Mae'r aelodau yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol.

Aelodau’r Pwyllgor

Rhiannon Wyn Hughes

Rhiannon Wyn Hughes MBE FRSA

Cyfarwyddwr yr Ŵyl, Cidwm Cymru

Mae Rhiannon wedi treulio 19 mlynedd yn creu cyfleoedd i bobl ifanc drwy wyliau celfyddydol a ffilmiau. Roedd yn aelod sefydlu o Gidwm Cymru, sef gŵyl ffilmiau ieuenctid ryngwladol. Yn 2017, ymunodd â thîm o wirfoddolwyr i lansio Sinema Cidwm, sef sinema deithiol gymunedol. Mae'n gyn is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales, yn ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru, yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Sinema Scala ac yn gyn-Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych. Ymunodd â Bwrdd Hijinx yn ddiweddar.

Smiling man with short grey hair, glasses, black suit and blue shirt

Rob Humphreys

Cadeirydd, Pwyllgor Cynghori Cymru / Ymddiriedolwr y British Council a Gadeirydd, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Mae Rob Humphreys yn weithiwr proffesiynol ym maes addysg sy’n gredwr cryf yng ngallu addysg oedolion i drawsnewid bywydau. Mae ganddo gysylltiadau ar draws byd addysg, y byd academaidd a sefydliadau diwylliannol, chwaraeon a’r llywodraeth yng Nghymru. Bu’n Gyfarwyddwr Cymru’r Brifysgol Agored am ddegawd cyn iddo adael ym mis Tachwedd 2017. Cyn hynny, Rob oedd Cyfarwyddwr Cymru’r Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion.