Rheolwr prosiect, Divya Parikh, yn adolygu'r digwyddiad Cydweithio ym maes crefftau sy'n rhan o’n Ŵyl Ddigidol India Cymru.
Roedd digwyddiad ‘Mentrau ar y cyd mewn crefftau’ yn rhoi darlun inni o’r cydweithredu ar draws ffiniau sy’n digwydd ym maes crefftau. Fel rhan o’r digwyddiad cafwyd dangosiad o ffilm fer ‘Edeifion | Threads’ yn ogystal â chyfle i glywed am brofiadau crefftwyr ac arweinyddion ym maes crefftau o India a Chymru.
Cynhaliwyd ‘Edeifion | Threads’ yn ystod 2017 a 2018, gan ffocysu ar waith saith o artistiaid benywaidd. Teithiodd tri o artistiaid o Gymru i ardal wledig Gujarat ym mis Tachwedd 2017 ar gyfer preswyliad tair wythnos yn Khamir. Cawsant gyfle i dreulio amser mewn stiwdios gyda chrefftwyr lleol ac ymweld â chymunedau o grefftwyr brodorol yn ogystal â threulio amser yn darganfod tref hanesyddol Bhuj. Teithiodd crefftwyr o Kachchh i Gymru yn 2018 ar gyfer preswyliad pythefnos yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ac ymweliad â Chanolfan Grefft Rhuthun.
Cafodd digwyddiad ‘Mentrau ar y cyd mewn crefftau’ ei gyflwyno gan Jonathan Kennedy, Cyfarwyddwr Celfyddydau, India - British Council. Cafodd y sesiwn ei chadeirio gan Devika Purandare, Pennaeth Celfyddydau, Gogledd India – British Council. Yn ystod y sesiwn, roedd pob un o aelodau’r panel o fenywod yn pwysleisio natur wydn ac entrepreneuraidd menywod, a’r modd y mae mentrau cydweithredol yn gyfrwng i gryfhau hynny.
Ymysg y siaradwyr roedd Ceri Jones, cynhyrchydd creadigol, curadur ac un o’r partneriaid a sefydlodd fenter Fieldwork; Champaben Siju a Rajiben Vankar, gwehyddion ac entrepreneuriaid ym maes crefftau o Avadhanagar, pentref ger dinas Kutch yn rhanbarth Bhuj o dalaith Gujarat; ac Avni Sethi, ymarferwr aml-ddisgyblaeth a fu’n gyfrifol am gysyniad a churadaeth y ‘Conflictorium’ – Amgueddfa’r Gwrthdaro (The Museum of Conflict) yn ogystal â’r Mehnat Manzil - Amgueddfa Byd Gwaith (The Museum of Work) yn Ahmedabad.
Siaradodd Ceri am y profiadau a gafodd wrth gydweithio gyda Khamir yn ystod prosiect ‘Edeifion | Threads’, a’u gweledigaeth gyffredin am alluogi a grymuso artistiaid trwy gyfnewid syniadau ac ymarfer diwylliannol. Fe gyflwynodd hi bob un o’r artistiaid a gymerodd ran yn y prosiect sef, Rajiben Vankar, Laura Thomas, Zakiya Khatri, Louise Tucker, Eleri Mills, Champa Shiju a Julia Grifith Jones, yn ogystal â chyflwyno eu gwaith trwy gyfrwng montage o ddelweddau trawiadol.
Gallwch weld fideo byr am waith Julia, sy’n gyfuniad o’i phrofiadau o gymryd rhan yn y prosiect, yma: https://www.instagram.com/tv/CH437uIgnW3/?utm_source=ig_web_copy_link
Yn ystod y digwyddiad, siaradodd Rajiben a Champa am y profiad o deithio i Gymru a sut y bu’n newid byd iddynt. Soniodd y ddwy ohonynt am gael eu trochi ym mhobl, diwylliant a chelfyddyd y wlad, ac am feithrin cysylltiadau drwy rannu gwerthoedd tebyg fel cariad tuag at y celfyddydau a’r modd y gall pobl werthfawrogi gwaith ei gilydd.
Ac yn olaf, fe glywom Avni’n siarad am sut y bu’r prosiect yn daith o hunan ddarganfod iddi. Wrth i’r digwyddiad ddirwyn i ben, roedd yn amlwg bod nifer o’r gynulleidfa wedi cael eu heffeithio’n fawr gan eu straeon ac wedi cael eu hysbrydoli gan eu dyfal barhad a’u hysbryd entrepreneuraidd.
Gallwch wylio’r digwyddiad cyfan yma: https://fb.watch/1-qyuYpdjX/
Mae Khamir a Fieldwork yn dod at ei gilydd ar gyfer prosiect newydd sy’n anelu at adfywio a chryfhau’r economi leol o amgylch gwlân yn rhanbarth Kutch yn nhalaith Gujarat fel rhan o fenter Crafting Futures y British Council.