- Cynnydd ym mhoblogrwydd Sbaeneg, gyda’r nifer a geisiodd yn cynyddu o 11.7% i 1,475
- Niferoedd sy’n dewis Ffrangeg ac Almaeneg yn parhau i ddisgyn – dirywiad o 25.2% mewn Ffrangeg a 26.54% mewn Almaeneg
- Ffrangeg yw’r iaith fwyaf poblogaidd o hyd, yna Sbaeneg ac yna Almaeneg
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr Cymru, British Council: “Ar ran British Council Cymru, hoffwn estyn llongyfarchiadau mawr i’r holl fyfyrwyr yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig sy’n cael eu canlyniadau heddiw. Rydyn ni’n gwybod pa mor heriol fu’r blynyddoedd diwethaf ac mae canlyniadau heddiw yn benllanw dwy flynedd o waith caled ac ymroddiad gan y myfyrwyr hyn, eu hysgolion a’r gymuned ehangach.
“Rydyn ni’n falch iawn o weld y cynnydd yma yn y nifer sy’n dewis Sbaeneg, ac am y tro, Ffrangeg yw’r dewis mwyaf poblogaidd o hyd o iaith ar gyfer TGAU. Ond, mae’n destun pryder i weld y gostyngiad cyffredinol yn y nifer sy’n dewis Almaeneg a Ffrangeg. Mae’r Almaen a Ffrainc yn bartneriaid masnach rhyngwladol pwysig i Gymru ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gryfhau ein cysylltiadau gyda’r ddwy wlad.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o ddisgyblion yn mynd yn eu blaen i astudio ieithoedd ar gyfer Lefel A ac yn y brifysgol achos mae angen mwy o siaradwyr ieithoedd rhyngwladol ar Gymru, a bydd gweddill y byd yn croesawu mwy o ymdrechion i ddileu rhwystrau ieithyddol.
“Mae’n hanfodol fod ysgolion yn blaenoriaethu dysgu ieithoedd a’r ddarpariaeth ar gyfer hynny ac rydym yn gobeithio y gallwn ni yn y British Council chwarae ein rhan. Er enghraifft, nod ein rhaglen ‘Cerdd Iaith’ yw sbarduno a rhoi cymorth i addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd. Drwy gyfuno cerddoriaeth a drama mae’r fenter hon yn anelu i helpu disgyblion i ddysgu Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg a Chymraeg mewn ffordd hwyliog sy’n cydio yn eu dychymyg a thanio diddordeb oes mewn dysgu ieithoedd o oed ifanc. Rydyn ni hefyd eisiau rhoi’r hyder a’r sgiliau i athrawon cynradd fel y gallant hybu dysgu ieithoedd hyd yn oed os nad ydynt yn ieithyddion.
"Ni ellir gorbwysleisio gwerth dysgu iaith ryngwladol. Mae’n sgil werthfawr, nid yn unig ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ond hefyd o ran masnach a diplomyddiaeth ryngwladol, gweithio’n fyd-eang a sicrhau gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill a’r byd ehangach.
“Rydyn ni’n dymuno pob lwc i bob myfyriwr wrth iddynt ddechrau ar bennod nesaf eu siwrnai academaidd. Mae’ch bywydau cyfan o’ch blaen ac mae’r byd allan yna’n aros amdanoch chi!”
Mae mwy o wybodaeth am raglen Cerdd Iaith y British Council a sut y gallwch gymryd rhan fel ysgol, athrawon neu hyfforddwr athrawon ar gael yma: British Council Cymru - Cerdd Iaith
Cyhoeddir adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru nesaf y British Council yn yr Hydref. Mae mwy o wybodaeth am adroddiadau Tueddiadau Ieithoedd Cymru ar gael yma: British Council Cymru - Tueddiadau Ieithoedd Cymru