Mae'r aelodau yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol.

Aelodau’r Pwyllgor

Menyw â gwallt melyn yn gwenu at y camera.

Catherine Paskell

Cyfarwyddwr Artistig, Cwmni Theatr Dirty Protest

Catherine yw Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Dirty Protest, sy’n hybu ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfarwyddwr llawrydd. Mae’n un o Gydweithwyr Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru, yn Gymrawd o Raglen Arweinyddiaeth Clore ac yn un o lysgenhadon rhanbarthol yr Ŵyl Ddrama Genedlaethol i Fyfyrwyr. Roedd yn un o Sylfaenwyr Cysylltiol National Theatre Wales ac mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau llwyfan a rhedeg rhaglenni datblygu rhyngwladol. 

Delyth Isaac

Delyth Issac

Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes, BBC Cymru Wales

Delyth sy'n gyfrifol am holl wasanaethau newyddion a materion cyfoes BBC Cymru Wales - arlein, ar gyfer dyfeisiau symudol, ac ar radio a theledu. Mae'n arwain tîm o newyddiadurwyr sy'n gweithio ledled Cymru ac yn San Steffan. Cyn hyn, Delyth oedd Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru Wales ac yn 2018 cafodd ei phenodi'n Olygydd rhaglen BBC Wales Today. Rhwng 2013 a 2014 bu Delyth yn gweithio fel Uwch Reolwr Cyfathrebiadau ar gyfer BBC Cymru Wales. 

Ffion Thomas

Ffion Thomas

Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Rhwydwaith Tramor Llywodraeth Cymru

Mae Ffion Thomas wedi cael gyrfa eang ac amrywiol ym meysydd gwasanaeth cyhoeddus a chydweithio byd-eang; mae ganddi brofiad helaeth o lywodraeth ac mae wedi gweithio i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Cenhedloedd Unedig. Mae ganddi brofiadau ehangach hefyd o weithio yn y sector technoleg, ac fel entrepreneur - gan sefydlu ei chwmni cynhyrchion cynaliadwy ei hunan.

 

Zenny Saunders

Zenny Saunders

Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, Llywodraeth Cymru

Dechreuodd Zenny ei gyrfa yn yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2001. Mae wedi dal amryw o swyddi ym meysydd llywodraeth leol, addysg, cyflogadwyedd a sgiliau a deddfwriaeth. Bu Zenny hefyd yn gweithio ar secondiad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am 5 mlynedd yn cefnogi gwaith Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar weithredu setliad datganoli Cymru.

Ali Abdi

Ali Abdi

Rheolwr Partneriaethau'r Porth Cymunedol, Prifysgol Cymru

Mae Ali Abdi wedi cydlynnu'r broses o ehangu mynediad i astudio a chyflogaeth ym Mhrifysgol Cymru yn fedrus, gan hybu ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa, hwyluso gwaith ymchwil rhwng academyddion a chymunedau lleol ac arwain gweithgareddau mentora a modelau rôl. Mae wedi gweithio'n effeithiol i hyrwyddo cyfleoedd i oedolion ifanc a merched a chynyddu ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Menyw â gwallt brown a chlust dlysau aur yn gwenu at y camera.

Dr Elaine Canning

Pennaeth Prosiectau Arbennig, Prifysgol Abertawe

Mae Dr Elaine Canning yn Bennaeth Prosiectau Arbennig ym Mhrifysgol Abertawe - sy'n cynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Gwobr Stori Fer Rhys Davies, rhaglen addysg DylanED i bobl ifanc, a'r Sefydliad Diwylliannol. Cafodd ei hethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2023 ar gyfer arweinyddiaeth ym maes ymgysylltu a dealltwriaeth y cyhoedd. Yn wreiddiol o Felffast, mae Elaine hefyd yn awdur a golygydd.

Eluned Haf

Cyfarwyddwraig, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Bu Eluned Hâf yn newyddiadurwr ac yna'n swyddog y wasg i Grŵp Y Gwyrddion a Chynghrair Rydd Ewrop yn y Senedd Ewropeaidd, cyn sefydlu 'una cyf' - cwmni diwyllianol yn arbenigo mewn polisi a phrosiectau Ewropeaidd. Eluned oedd cyd-arweinydd WOMEX yng Nghaerdydd yn 2013, ac arweiniodd fenter Showcase Scotland Spotlight Cymru 2022-24. 

Jane Richardson

Jane Richardson

Prif Weithredwr, Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Mae Jane yn gyfrifol am ysbrydoli a hybu uchelgais, creadigrwydd a chyfeiriad strategol y sefydliad. Bydd gwireddu Strategaeth 2030 yn ganolbwynt i waith Amgueddfa Cymru - gan sicrhau bod y teulu o saith Amgueddfa Genedlaethol a'r Ganolfan Gasgliadau yn diwallu anghenion cyfnewidiol ac amrywiol cymunedau Cymru.

Jeff Greenidge

Jeff Greenidge

Cyfarwyddwr Amrywiaeth, Cymdeithas y Colegau

Mae Jeff yn uwch arweinydd profiadol iawn sydd wedi ennill enw am ei ddull meddwl annibynnol, ochrol a strategol. Dechreuodd ei yrfa'n dysgu Ffrangeg, Lladin ac Addysg Gorfforol yn Ysgol Oakdale yng Ngwent. Wedi hynny bu'n Bennaeth Adran yn Ysgol Uwchradd Llanrhymni yng Nghaerdydd cyn gweithio ar gynllunio a gweithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Bu'n hyfforddi darpar athrawon ar y cwrs i ôl-raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe.

 

 

Woman with blond hair, red dress and navy jacket speaking into microphone

Mary Kent

Prif Gynghorydd Technegol, Sefydliad Llafur Rhyngwladol

Mary yw Prif Ymgynghorydd Technegol Proseict UK Skills for Prosperity y Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn Indonesia. Mae'n gyn Ddirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro. Yn ystod ei gyrfa mae wedi sefydlu partneriaethau rhyngwladol llwyddiannus yn Ewrop, Tsieina, India a De Ddwyrain Asia, Affrica a'r Dwyrain Canol. Mae ganddi gymwysterau ym meysydd marchnata, busnes, cysylltiadau rhyngwladol a'r economi wleidyddol yn ogystal â chymhwyster Meistr Gweinyddol mewn Gweinyddu Busnes.