Gan Helen Phillips, Tiwtor Staff (Ieithoedd), OU Cymru a Dr Sylvia Warnecke, Tiwtor Staff (Ieithoedd), OU Alban, Open University

14 Rhagfyr 2020 - 14:00

Rhannu’r dudalen hon
Teacher at desk with pupils
©

British Council

“Wrth ddysgu Mathemateg, ar ddechrau’r wers rydyn ni’n chwarae gêm gystadleuol, gan goroni’r enillydd yn ‘Brif Fathemategydd’. Rydw i wedi addasu’r gêm yma i’w chwarae ar ddiwedd y wers Sbaeneg gan ddefnyddio’r geiriau a’r ymadroddion a ddysgwyd”.

“Rydyn ni wedi dechrau cyfarch ein gilydd mewn Almaeneg drwy gydol y dydd. Rwyf wedi bod yn gwrando ar y plant ac wedi eu clywed yn dweud ‘danke’ a ‘bitte’ wrth ei gilydd yn ogystal ag wrth wahanol aelodau o staff yr ysgol”.

Rhaglen datblygu proffesiynol yw Teachers Learning to Teach languages (TELT). Nod y rhaglen yw cynyddu a gwella darpariaeth ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd drwy gynnig cyfle i athrawon ddysgu iaith newydd wrth ddysgu’r sgiliau i addysgu’r iaith honno yn yr ystafell ddosbarth ar yr un pryd. Mae TELT yn fenter ar y cyd rhwng y Brifysgol Agored yng Nghymru a’r Alban a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Chanolfan Genedlaethol yr Alban ar Gyfer Ieithoedd, SCILT. Dechreuwyd darparu’r rhaglen datblygu proffesiynol gynhwysfawr hon i athrawon cynradd yng Nghymru yn 2018 gyda chymorth ariannol drwy gynllun Dyfodol Byd-eang. Mae’n cydfynd â’r amcan strategol cyffredinol i gefnogi addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol i holl ddysgwyr Cymru a chynyddu nifer y dysgwyr ifanc sy’n astudio ieithoedd ar bob lefel.

Amcan TELT yw cefnogi athrawon yn y cyfnod pontio i’r Cwricwlwm i Gymru drwy gynnig cyfleoedd addysgu a dysgu proffesiynol penodol i ymarferwyr i’w helpu ar hyd y daith i wireddu amcanion y cwricwlwm newydd mewn ysgolion. Gwneir hyn yn bennaf drwy integreiddio ieithoedd a dysgu am addysgeg ar yr un pryd, gan ddatblygu llythrenedd rhyng-ddiwylliannol a digidol. Cafodd y rhaglen ei threialu yn Yr Alban yn 2017 a’i chyflwyno yng Nghymru yn 2018. Mae’n cynnig amrywiaeth o ieithoedd gwahanol i annog ysgolion i ystyried ymestyn profiadau’r plant o ieithoedd yn y cwricwlwm. Hyd yma, mae dros 100 o athrawon cynradd ar draws pedwar consortiwm addysg rhanbarthol Cymru wedi cofrestru i gymryd rhan yn y rhaglen ar gyfer addysgu a dysgu naill ai Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Tsieinëeg (Mandarin).

Datblygu cymuned o ymarfer ar draws y wlad gyfan

Mae seilwaith ar-lein a chyrhaeddiad daearyddol y Brifysgol Agored yn golygu fod rhaglen TELT ar gael i holl ysgolion cynradd Cymru gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell. Mae hynny wedi helpu i greu cymuned o ymarfer o addysgwyr proffesiynol sy’n addysgu ieithoedd ledled Cymru a thu hwnt. O ganlyniad crewyd amgylchedd addysgu a dysgu unigryw lle mae athrawon yn rhan o broses addysgu sy’n cyfoethogi, sydd â ffocws clir, sy’n seiliedig ar eu gwybodaeth broffesiynol ac yn cael ei lywio gan eu profiad o addysgu cynradd. Mae’n gynnig sylweddol sy’n galluogi athrawon i gyrraedd lefel o ruglder yn yr iaith y maent yn ei dysgu gan roi hyder iddynt addysgu’r iaith honno. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau addysgu newydd drwy ddarparu arweiniad uniongyrchol i roi’r sgiliau hynny ar waith sy’n gefnogol ac ystyrlon. Anogir athrawon i gydweithio a meithrin agwedd ymholgar; mae’r dull yma o weithredu wrth galon holl weithgareddau’r rhaglen.

Mae TELT yn cynnwys cymysgedd o addysgu a dysgu cydamseredig ac anghydamseredig sy’n cynnwys dwy elfen benodol; dysgu iaith newydd ac addysgeg dysgu sut i addysgu’r iaith honno. Mae’r cyfoeth o syniadau, gwybodaeth ac ymarfer sy’n cael ei rannu ymysg yr athrawon sy’n astudio’r modiwl yma’n gwbl ganolog i lwyddiant y rhaglen. Un o nodweddion allweddol TELT yw ei fod yn cynnig cyfle dysgu proffesiynol hyblyg sy’n caniatau i athrawon ffitio’r dysgu o gwmpas gofynion eu hamserlenni prysur; sy’n golygu fod y dysgu hwnnw’n dod yn rhan o’r hyn y maent yn ei wneud yn eu dosbarthiadau bob dydd. Mae TELT yn anelu i ddangos i athrawon sut y gellir gwreiddio ieithoedd ym mhatrwm dyddiol eu dosbarthiadau ac fel rhan o drefn arferol yr ysgol, ac i ddefnyddio dull Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig (CLIL) wrth gyflwyno iaith newydd yn y dosbarth. Mae’r fethodoleg yma’n annog athrawon i wreiddio ieithoedd ym mhrofiad y disgyblion drwy feithrin cysylltiadau â phynciau eraill, er enghraifft, defnyddio Sbaeneg mewn gwers Ymarfer Corff neu Fandarin mewn gwers Fathemateg. Mae hyn yn cynnig ffyrdd newydd i harneisio cymhelliad, sgiliau a brwdfrydedd y disgyblion. Anogir athrawon i ymestyn addysgu a dysgu ieithoedd ar draws yr holl gwricwlwm a thrwy gymuned yr ysgol gyfan drwy ddefnyddio dulliau addysgu rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys meithrin cysylltiadau gyda chymunedau amrywiol yn yr ysgol yn ogystal â thu allan iddi drwy fentrau a gweithgareddau iaith wedi’u targedu.

Codi ymwybyddiaeth i gefnogi amlieithrwydd mewn ysgolion yng Nghymru

Un o egwyddorion craidd TELT yw’r angen i roi sylw i gyd-destun y gymdeithas gynyddol amlieithog y mae plant yn tyfu ynddi. Mae gan TELT ffocws cryf ar ddefnyddio addysgu a dysgu ieithoedd fel cyfrwng i addysgu a dysgu am ddiwylliant. Mae’r rhaglen yn amcanu i ddangos mai’r allwedd i addysgu a dysgu ieithoedd yn llwyddiannus yw’r cysylltiad rhwng iaith a diwylliant, gan fod dysgu am ddiwylliant yn ychwanegu dyfnder, cyd-destun a phwrpas i’r broses o ddysgu iaith. Mae cynnwys y rhaglen yn anelu i gysylltu ag amrywiaeth eang o fentrau iaith yn y gymuned i ddangos fod ieithoedd o’n cwmpas ym mhob man, ac nad rhywbeth i’w ddysgu yn yr ysgol ‘yn unig’ yw iaith. Gyda golwg ar hynny, mae’r rhaglen yn anelu i ddangos y gall manteision gwirioneddol, sy’n pontio’r cenedlaethau, ddeillio o fentrau fel hyn. Gan fod cysylltiad agos rhwng ieithoedd a chymunedau a’u harferion ieithyddol, mae tystiolaeth yn dangos gwir effaith rhaglen TELT lle, er enghraifft, mae disgyblion dwyieithog yn cefnogi athrawon cynradd gyda’r broses o addysgu a dysgu ieithoedd. Amlygir hyn gan y ‘geiriau o brofiad’ isod a bostiwyd mewn fforwm fel rhan o dasg adfyfyriol am danio brwdfrydedd plant yn y dosbarth gan athro a oedd yn dysgu iaith.

