud y gorau ohonynt fel y gall ein dysgwyr ifanc gystadlu yn y farchnad fyd-eang.