©

Dafydd Owen FfotoNant

Gall artistiaid, gweithwyr creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a Ffrainc wneud cais am grant nawr drwy Gronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc

Mae’r gronfa’n cael ei rhedeg gan y British Council mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru. Nod y gronfa yw sbarduno cysylltiadau newydd ac adnewyddu cysylltiadau sy’n bodoli’n barod rhwng Cymru a Ffrainc drwy gefnogi mentrau cydweithio sy’n meithrin cysylltiadau hirdymor ymysg artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.

Mae’r gronfa’n agored i geisiadau gan unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd diwylliant, creadigrwydd a llesiant. Rhaid i geisiadau fod yn bartneriaeth rhwng o leiaf un sefydliad neu unigolyn yng Nghymru ac un yn Ffrainc.

Rydym yn rhagweld dyfarnu dau grant o £30k a thri neu bedwar o grantiau llai o rhwng £5-10k i dimau prosiect yng Nghymru a Ffrainc i’w galluogi i gydweithio ar brosiectau creadigol.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 30 Mehefin 2023. Hysbysir ymgeiswyr erbyn dydd Gwener, 7 Gorffennaf 2023. 

LAWRLWYTHWCH Y FFURFLEN GAIS 

Am fwy o wybodaeth am Gronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc gweler isod:

Sut i wneud cais:

  • Gellir gwneud cais drwy gwblhau ffurflen gais syml a chyflwyno mynegiad o ddiddordeb.
  • Dylai sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn ymgeisio gyflwyno eu cais i teamwales@britishcouncil.org erbyn 30 Mehefin 2023. Llenwch y ffurflen gais syml i ddangos sut mae eich prosiect yn ateb gofynion pob un o’r meini prawf a sut y bydd yn cyfrannu i gynlluniau uchelgeisiol prosiect Cymru yn Ffrainc.
  • Hysbysir ymgeiswyr am benderfyniad y panel dewis erbyn 7 Gorffennaf 2023. 
  • Mae’r gronfa’n agored i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, creadigrwydd a llesiant.
  • Rhaid i geisiadau fod yn bartneriaeth rhwng o leiaf un sefydliad neu unigolyn sy’n gweithio yng Nghymru ac o leiaf un sefydliad neu unigolyn sy’n gweithio yn Ffrainc.
  •  Dylai fod gan y prosiect un ymgeisydd arweiniol, sy’n gweithio yng Nghymru. 
  •  Yn gyffredinol, dylai arian y grant gael ei rannu’n gyfartal rhwng y partneriaid.
  •  Amrywiaeth: bydd prosiectau sy’n gweithio’n bennaf gyda Menywod, artistiaid LHDTC+ a/neu artistiaid anabl yn cael eu sgorio’n ffafriol yn y rhan o’r cais sy’n ystyried amrywiaeth.
  • Ffurfiau/Disgyblaethau Celfyddydol: Llenyddiaeth, Celfyddydau Gweledol, Cerddoriaeth, Ffilm (gan gynnwys Gemau, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig), Theatr a Dawns, Pensaernïaeth, Fasiwn, Dylunio.

 

 

 

 

Trosolwg o Gronfa Agored Cymru yn Ffrainc:

Bydd y British Council, Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru yn rhedeg Cronfa Ddiwylliannol ar gyfer rhaglen Cymru yn Ffrainc.

Bydd y gronfa hon yn rhoi cefnogaeth i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru i feithrin partneriaethau yn Ffrainc a rhoi llwyfan i ddiwylliant Cymru fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru, ‘Blwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023’. Bydd y prosiectau a noddir yn rhan o raglen ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc, sy’n cynnwys gweithgareddau’n ymwneud â Chwpan Rygbi’r Byd, bwrw golau ar hunaniaeth Cymru, a thynnu sylw at ein cryfderau unigryw, ein dwyieithrwydd a’n hymrwymiad i gynaladwyedd, cynhwysiant ac amrywiaeth.

Bydd y British Council yn rheoli’r gronfa ar ran y partneriaid eraill, a fydd yn rhoi cefnogaeth ariannol yn ogystal â chefnogi’r cydweithio artistig a’r cyfnewid rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a Ffrainc. Mae’r British Council yn cymryd cyfrifoldeb am y gronfa, yn unol â gweithdrefnau arferol y British Council a’n cenhadaeth a’n gwerthoedd. Bydd cynrychiolwyr o’r British Council, Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am asesu ceisiadau i’r gronfa a dyfarnu grantiau.

Bydd yn ofynnol i ddeiliaid grantiau gydnabod eu bod yn cymryd rhan yn rhaglen Cymru yn Ffrainc, a’r noddwyr (British Council, Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn eu holl ddeunydd marchnata a chyfathrebu. Byddwn yn rhannu canllawiau cyfathrebu gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus.

Amcanion allweddol blwyddyn Cymru yn Ffrainc:

Mae Cymru yn Ffrainc yn fenter gydweithiol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i amlygu adnoddau a chyfeirio ffocws rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar Ffrainc. Bydd yn rhoi fframwaith i harneisio proffil Cwpan Rygbi’r Byd, helaethu cysylltiadau sy’n bodoli’n barod a buddsoddi’n strategol mewn cysylltiadau newydd a ddaw â budd hirdymor i bobl Cymru.

