Dydd Mercher 11 Tachwedd 2020

 

Mae adroddiad newydd yn dweud y dylai Cymru ddefnyddio chwaraeon i gryfhau ei phresenoldeb ar lwyfan y byd.

Mae adroddiad ‘Tuag at Strategaeth Diplomyddiaeth Chwaraeon i Gymru’ yn amlinellu sut y gallai asedau chwaraeon Cymru helpu i ddatblygu a chryfhau ei chysylltiadau gyda gweddill y byd.

Mae awduron yr adroddiad yn galw ar sefydliadau chwaraeon a’r llywodraeth i weithio gyda’i gilydd i sicrhau mai Cymru yw’r wlad ddatganoledig gyntaf i fabwysiadu strategaeth benodol ar gyfer chwaraeon.

Gallai Cymru ymuno ag Awstralia, Seland Newydd a Ffrainc fel un o’r unig wledydd sy’n cydnabod pwysigrwydd chwaraeon yn eu strategaethau i adeiladu cysylltiadau rhyngwladol.

Mae’r gwledydd hyn wedi deall y pŵer sydd gan bobl o fyd chwaraeon i fod yn llysgenhadon dylanwadol, ac mae’r adroddiad yn awgrymu y dylai Cymru fanteisio ar boblogrwydd ei hathletwyr elît yn yr un modd.

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru, a gomisiynodd yr adroddiad: “Mae’r adroddiad newydd yma’n dilyn ein hymchwil blaenorol i rym cymell tawel Cymru a nododd fod chwaraeon yn un o’n hasedau mwyaf pwerus dramor.

“Mae Cymru’n hawlio cynrychiolaeth annibynnol mewn nifer o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, ac er ein bod ni’n wlad fach rydym wedi creu argraff sylweddol ym myd chwaraeon. Mae ein hymchwil yn dangos fod diplomyddiaeth chwaraeon yn cynnig cyfle go iawn i Gymru.

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud gwaith rhagorol yn y maes yma, ac er bod mwy y gall pob un ohonom ei wneud, bydd gweithio ar y cyd yn hanfodol os ydym am wneud i hyn weithio.”

Dywedodd Dr Stuart Murray (Prifysgol Bond, Awstralia), prif ymchwilydd yr adroddiad: “Mae gan Gymru gyfoeth o dalent, adnoddau a chyfle ym maes chwaraeon. Mae diplomyddiaeth chwaraeon yn ffordd arloesol o godi proffil cenedl gyda phoblogaethau, busnesau a llywodraethau rhyngwladol, ond mae gwerth ynddo hefyd i’r sector chwaraeon.

“Mae’r adroddiad yn edrych ar weithgarwch cenhedloedd eraill yn y maes yma yn ogystal â chyflwyno argymhellion am y camau y gallai Cymru eu cymryd i wneud mwy o ddefnydd o’u hasedau chwaraeon.

Mae cydweithio rhwng y llywodraeth a byd chwaraeon Cymru’n gwbl allweddol i hyn. Hefyd, mae angen gwerthfawrogi’r amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer diplomyddiaeth chwaraeon sydd yma - o ddiwylliant beicio mynydd byd-enwog Cymru i’r cyhoeddiad diweddar fod Gemau’r Ynysoedd yn dod i Ynys Môn i’r rhaglenni hyfforddi o’r radd flaenaf sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.”

Yn ei rhagymadrodd i’r adroddiad, mae’r Athro Laura McAllister, yr academig nodedig o Gymru a’r cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, yn nodi: “Mae chwaraeon yn creu cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ledled y byd. Mae’n gyfrwng i feithrin rhwydweithiau anffurfiol sy’n creu a chryfhau cysylltiadau ffurfiol a swyddogol.

“Mae gan chwaraeon rôl allweddol nid yn unig o ran mynegi pwy ydyn ni, ond hefyd o ran ein gwerthoedd gwleidyddol fel partner masnachu sy’n agored a hawdd ymwneud â ni, dinasyddion byd-eang cadarn a phobl sy’n gynhwysol a chroesawgar.”

Nodiadau i olygyddion

Gallwch ddarllen adroddiad ymchwil British Council Cymru i rym cymell tawel, ‘Baromedr Grym Cymell Tawel Cymru 2018’ yma.

Awduron yr adroddiad

Mae Dr Stuart Murray yn Athro Cysylltiol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (Prifysgol Bond, Awstralia), Cymrawd Byd-eang o’r Academi Chwaraeon (Prifysgol Caeredin), a Golygydd Cysylltiol cyfnodolyn ‘Diplomacy & Foreign Policy’ (Brill). Mae’n arbenigwr ar ddiplomyddiaeth draddodiadol ac arloesol yn ogystal â diplomyddiaeth chwaraeon, ac mae’n awdur dros dri deg pedwar o gyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gydweithwyr. Mae’n cael ei alw’n gyson i roi cyngor i lywodraethau yn ogystal ag unigolion a chyrff anwladwriaethol (NSA).

Mae Gavin Price yn frodor o Gymru ac yn arbenigwr annibynnol sy’n canolbwyntio ar ddiplomyddiaeth chwaraeon a chysylltiadau diwylliannol rhyngwladol ym Mhrifysgol Bond (Awstralia), Counsel Ltd (y D.U.) ac ICR Ltd. Mae’n paratoi ei draethawd Doethuriaeth ar ddiplomyddiaeth chwaraeon a chenhedloedd bach ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny mae’n gallu manteisio ar brofiadau ei yrfa nodedig yn sectorau cyhoeddus y Deyrnas Unedig, Awstralia a’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â’i ymlyniad ymchwil i Hwb Chwaraeon, Diplomyddiaeth a Llywodraethiant yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS) ym Mhrifysgol Llundain.

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Llynedd, gwnaethom ymgysylltu â thros 80 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 791 miliwn o bobl i gyd - gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r gwledydd yr ydym yn gweithio gyda nhw - yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon