Rebecca Gould sy'n adolygu'r digwyddiad Mentrau ar y cyd ym maes cerddoriaeth.
Cafodd digwyddiad ‘Mentrau ar y cyd mewn cerddoriaeth’ ei rannu’n ddwy sesiwn ar wahân. Cafodd trafodaeth banel wedi’i recordio ymlaen llaw ei chyflwyno fel rhan o Ŵyl Gerddoriaeth Rithwir India-Cymru Ziro FOCUS - cafodd ei dangos ar eu platfform rhithwir arbennig yn ogystal â thrwy sesiwn byw ar Instagram. Cymerodd y digwyddiad yma fantais lawn o’r posibiliadau sydd ar gael wrth ddefnyddio platfformau digidol sy’n gydategol i gysylltu, cydweithio a chyflwyno syniadau newydd.
Archwilio cyweithiau cerddorol Indo-Gymreig
Prosiectau cerddoriaeth rhaglen bresennol Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant India-Cymru oedd ffocws y drafodaeth banel yma – yn archwilio cyweithiau cerddorol Indo-Gymreig gyda chyfarwyddwyr a chynhyrchwyr gwyliau cerddoriaeth ar draws ffiniau, rhywedd a thirluniau digidol. Cyflwynwyd y sesiwn gan Roshni Rao, Pennaeth Celfyddydau – De India, British Council India. Cafodd y sesiwn ei chadeirio gan Tom Sweet, rheolwr rhaglenni cerddoriaeth y British Council.
Y cyfranwr cyntaf oedd Divya Bhatia, cyfarwyddwr artistig a chyd-gynhyrchydd gŵyl Jodhpur RIFF. Soniodd am y broses artistig sy’n arwain at greu gwyliau cydweithredol gyda chymorth detholiad o ddelweddau a fideos. Soniodd hefyd am y cydweithredu cerddorol rhwng Jodhpur RIFF yn Rajasthan a dwy ŵyl yng Nghymru, Beyond the Border - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru a Gŵyl y Llais.
Roedd rhai o’r delweddau a’r fideos o’r sesiynau ymarfer yn dangos sut y mae cerddoriaeth yn codi uwchlaw ffiniau i greu cysylltiadau a chyfeillgarwch oes.
Nesaf, cafwyd cyfraniad gan Lubna Shaheen o Guwahati - cynhyrchydd annibynnol a chyfarwyddwr rhaglen Gŵyl Gerddoriaeth Ziro. Soniodd am daith a datblygiad Gŵyl Gerddoriaeth Ziro a gynhaliwyd gyntaf yn 2012, yn nyffryn Ziro yng ngogledd-ddwyrain talaith Arunachal Pradesh, fel gŵyl DIY i roi llwyfan i’r sîn gerddoriaeth annibynnol yn India.
Y cyfranwr nesaf oedd Andy Jones, sy’n gyfrifol am raglen gerddoriaeth Focus Wales. Soniodd am egin y syniad cyntaf a dyfodd i fod yn Focus Wales – gŵyl arddangos aml-ganolfan ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam yng Ngogledd Cymru.
Sgwrsiodd Andy a Lubna am sut y bu’n rhaid i Ŵyl Gerddoriaeth Ziro a Focus Wales (sydd ill dau wedi derbyn grantiau gan raglen Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant India-Cymru) newid natur a chyfeiriad eu cynlluniau i gydweithio yn sgil y pandemig. O ganlyniad, fe lwyddon nhw i greu Gŵyl Gerddoriaeth Rithwir Ziro Focus India-Cymru - gŵyl gerddoriaeth rithwir ac ymdrochol. Fe wnaethon nhw greu tirlun rhithwir arbennig; a thrwy gyfrwng gweithiau celf gwych a llwyth o berfformiadau cerddorol fe lwyddon nhw i blethu tref Wrecsam a dyffryn Ziro gan ddod â byd rhithwir yn fyw o flaen llygaid y gynulleidfa. Roeddent yn siarad yn angerddol am y gwaith caled a’r dyfal barhad sy’n angenrheidiol wrth lwyfannu gŵyl gerddoriaeth - yn enwedig yn y cyfnod anodd presennol.
Pwysigrwydd gwyliau rhyngwladol
Yn olaf, siaradodd Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, am bwysigrwydd gwyliau o’r fath, a sut y gallant fod yn byrth i ddiwylliannau eraill. Siaradodd am Ghazalaw - un o brosiectau cerddorol India-Cymru rhwng y canwr ghazal o Mwmbai, Tauseef Akhtar, a’r cerddor gwerin a’r sgwennwr o Gymru, Gwyneth Glyn. Wrth drafod pwysigrwydd mentrau cydweithredol o’r fath a’r cyfrifoldeb sydd gennym i’w cynnal, aeth yn ei blaen i bwysleisio’r angen am gynwysoldeb ac amrywiaeth. Soniodd am y ffordd y mae menter The Privilege Café wedi rhoi lle blaenllaw i amrywiaeth yn y sgwrs am gydweithredu cydradd.
Gallwch wylio’r digwyddiad cyfan yma: https://fb.watch/1-qzps50a0/
Sgwrs rhwng dau gerddor - Gareth Bonello a Tomos Williams
Sesiwn Instagram byw oedd yr ail sesiwn, sef sgwrs rhwng y cerddor a’r sgwennwr caneuon gwobrwyedig Gareth Bonello, a Tomos Williams, cerddor ac arweinydd y band Khamira (sy’n plethu dylanwadau cerddorol o India a Chymru) a’r chwechawd jazz/gwerin o Gymru, Burum. Cafodd y sgwrs ei darlledu ar dudalennau Instagram British Council Cymru a British Council India. Yn ogystal â dilyn taith eu sgwrs, cafwyd cyfle i fwynhau perfformiadau byw gan y ddau ohonynt. Buon nhw’n trafod cerddoriaeth o Fryniau Khasi yn Meghalaya, clybiau jazz yn Delhi a Chaerdydd, alawon gwerin o Gymru, Miles Davies a llawer mwy.
Gallwch wylio’r digwyddiad cyfan yma:
https://www.instagram.com/tv/CH22i3zA_2K/?igshid=11ilzlwih3wm0