Gan Meleri Jenkins, Cydlynydd Prosiect, Llwybrau at Ieithoedd Cymru

20 Tachwedd 2020 - 12:00

Rhannu’r dudalen hon
Routes into Languages Cymru languages workshop with school pupils

Prosiect allgymorth cenedlaethol a ariennir gan dair Prifysgol yng Nghymru, y Consortia Addysg Rhanbarthol a’r British Council Cymru yw Llwybrau at Ieithoedd Cymru.  Yn rhan o rwydwaith ehangach yn y DU o dan ofalaeth yr University Counciul of Modern Languages (UCML), ers 2016 mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru wedi gweithredu fel prosiect dau hwb - un ym Mhrifysgol Caerdydd a’r llall ym Mhrifysgol Bangor - gyda dau gydlynydd prosiect wedi eu lleoli yn Ysgolion Ieithoedd y ddwy brifysgol hynny i gydlynu gweithgareddau’r prosiect. Ers 2019, Dr Liz Wren-Owens o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd yw Cyfarwyddwr Academaidd Llwybrau at Ieithoedd Cymru. Cynyddu gwelededd a hyrwyddo'r manteision o ddysgu ieithoedd sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn yn Llwybrau at Ieithoedd Cymru, a ni fu'r angen am wneud hyn yn bwysicach nag y mae heddiw.

Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Mae cyfraniad Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar bob lefel – cynradd, uwchradd ac addysg uwch - yn allweddol wrth godi proffil ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol eu hysgolion a’u cymunedau lleol.

Mae ein teithiau iaith ni i gyd yn wahanol, a dyna le saif pŵer y gefnogaeth y gall Llysgenhadon Iaith mewn Prifysgol Llwybrau at Ieithoedd Cymru ei gynnig. Yn flynyddol, hyfforddwn grŵp brwdfrydig o fyfyrwyr ieithoedd israddedig ac ôl-raddedig o brifysgolion Cymru i gefnogi gweithgareddau’r prosiect.  O ddysgwyr i hwyluswyr, trwy adrodd eu straeon unigryw, mae ein myfyrwyr yn fodelau rôl y gall dysgwyr ifanc uniaethu â nhw gan ddangos perthnasedd ieithoedd i’r byd ehangach tu allan i’r ystafell ddosbarth. Daw ein Llysgenhadon Prifysgol o gefndiroedd amrywiol - o Gymru, Lloegr, Ewrop a thu hwnt- ac fel unigolion dwyieithog ac amlieithog, dangosant, trwy eu straeon amrywiol a’u meddylfryd byd-eang, y posibiliadau cyffrous y gall astudio ieithoedd eu cynnig.

Cefnogi’r Cwricwlwm Newydd

Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru gyda’r ffocws ar amlieithrwydd a lluosieithrwydd yn gyfle i wella’r canfyddiadau sydd ynghlwm wrth ddysgu ieithoedd.  

Gobeithir y bydd ddechrau’r daith iaith yn y cynradd, gan ddefnyddio hyblygrwydd ieithyddol disgyblion oed cynradd a chysylltu dwyieithrwydd fel rhywbeth sy’n cefnogi amlieithrwydd, yn galluogi dysgwyr i feddu ar ymagwedd wahanol ar ieithoedd am weddill eu gyrfa addysgol. 

I gefnogi athrawon cynradd wrth gyflwyno ieithoedd rhyngwladol ochr yn ochr â Chymraeg a Saesneg, rydym ar hyn o bryd yn datblygu cefnogaeth fwy systematig i ysgolion ac wrthi’n creu ‘Pecyn Cymorth Cynradd’.  Byddwn yn cynnig pecyn adnoddau a llawlyfr pedagogaidd i athrawon ar sut y gellir cyflwyno’r cwricwlwm newydd.  

Rydym hefyd eleni yn gobeithio datblygu ymhellach ein cynllun Arwyr Ieithoedd Rhyngwladol gan hyfforddi ‘arwyr’ cynradd i fod yn llais ieithoedd rhyngwladol yn eu hysgolion, gan hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.

Datblygu ar gyfer y dyfodol

Gobeithir y bydd y ddau gynllun cynradd yma’n bwydo i mewn i’r continwwm o weithgareddau rhwng y cynradd a’r uwchradd gyda’n Llysgenhadon Iaith Uwchradd yn parhau gyda’r gorchwyl o hyrwyddo ieithoedd. Trwy fanteisio ar ein realiti digidol cyfredol, gobeithiwn ymgysylltu mwy gyda’n timoedd Llysgenhadon Iaith Uwchradd eleni gan eu cynorthwyo gyda’u tasg o alluogi eraill yn y gymuned ysgol i feddwl yn fwy positif am yr ieithoedd a siaradant adref neu a ddysgant yn yr ysgol.  Gobeithiwn hefyd drefnu cynhadledd genedlaethol rithwir ar ddiwedd tymor yr haf er mwyn dathlu llwyddiannau ac i rannu arfer dda.

Trwy gryfhau ein cynllun Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd Cymru a’n cymorth pwrpasol ar gyfer y sector cynradd, gobeithiwn hyrwyddo manteision positif ieithoedd a sut y gall ein hunaniaeth ddwyieithog ni yng Nghymru alluogi ein disgyblion i fod yn amlieithog a lluosieithog ac yn ‘ddinasyddion egwyddorol, gwybodus,  yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd’.

Meleri Jenkins, Cydlynydd Prosiect, Llwybrau at Ieithoedd Cymru

Meleri Jenkins

Cydlynydd Prosiect, Llwybrau at Ieithoedd Cymru