 

Mae rhaglen Cymru yn Ffrainc yn cynnwys gweithgareddau ym meysydd diwylliant, addysg, chwaraeon, masnach a buddsoddiad, cysylltiadau rhyngwladol a mwy. O ran diwylliant, amcanion y flwyddyn yw:

  •  Dathlu a rhoi llwyfan i holl amrywiaeth diwylliant Cymru drwy ein celfyddydau, treftadaeth, iaith a diwylliant.
  • Meithrin cysylltiadau parhaol ac ystyrlon rhwng Cymru a Ffrainc drwy’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol.
  • Cryfhau’r sector yng Nghymru drwy fanteisio ar allu gwaith rhyngwladol i arloesi, hybu rhwydweithio, meithrin cynulleidfaoedd a chodi proffil Cymru.

Prif nodau ac amcanion cronfa Cymru yn Ffrainc:

  •  Datblygu prosiectau dathlu a pherfformio cyhoeddus, o wahanol feintiau ac ar draws yr holl ddisgyblaethau, sy’n arddangos celfyddyd a diwylliant Cymru yn Ffrainc yn ystod Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru 2023 (rhwng mis Mawrth 2023 a mis Mawrth 2024).
  • Datblygu partneriaethau newydd ac adnewyddu partneriaethau sy’n bodoli’n barod gydag unigolion, sefydliadau a rhwydweithiau yn Ffrainc lle mae potensial am gydweithio hirdymor.
  • Cyflawni rhaglen ddiwylliannol sy’n cyflwyno Cymru fel gwlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang fel rhan o fodel diwylliant llesiant Cymru, gan roi pwyslais arbennig ar gynaladwyedd, dwyieithrwydd, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hygyrchedd.
  •  Hyrwyddo presenoldeb Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023 a datblygu’r cysylltiadau cynyddol rhwng chwaraeon a diwylliant, gan ganolbwyntio gweithgareddau ar ddinasoedd sy’n cynnal gemau, ardaloedd lle mae cefnogwyr Cymru yn crynhoi, digwyddiadau VIP a chartref tîm Cymru yn ystod y gystadleuaeth. Byddem yn arbennig o falch o dderbyn ceisiadau ar gyfer prosiectau yn Nantes, Lyon, Marseille a Versailles.
  •   Gweithio gyda phartneriaid rhaglen Cymru yn Ffrainc i ddatblygu cysylltiadau cryfach gyda rhanbarthau a dinasoedd yn Ffrainc. Mae’r dinasoedd lle cynhelir gemau Cymru yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd o ddiddordeb arbennig. Hefyd o ddiddordeb arbennig mae ardal Paris Fwyaf – yn cynnwys Versailles a Saint-Quentin-en-Yvelines, rhanbarthau o bwysigrwydd strategol i Gymru fel Llydaw (mae Memorandwm o Ddealltwriaeth yn ei le rhwng Cymru a Llydaw) a rhanbarth Alpau’r Rhone ac Île-de France.
  •    Datblygu ymdeimlad o ddwyochredd drwy brosiectau cydweithio – fel rhan o ymgyrch ehangach i bwysleisio fod Cymru yn wlad sy’n croesawu partneriaid diwylliannol o Ffrainc.

Meini prawf ar gyfer dyfarnu grantiau:

  • Rhaid i ganlyniadau’r prosiectau gynnwys gweithgareddau cyhoeddus a fydd yn cael eu cynnal yn Ffrainc yn ystod 2023 neu’n gynnar yn 2024.
  •  Wrth asesu ceisiadau, rhoddir ffafriaeth i brosiectau lle mae’r gweithgaredd yn deillio o waith gyda phartner yn Ffrainc, a bydd grantiau’n cael eu dyfarnnu i brosiectau cydweithio. 
  •  Rhaid cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth 2023 a mis Mawrth 2024. Bydd y gweithgaredd(au) yn rhan o flwyddyn Cymru yn Ffrainc a fydd hefyd yn cydfynd â Chwpan Rygbi’r Byd.
  •  Dylai fod ôl gwaith meddwl trwyadl ar gynllun cysylltiadau a chyfathrebu’r prosiectau. Dylai’r cynllun ddangos cyrhaeddiad ffisegol a digidol y prosiect gan gynnwys sut y bydd yn cael ei gyfryngu a’i rannu gyda chynulleidfaoedd ehangach ar-lein. Disgwylir i’r prosiectau fabwysiadu dull amlieithog.
  •  Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd ag arian cyfatebol yn ei le, ond nid yw arian cyfatebol yn hanfodol.
  •  Dylai prosiectau anelu i gyfleu syniad o hunaniaeth a chryfderau unigryw Cymru, ee amlieithrwydd, a dangos ymrwymiad i gynaladwyedd, cynhwysiant ac amrywiaeth. 
  •  Dylai ymgeiswyr sicrhau fod egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i gynnig craidd, cyllideb a chynllun eu prosiect (gan gofio am anghenion hygyrchedd, capsiynau caeedig ar gyfer fideos, darparu cyfieithwyr/dehonglwyr, hunaniaeth o ran rhywedd deiliaid grantiau/tîm y prosiect).
  •  Rhaid i brosiectau ddangos eu bod yn cynnig gwerth am arian a’u dull o sicrhau eu bod yn gwneud dewisiadau ecogyfeillgar (ee teithio ar drênau lle bo hynny’n bosibl).
  •  Dylai ceisiadau nodi’r cerrig milltir allweddol yn natblygiad y prosiect yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd – yn ffisegol a digidol.
  •  Bydd gofyn i brosiectau gyflwyno adroddiadau prosiect i’r British Council, Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ystod y flwyddyn y byddant ar waith. Bydd yr adroddiadau hyn yn dangos data y cytunwyd arno ymlaen llaw am weithgareddau’r prosiect a galluogi cynnal gwerthusiad ehangach.

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon