Mae ein hadroddiad newydd ‘Tuag at Strategaeth Diplomyddiaeth Chwaraeon i Gymru’ yn edrych ar sut y gallai Cymru harneisio chwaraeon i greu cysylltiadau ar draws y byd.
Yn 2018, dangosodd ein hymchwil ‘Baromedr Grym Cymell Tawel Cymru’ bod chwaraeon yn un o gryfderau mawr Cymru ar lwyfan y byd. Mae’r adroddiad newydd yma’n edrych ar sut y gall Cymru elwa ar y cryfder yna.
Gyda rhagair gan yr Athro Laura McAllister, cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, academydd ac arbenigwr ar bolisi cyhoeddus, mae’r adroddiad yn edrych ar sut y mae cenhedloedd eraill wedi datblygu strategaethau diplomyddiaeth chwaraeon llwyddiannus. Mae’n cyflwyno cyfres o gamau allweddol a fydd yn helpu Cymru i fanteisio’n llawn ar ei rhagoriaethau ym myd chwaraeon, a sicrhau mai Cymru fydd y genedl gyntaf â llywodraeth ddatganoledig i ddefnyddio diplomyddiaeth chwaraeon mewn modd strategol.
Mae gan yr adroddiad wyth neges allweddol:
• Gyda golwg ar Strategaeth Ryngwladol 2020 Llywodraeth Cymru, dyma’r adeg iawn i ofyn beth yw rôl chwaraeon o ran ymgysylltu’n rhyngwladol a gweithgarwch diplomyddol Cymru.
• Mae diplomyddiaeth chwaraeon yn cynnig cyfle unigryw i Gymru arwain y ffordd fel llywodraeth is-wladwriaethol sy’n datblygu polisi arloesol.
• O ran asedau grym cymell tawel chwaraeon, mae gan Gymru gyfoeth heb ei gyffwrdd o dalent, adnoddau a chyfle.
• Mae natur, cyfrifoldeb a grym diplomyddiaeth a chwaraeon yn newid. Mae angen i Gymru feddwl am beth mae bod yn genedl sy’n dathlu chwaraeon ac sy’n edrych allan i’r byd yn ei olygu yn ein byd ni heddiw.
• Mae cyplysu amcanion polisi tramor gyda chwaraeon yn ffordd risg isel, cymharol rad ac uchel ei broffil o godi proffil rhyngwladol Cymru, tyfu’r economi Gymreig a sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel byd-eang.
• Gall chwaraeon ryngweithio gydag asedau grym cymell tawel eraill yn ogystal â’u hybu. Gall chwaraeon fod yn gyfrwng i arddangos gwerthoedd cenedl ac amlygu ei chyfrifoldeb ar lefel byd-eang.
• Gallai Cymru ymuno â’r rhestr gynyddol o wledydd sydd â strategaethau, swyddfeydd, swyddogion, deoryddion a hybiau diplomyddiaeth chwaraeon. Wrth wneud hynny, Cymru fyddai’r llywodraeth is-wladwriaethol gyntaf i fabwysiadu strategaeth benodol ar gyfer diplomyddiaeth chwaraeon.
• Mae ehangu’r bartneriaeth rhwng y llywodraeth, diwydiant chwaraeon, asiantaethau yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig a phobl Cymru’n gyffredinol yn allweddol os ydym am wireddu potensial diplomyddiaeth chwaraeon Cymru.
“Mae chwaraeon yn creu cyfleoedd i ymgysylltu â phobl ledled y byd. Mae’n gyfrwng i feithrin rhwydweithiau anffurfiol sy’n creu a chryfhau cysylltiadau ffurfiol a swyddogol. Mae gan chwaraeon rôl allweddol nid yn unig wrth fynegi pwy ydyn ni, ond hefyd o ran ein gwerthoedd gwleidyddol fel partner masnachu sy’n agored a hawdd ymwneud â ni, dinasyddion byd-eang cadarn a phobl sy’n gynhwysol a chroesawgar.”
- Yr Athro Laura McAllister