“Roeddwn i’n hoffi mod i’n gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ennyn diddordeb y plant yn y dasg, ac fe weithiodd hynny fel yr oeddwn wedi gobeithio. Dywedodd y plant fod hyn yn fwy o hwyl gan ei fod yn ddull rhyngweithiol o ddysgu, a’u bod nhw’n gallu dysgu geiriau newydd yn llawer cynt na phetaen nhw ond yn gorfod diffinio’r geiriau a’u defnyddio mewn brawddeg. Roedd y plant yn llawn brwdfrydedd trwy gydol y sesiwn – efallai ychydig yn rhy frwd!  Roeddwn i’n eitha nerfus wrth gyflwyno’r sesiwn gan ‘mod i’n ymwybodol efallai na fyddai fy ynganu’n gwbl berffaith, ond fe ddywedodd y siaradwr Ffrangeg oedd gyda ni yn y dosbarth mod i’n gwneud job dda! Roedd yn sesiwn lwyddiannus; fe fwynheuodd y plant yn fawr ac ni allaf aros i roi tro arall arni!”.

Mae TELT yn anelu i feithrin cymuned amlieithog mewn ysgolion drwy ddangos y gellir defnyddio’r addysgeg addysgu iaith yma i gyflwyno unrhyw iaith, drwy harneisio’r sgiliau iaith y daw’r disgyblion â nhw i’r dosbarth o’u cartrefi a’u cymunedau, a thrwy ddathlu ieithoedd a diwylliannau lluosog yn hytrach nag un iaith unigol.

“Mae’r cwrs yma wedi bwrw golau ar rai o’r anhawsterau sy’n codi wrth ddysgu iaith newydd. Rwy wedi ffeindio hynny’n ddefnyddiol mewn ysgol lle mae pob disgybl yn siarad o leiaf ddwy iaith ac mae nifer go dda yn siarad tair”.

Partneriaethau a chydweithio

Gellid ystyried rhaglen TELT fel glasbrint o’r modd y mae Llywodraeth Cymru, y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol a chynllun Dyfodol Byd-eang wedi dod at ei gilydd mewn partneriaeth i greu darpariaeth datblygu proffesiynol cynaliadwy, hyblyg a sylweddol i gefnogi ysgolion a dysgwyr. Mae’r cyd-destun unigryw yma wedi galluogi dod â chymunedau o athrawon yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig ynghyd i ddysgu gyda’i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae gofynion cynnwys yr addysgeg yn golygu bod athrawon yn rhoi’r hyn a ddysgon nhw drwy’r rhaglen ar waith yn eu dosbarthiadau, ac yna’n rhannu eu hadborth gyda’u grŵp cymheiriaid ar-lein.  Mae’r asesu ffurfiannol yn seiliedig ar fewnbwn adfyfyriol ac ymholgar gan yr ymarferwyr a rennir gyda’r gymuned o gymheiriaid drwy fforymau a hashnod Twitter. Yn 2019 fe esblygodd y bartneriaeth ymhellach pan benodwyd un o gyn-ddysgwr ac ymarferwr rhaglen TELT yng Nghymru yn diwtor addysgeg ymgynghorol gyda’r Brifysgol Agored i roi cefnogaeth i athrawon yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y rhaglen. Mae’r syniad y bydd athrawon sy’n graddio o raglen TELT yn gallu hyrwyddo ieithoedd a rhaeadru a rhannu eu profiadau gyda staff yn eu hysgolion a’u cymunedau yn ganolog i’r ethos o gynaliadwyedd.

Addysgu a dysgu yn ystod pandemig a phwysigrwydd technoleg ddigidol

Gan fod y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ei chyfanrwydd ar-lein, fe wnaethom barhau i’w rhedeg yn ystod pandemig Covid-19 gan greu ymdeimlad cryf o gymuned ar adeg anodd. O ganlyniad i’r profiad o astudio ar-lein, mae cyfranogwyr rhaglen TELT yn datblygu sgiliau llythrennedd digidol ac mae gofyn hefyd iddynt ddefnyddio amrywiaeth eang o adnoddau allanol i gefnogi eu gwaith wrth addysgu ieithoedd. Mae’r pandemig wedi dangos bod angen i’r broses o addysgu a dysgu ieithoedd harneisio pŵer adnoddau digidol a’r wê gan eu bod yn gyfryngau gwerthfawr i gael mynediad at ieithoedd a diwylliannau eraill. Yn 2021 rydym yn symud y bartneriaeth ddigidol i lefel arall drwy sefydlu prosiectau e-Efeillio rhwng athrawon sy’n astudio ar y rhaglen a’u disgyblion. Byddwn yn annog y disgyblion i rannu ac ymarfer yr iaith y maent wedi’i dysgu gyda’i gilydd drwy amryw o sianeli yn ogystal â rhoi cyfle i’r athrawon rannu eu hymarfer mewn ffyrdd newydd hefyd. Bydd y gweithgareddau yma’n cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion yng Nghymru a rhwng athrawon yng Nghymru a’r Alban gyda golwg ar greu cysylltiadau cyfoethog a gwerthfawr rhwng ysgolion a chymunedau sydd ar wasgar yn ddaearyddol.

Gweld addysgu a dysgu ieithoedd fel rhan o ‘feddylfryd twf’

Ers dechrau’r rhaglen yng Nghymru, mae’r adborth yn dangos budd ac effaith gadarnhaol galluogi athrawon a disgyblion i fod yn ddysgwyr gyda’i gilydd. Mae hyn wedi arwain at ‘feddylfryd twf’ lle gwelir ieithoedd fel ffactor dylanwadol yn llesiant disgyblion a staff gan fod gweithgareddau iaith yn weithgareddau cymdeithasol iawn gyda’r gymuned yn ganolbwynt iddynt. Mae’n werth nodi bod cyfraddau cadw a chymhelliant y rhaglen yn uchel, sy’n dysteb i ymroddiad athrawon llawn-amser a rhan-amser i ddatblygu proffesiynol – ar ben rheoli a gofalu am eu hymroddiadau proffesiynol. Yn ogystal, mae cyfraddau cyflawniad yr athrawon sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn gyson uchel, ac yn rhagori ar gyfraddau modiwlau eraill. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny â’r dull uniongyrchol a chydweithredol o roi sgiliau newydd ar waith yn y dosbarth ac o roi llais i ddisgyblion, ar y cyd â’u hathrawon, wrth lywio’r broses o addysgu a dysgu ieithoedd gyda’i gilydd.

Edrych tua’r dyfodol 

Gobeithir y bydd TELT yn arwain at fwy o gysondeb yn safon sgiliau iaith ac addysgeg yn y sector cynradd yng Nghymru. Gobeithir hefyd y bydd yn annog cyflwyno ieithoedd ychwanegol a helpu ysgolion i roi blaenoriaeth i ieithoedd yn y cwricwlwm newydd. Gyda chefnogaeth cynllun Dyfodol Byd-eang, bydd athrawon cynradd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn gallu cael mynediad at seilwaith ar-lein sefydledig y Brifysgol Agored. Mae’r rhyng-gysylltiad rhwng yr athro fel dysgwr a’i rôl fel addysgwr plant yn allweddol gan ei fod yn rhoi cyfle i athrawon gyflwyno’u hunain fel dysgwyr a chyd-lunio’r profiadau addysgu a dysgu gyda’r bobl ifanc y maent yn eu haddysgu. Mae TELT a’r nifer cynyddol o athrawon sy’n dewis manteisio ar y rhaglen yng Nghymru yn dangos sut y gallwn gydweithio’n llwyddiannus wrth edrych am ddulliau ymarferol o rannu profiad ac arbenigedd ac addasu’r dulliau hynny ar draws y sectorau addysg i wireddu’r dyhead i gefnogi addysgu a dysgu rhagorol ym maes ieithoedd rhyngwladol ar gyfer amrywiaeth eang o ddysgwyr.

 

Helen Phillips & Dr Sylvia Warnecke

Helen Phillips, Tiwtor Staff (Ieithoedd), OU Cymru a Dr Sylvia Warnecke, Tiwtor Staff (Ieithoedd), OU Alban

Open University