I gefnogi blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, mae'r British Council yn lansio cyfle i ysgolion yng Nghymru ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol gydag ysgolion yn Ffrainc. Bydd y partneriaethau dan arweiniad yma'n rhoi cyfle i ysgolion ryngwladoli eu cwricwlwm, tanio brwdfrydedd eu dysgwyr i gydweithio'n rhyngwladol o gwmpas digwyddiadau byd-eang, a datblygu cysylltiadau ieithyddol i gefnogi dysgu ieithoedd rhyngwladol.
P'un ag ydych yn newydd i fentrau cydweithio rhyngwladol, neu os oes gyda chi gysylltiad â Ffrainc neu unrhyw le arall yn y byd yn barod, gallai'r rhaglen bartneriaeth yma dan arweiniad y British Council agor y drws i fyd o gyfleoedd i'ch ysgol.
Yn dilyn cynnal Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn 2023 a gyda golwg ar Gemau Olympaidd 2024 sy'n cael eu cynnal ym Mharis yr haf nesaf, bydd y rhaglen hon o bartneriaethau dan arweiniad yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau rhyngwladol drwy weithgareddau'n ymwneud â chwaraeon. Bydd hwylusydd partneriaeth pwrpasol yn eich arwain drwy brosiect ar-lein tymor byr, yn seiliedig ar y cwricwlwm, ar y cyd ag ysgol bartner yn Ffrainc. Chwaraeon fydd pwnc y prosiect. Byddwch yn ei drafod gyda dysgwyr yn eich ysgol bartner gan weithio gyda'ch gilydd i ganfod pethau sy'n gyffredin, ymdrin â heriau a ffeindio atebion.
Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Ionawr 2024 ac yn rhedeg drwy dymor y gaeaf.
Bydd y British Council yn cynnig cyngor i ysgolion sy'n cymryd rhan mewn partneriaeth Cymru-Ffrainc am wahanol ffyrdd i gynnal eu partneriaeth y tu hwnt i 2024, gan gynnwys cyfleoedd ariannu posib ar gyfer yr ysgolion hynny sy'n dymuno trefnu ymweliad tramor â'u hysgolion partner. Yn ystod cyfnod y bartneriaeth byddwn yn darparu gwybodaeth am sut y gall ysgolion geisio am gyfleoedd ariannu pellach, fel rhaglen Taith.
“Mae gweithio gyda chydweithwyr mewn gwledydd eraill yn beth mor bwerus. Mae'n ein hysbrydoli a'n helpu i werthfawrogi pa mor lwcus yr ydym, ond hefyd yn ein cymell i feddwl am beth allwn ei wneud yn wahanol. Os gallwch, cysylltwch!”
Jeremy Barnes, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gatholig Yr Holl Saint, Lerpwl
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Rhagfyr.
Byddwn yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb ar 06 Rhagfyr rhwng 4pm-5pm ar Teams. Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn drwy ebostio: Maija.Evans@britishcouncil.org
Gallwch wneud cais i gysylltu ag ysgol yn Ffrainc drwy lenwi ffurflen syml: Gwnewch gais nawr
Mae ein partneriaethau dan arweiniad yn rhoi cyfle i chi:
- Ehangu gorwelion eich dysgwyr a darparu cyfleoedd dysgu newydd a chyffrous
- Rhoi cyfle i'ch dysgwyr rannu gwaith gyda dysgwyr mewn ysgol mewn gwlad eraill
- Cael eich paru gydag ysgol bartner addas fel y gallwch gydweithio ar-lein am gyfnod o dri mis
- Canolbwyntio ar bwnc dysgu byd-eang, fel Chwaraeon
- Manteisio ar gefnogaeth bwrpasol gan ymarferydd profiadol â phrofiad uniongyrchol o brosiectau addysgu a dysgu byd-eang
- Cyfnewid syniadau gydag athrawon yn y Deyrnas Unedig a gwahanol rannau o'r byd wrth fagu sgiliau trosglwyddadwy a darganfod dulliau dysgu newydd
- Ennill achrediad - Gwobr Ysgolion Rhyngwladol
Canllawiau ar gyfer gwneud cais
- Cyflwynwch gais byr gydag ychydig o wybodaeth am eich ysgol (gan ddangos hefyd bod arweinydd/arweinyddiaeth eich ysgol yn cydsynio).
- Ysgolion cymwys: Ysgolion yng Nghymru a ariennir gan y wladwriaeth sy'n darparu addysg gyffredinol llawn amser, addysg alwedigaethol, dechnegol neu anghenion arbennig. Croesewir ceisiadau gan leoliadau darpariaeth amgen hefyd. Croesewir ceisiadau gan ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Rhoddir blaenoriaeth i ysgolion sydd heb gymryd rhan mewn partneriaeth ryngwladol o'r blaen.
- Dim ond un athro/athrawes all gyflwyno cais ar ran ysgol yn y D.U. sy'n gymwys
Bydd pob ysgol sy'n cymryd rhan yn derbyn Tystysgrif Cyfranogi
Mae'r partneriaethau hyn yn rhan o'n gwaith ehangach i gefnogi Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â'n gwaith ym maes addysg, mae'r British Council wedi cefnogi nifer o brosiectau ym maes y celfyddydau sydd wedi cysylltu Cymru a Ffrainc. Yn fwyaf diweddar, rhoddwyd cefnogaeth i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Orchestre National de Bretagne i gynnal cyfres o gyngherddau ar y cyd yn 2022 a 2023. Bydd ein cefnogaeth yn parhau tu hwnt i 2023 achos mae nifer o fentrau cydweithio diwylliannol rhwng Cymru a Ffrainc yn rhan o dymor diwylliannol British Council Ffrainc, 'Bwrw Golau ar Ddiwylliant y D.U. a Ffrainc 2024' (UK-France Spotlight on Culture 2024).