Gan Dr Gwennan Higham, Uwch-ddarlithydd, Prifysgol Abertawe

25 Tachwedd 2020 - 12:35

Rhannu’r dudalen hon
Welcome sign in many languages
©

Dr Gwennan Higham

Mae’r pandemig presennol yn newid bywydau llawer o bobl ledled y byd. Mae mudwyr, yn enwedig ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn wynebu heriau neilltuol wrth ymdrechu i ffeindio lloches mewn cenedl wladwriaethau a sicrhau adnoddau sylfaenol fel llety, bwyd a gofal iechyd. Yn y Deyrnas Unedig mae mewnfudiad wedi bod yn rhan ganolog o’r drafodaeth am beth fydd natur ein cymdeithas yn y dyfodol, yn enwedig felly yng nghyd-destun Brexit. Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn addo ail-wampio system lloches y Deyrnas Unedig drwy ei gwneud yn fwyfwy anodd i fudwyr newydd setlo yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae’r rheini sy’n feirniadol o’r hinsawdd bresenol i geiswyr lloches yn dweud y bydd y cyfeiriad newydd yma yn arwain y Deyrnas Unedig ar hyd llwybr sydd hyd yn oed yn fwy creulon.

Cymru: Y ‘Genedl Noddfa’ Gyntaf

Er bod llywodraethau nifer o genedl wladwriaethau’r unfed ganrif ar hugain yn bwriadu lleihau nifer y mudwyr o fewn eu ffiniau, mae gan nifer o lywodraethau is-wladwriaethol safbwynt gwahanol ar fewnfudo ac integreiddio. Mae llywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig yn enghraifft o hyn. Er bod lloches yn cael ei lywodraethu gan gyfreithiau mewnfudo’r Deyrnas Unedig, mae gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon rym dros rai agweddau ar fywyd fel addysg, diwylliant, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn hytrach na chymeradwyo polisi San Steffan, mae Llywodraeth Cymru’n enghraifft o lywodraeth ddatganoledig sy’n gweithredu fersiwn is-wladwriaethol gwahanol o integreiddio. Mae’r strategaeth a lansiwyd gan Lywodraeth Gymru yn 2019 i fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd yn arwydd o ddyhead i gyflwyno Cymru fel cenedl groesawgar, a’r Cymry fel pobl groesawgar.

Realiti amlieithog ac amlddiwylliannol Cymru

Tra bod model integreiddio’r Deyrnas Unedig wedi’i seilio ar deyrngarwch i’r iaith a’r diwylliant Saesneg, mae llywodraeth ddatganoledig Cymru yn hyrwyddo dwyieithrwydd. Mae strategaethau fel ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg’ yn anelu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob maes ac o bob oed a chefndir. Yn wir, ganed traean o boblogaeth Cymru y tu allan i’w ffiniau ac mae mudo rhyngwladol wedi dyblu yn ystod y ddegawd ddiwethaf hefyd. Felly mae realiti amlieithog ac amlddiwylliannol Cymru yn fwyfwy amlwg. Heb os, mae’r realiti yma wedi dylanwadu ar Faes Dysgu a Phrofiad ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ Cwricwlwm Newydd Cymru, lle bydd dull amlieithog a lluosieithog o addysgu a dysgu ieithoedd yn cynorthwyo ein plant a’n pobl ifanc i fod ‘yn ddysgwyr sy’n ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd’ (Llywodraeth Cymru 2020).

Mae darpariaeth iaith ar wahân ar gyfer Cymraeg a Saesneg i oedolion 

Er hynny, mae’r ddarpariaeth iaith i fudwyr yng Nghymru yn canolbwyntio ar y Saesneg, gan gynnwys ardaloedd fel Gwynedd lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg. Er bod tiwtoriaid ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ (ESOL) yn cael eu hannog i gynnwys elfennau o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, mae ymchwil yn dangos mai prin iawn yw’r enghreifftiau o roi hyn ar waith neu o’i ystyried yn rhywbeth a allai fod yn bosib (Llywodraeth Cymru 2017). 

