Ymunwch â ni yn ein Cynhadledd Ysgolion Bro

Dyddiad: Dydd Llun, 31 Mawrth 2025
Lleoliad: Canolfan Gynhadledd Halliwell, Caerfyrddin

Un o amcanion y Cwricwlwm i Gymru yw sicrhau tegwch ym maes addysg, a rhoi cefnogaeth i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru oresgyn rhwystrau a chyrraedd eu llawn botensial. Tra bod ysgolion yn ganolog i hyn, gall cydweithio gyda theuluoedd, cymunedau a gwasanaethau allanol greu system gymorth fwy pwerus i ddysgwyr.

Ymunwch â ni yn ein Cynhadledd am Ysgolion Bro i weld sut y gallant drawsnewid ysgolion yn hybiau lle mae addysgwyr, aelodau o'r gymuned leol, teuluoedd a dysgwyr i gyd yn chwarae rhan i greu'r amodau gorau ar gyfer addysgu, dysgu a datblygu.

Bydd y gynhadleddd undydd yn cynnwys:

Siaradwyr Gwadd:

Lee Elliott Major, Athro mewn Symudedd Cymdeithasol, Prifysgol Exeter

Michelle Dolan, Dirprwy Bennaeth, Ysgol Uwchradd St Louis, Dundalk, Iwerddon

Bydd cyfle hefyd i chi gael mewnwelediad drwy astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer gorau a fydd yn cael eu rhannu gan Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin Cymru.

Ar gyfer pwy mae'r gynhadledd?                                                                        
Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at athrawon, arweinwyr ysgol a sefydliadau sydd am ddarganfod mwy am Ysgolion Bro a:

  • meithrin partneriaeth gref â theuluoedd
  • gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned
  • cydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill
  • canolbwyntio ar anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd pob dysgwr

Dim ond lle i 2 addysgwr o bob ysgol sydd ar gael.

Cofrestrwch erbyn 10 Mawrth i sicrhau eich lle!

Am fwy o wybodaeth, ebostiwch ni yn iepwales@britishcouncil.org

Rhannu’r dudalen hon