Prif ddyletswyddau aelodau yw:
• mynd i gyfarfodydd y Pwyllgor, cynhelir pedwar y flwyddyn fel arfer: tri chyfarfod hanner diwrnod ac un diwrnod llawn i ffwrdd
• cyfrannu at gyflawni nodau'r Pwyllgor a nodir yn y cylch gorchwyl
• rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r British Council Cymru am ddatblygiadau mawr ym mywyd cyhoeddus, addysgol, economaidd a diwylliannol Cymru
• rhoi cyngor proffesiynol yn eu meysydd arbenigedd, a nodi cyfleoedd newydd
• creu cysylltiadau â chymunedau yng Nghymru y mae gwaith y British Council yn berthnasol iddynt
• bod yn eiriolwyr dros waith y Cyngor yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol
• cyfrannu at waith Cynllun y Wlad a monitro i ba raddau y cyflawnir amcanion y cynllun.
Gallai eitemau busnes arferol cyfarfodydd rheolaidd gynnwys:
• sesiynau briffio ar strategaeth a pholisïau'r British Council a thrafodaethau ar eu goblygiadau yng Nghymru
• y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau'r British Council yn fyd-eang ac yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar thema/sector gwaith gwahanol ym mhob cyfarfod, a thrafod eu perthnasedd i Gymru
• ystyried ymchwil i ymgysylltiad y British Council yng Nghymru/ledled y DU
• cyngor ar reoli cydberthnasau strategol â phartneriaid allweddol yng Nghymru.
Mae'n bosibl y gofynnir i aelodau ymgymryd â'r gweithgareddau canlynol:
•rhoi cyngor rhwng cyfarfodydd i reolwyr ar strategaeth neu ddatblygu prosiectau
•cymryd rhan mewn cyfarfodydd â phartneriaid strategol perthnasol
•mynd i gynadleddau blaenllaw, digwyddiadau ymgynghori, digwyddiadau briffio'r cyfryngau neu ddigwyddiadau lansio prosiectau.
Disgwyliwn y bydd angen i aelodau ymrwymo tua tri hanner diwrnod ac un diwrnod llawn y flwyddyn i gyflawni'r rôl, yn ogystal â mynd i ddigwyddiadau ychwanegol a drefnir gan y Cyngor. Mae'n rhaid i aelodau fynd i o leiaf ddau o'r pedwar cyfarfod mewn cyfnod o 12 mis. Caiff aelodau'r pwyllgor eu penodi am gyfnod o dair blynedd, a gellir adnewyddu eu haelodaeth am dair blynedd ychwanegol. Ni chaiff aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru eu talu ond caiff treuliau eu had-dalu ar gyfraddau safonol y British Council.