Mae darpariaeth iaith ar wahân gyfer y Gymraeg a’r Saesneg i oedolion, ac mewn sawl achos maent yn cael eu targedu at grwpiau cymdeithasol gwahanol. Y farn gyffredinol wedi cyfweliadau gydag athrawon iaith a swyddogion Llywodraeth Cymru oedd y byddai cyflwyno’r Gymraeg i fewnfudwyr yn cymhlethu a drysu eu hymdrechion i integreiddio i’r gymdeithas yng Nghymru. (Higham 2014)

Roedd dysgu Cymraeg yn cael ei weld fel adnodd i’w ychwanegu at repertoire a oedd eisoes yn amlieithog

Ond, mae ymchwil ethnograffig, gan gynnwys dosbarthiadau dysgu Cymraeg peilot gydag oedolion mudol sy’n fyfyrwyr yng Nghymru, yn herio’r safbwyntiau o’r fath (Augustyniak & Higham 2019). Er mai prin iawn oedd y wybodaeth am Gymru, gan gynnwys ei hiaith, diwylliant a’i hanes, dengys canlyniadau fod dysgu Cymraeg yn cael ei weld fel adnodd i’w ychwanegu at repertoire sydd (eisoes) yn amlieithog. Yn wir, mae dosbarthiadau Cymraeg i fudwyr wedi bod yn gyfrwng i negodi profiadau amlieithog mudwyr yn ogystal ag amlygu elfennau sy’n gyffredin rhwng eu hieithoedd a’u diwylliannau (lleiafrifol) eu hunain. Ar ben hyn, mae ymchwil yn dangos awydd a dyhead mudwyr i fanteisio ar gyfleoedd gwaith yn nwy iaith swyddogol Cymru. Mae mentrau eraill wedi galluogi mudwyr i fanteisio ar ddosbarthiadau Cymraeg am ddim drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ond, nid oes strategaeth glir ar gyfer darparu dosbarthiadau dysgu Cymraeg i fudwyr wedi ei sefydlu hyd yma. Ym marn llawer, Saesneg yw’r unig iaith sy’n cynnal cydlyniad cymdeithasol yng Nghymru o hyd.

Mae’r ‘lleisiau’ hyn, petaem ni’n gwrando arnynt, yn herio rhagdybiaethau unieithog

Ar gefn y sylw a roddwyd i ymgyrch Black Lives Matter yng Nghymru ac amodau’r gwersyll i geiswyr lloches ym Mhenalun yn Sir Benfro, mae pobl yn dechrau clywed lleisiau’r lleiafrifoedd yma. Yn wir, mae canfyddiadau’r ymchwil a nodir uchod yn tynnu sylw’n benodol at leisiau mudwyr yng Nghymru mewn perthynas ag iaith ac integreiddio. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod y lleisiau hyn, petaem ni’n gwrando arnynt, yn herio rhagdybiaethau, agweddau a chategoreiddio unieithog am ieithoedd ac integreiddio yng Nghymru. Yn ogystal, mae hynny’n awgrymu bod angen ailfeddwl ac ail-lunio polisiau iaith ac addysg i ateb gofynion mudwyr os yw mudwyr yn mynd i gael dylanwad ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae cynnig darpariaeth iaith Gymraeg i fudwyr yn un ffordd o fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth ffurfiol ar gyfer addysg iaith i oedolion. Gall darpariaeth iaith anffurfiol, fel cynlluniau partneriaethau iaith, gynnig cyfle i gynnwys trigolion y gymuned lle mae mudwyr yn byw. Yn bwysicach, mae cynyddu cyfleoedd i gael mynediad at y Gymraeg a’r Saesneg yn agor drysau newydd sy’n galluogi mudwyr i gyfranogi yn y gymuned lle maent yn byw.

Mae sicrhau bod darpariaeth iaith yn cael ei gwreiddio mewn amlieithrwydd, cynwysoldeb a gofal am eraill yn galluogi teuluoedd i fraenaru’r tir ar gyfer syniadau ystyrlon am ddinasyddiaeth amlddiwylliannol. Er bod Cwricwlwm Newydd Cymru yn cofleidio amlieithrwydd mudwyr, mae gofyn ei fod hefyd yn darparu ar gyfer y rhwystrau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu mudwyr yn ogystal â’r rhwystrau diwylliannol ac ieithyddol sy’n codi wrth iddynt ymgartrefu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Heb gefnogaeth ac ymyriad, gall y rhwystrau hyn beri i fudwyr ddibrisio eu cefndiroedd ieithyddol eu hunain.

Annog ‘lleisiau’ amlieithog teuluoedd mudol

Mae ‘lletygarwch ieithyddol’ (Ricoeur 2004) yn gysyniad y gellid ei gymhwyso ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ y Cwricwlwm Newydd. Byddai hynny’n golygu arfogi athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu â dysgwyr mudol i fanteisio’n llawn ar eu hadnoddau diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr. Byddai hefyd yn golygu annog ‘lleisiau’ amlieithog teuluoedd mudol a chynnig llwyfan cymunedol iddynt drafod y pethau sy’n gyffredin ac sy’n wahanol o ran geiriau, ymadroddion, traddodiadau, eu ffordd o fyw ac iaith eu bywydau bob dydd. Mae pwysigrwydd hyn yn amlwg: gall atal gallu amlieithog dysgwyr arwain at eithrio cymdeithasol (Piller 2016) a thangyflawni addysgol (Tsimpli 2017).

Yn hytrach na meithrin dinasyddion Cymreig byd-eang, gall peidio â rhoi lle i fudwyr ddefnyddio a datblygu adnoddau ieithyddol, boed hynny’n Gymraeg, Persieg neu Bwyleg, rwystro eu cyfranogiad llawn yn eu cymunedau newydd, neu’n hytrach eu gadael mewn safle o ‘ddad-ddinasyddiaeth’ yn y cymunedau newydd lle maent yn byw (Ramanathan 2013).

Realiti’r sefyllfa yw bod rhai mudwyr yn gadael Cymru. Bydd rhai yn cael eu symud gan Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig a bydd eraill yn penderfynnu symud i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Ond, bydd rhai yn dewis aros, gan gynnwys y rheini sydd â theuluoedd. Felly mae gan y drefn addysg iaith yng Nghymru ddyletswydd i sicrhau bod y Gymraeg ar gael ac yn hygyrch i deuluoedd o gefndir mudol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae Ysgol Hamadryad, a sefydlwyd yn 2016 yn Nhrebiwt yng Nghaerdydd, yn enghraifft o ysgol gymunedol sydd wedi mabwysiadu dull uniongyrchol o godi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ymysg trigolion amlddiwylliannol De Caerdydd. Gan fod dros draean o ddisgyblion presennol yr ysgol yn dod o gefndir BAME, hon yw’r ysgol cyfrwng Cymraeg sydd â’r amrywiaeth fwyaf o bell ffordd o ieithoedd a diwylliannau yng Nghymru. Mae cynyddu’r nifer o blant mudol sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu bod gofyn i’r cwricwlwm ystyried anghenion amlieithog rhieni mudol yn ogystal â’u plant.

Wrth edrych ar ddyfodol addysg iaith mewn Cymru amlieithog rhaid chwalu’r myth mai ar ddysgu Saesneg yn unig y dylai mudwyr ganolbwyntio. Mae profiadau’r mudwyr eu hunain yn dangos bod ieithoedd yn brosesau cyfnewidiol a chymleth – fel eu teithiau a’u straeon am gyrraedd Cymru ac ymgartrefu yma. Mae mudwyr hefyd yn dangos bod ieithoedd yn adnoddau gwerth buddsoddi ynddynt, o ran lles cymdeithasol ac economaidd ac fel cyfryngau i rymuso pobl i newid, herio ac ail-lunio syniadau ac ystyron newydd – gan gynnwys beth mae bod yn ddinesydd Cymreig ac yn siaradwr Cymraeg newydd yn ei olygu. Mae’r dyfodol yn ein herio i ystyried beth mae cynnig lloches mewn amgylchedd gelyniaethus yn ei olygu - i estyn llaw, i wrando, a dysgu gan fudwyr a’r straeon a’r ieithoedd y maent yn eu cario gyda nhw. Wedi’r cyfan, ffenestri yw ieithoedd; ffenestri ar fydoedd eraill – bydoedd sydd, diolch i fudwyr, yn cyrraedd carreg ein drws.

Blog

Dr Gwennan Higham

Dr Gwennan Higham

Uwch-ddarlithydd, Prifysgol Abertawe