Dydd Iau 25 Hydref 2018

 

•  37% o ysgolion yn dweud bod Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau at astudio Ieithoedd Tramor Modern (ITM)

•  Mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Lefel A mewn ITM yn dal i ostwng: Almaeneg - 33%, Sbaeneg -12%, Ffrangeg – 6%

•  Mae’r gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn Almaeneg wedi cael ei atal, ond mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn Sbaeneg wedi gostwng 23%

Mae adroddiad newydd gan British Council Cymru yn dangos bod nifer y disgyblion ysgol yng Nghymru sy’n dewis astudio ieithoedd tramor yn parhau i gwympo a bod Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau at ddysgu ieithoedd.

Yn ôl yr adroddiad, Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2018, mae mwy na thraean (37%) o ysgolion Cymru’n dweud bod Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau disgyblion a rhieni at astudio ieithoedd tramor modern (ITM). Mae ysgolion hefyd yn poeni y bydd Brexit yn cael effaith andwyol ar recriwtio a chadw athrawon ITM. Ysgolion yn ne ddwyrain Cymru sy’n fwyaf tebygol o adrodd fod Brexit yn cael effaith negyddol ar ITM (56%).

Ers 2002 bu gostyngiad o 57% yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU mewn ieithoedd tramor modern, gyda gostyngiad o ddwy ran o dair mewn Ffrangeg a 71% mewn Almaeneg.

Mae data arholiadau TGAU eleni’n dangos bod y dirywiad yn nifer y disgyblion sy’n astudio Almaeneg wedi cael ei atal, a bod dirywiad y nifer o ymgeiswyr ar gyfer TGAU Ffrangeg yn llai serth na blynyddoedd cynt (dim ond 5% o’i gymharu â 11% yn 2016-17), ond bu cwymp sylweddol o 23% yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Sbaeneg. Dim ond llond dwrn o ysgolion a welodd gynnydd yn nifer y disgyblion a ddewisodd astudio iaith dramor.

Mae nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll arholiadau Lefel A mewn ITM wedi hanneru ers 2001, gyda Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg i gyd yn dioddef effaith hynny. Mae data 2018 yn dangos bod y tueddiadau hyn yn parhau, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Lefel A mewn Almaeneg, sydd 33% yn llai, Sbaeneg sydd 12% yn llai a Ffrangeg, sydd 6% yn llai. Nid yw ffigyrau ymgeiswyr Lefel AS yn cynnig fawr o obaith bod y sefyllfa’n mynd i wella yn 2019 gan fod nifer yr ymgeiswyr yn y tair iaith yn parhau i ostwng. 

Dangosodd yr adroddiad bod nifer y disgyblion sy’n dewis astudio ITM mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion â chanran uwch o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dueddol o fod yn isel.  

Mae Dyfodol Byd-eang, cynllun Llywodraeth Cymru i wella a hyrwyddo dysgu ieithoedd tramor modern, wedi cyrraedd mwy o ysgolion eleni. Bu cynnydd yn nifer yr ymatebion a dderbyniwyd i’r arolwg (o 72% i 87%), ac mae athrawon yn ymateb yn gadarnhaol o ran defnyddioldeb y cynllun. Fodd bynnag, yn ôl y rhai a ymatebodd i’r arolwg mae angen newidiadau y tu hwnt i gwmpas cynllun Dyfodol Byd-eang er mwyn gwyrdroi dirywiad ITM.

Mae athrawon yn nodi bod ffactorau eraill ar wahan i Brexit yn cyfrannu at ddirywiad ITM, sef: yr argraff gan ddisgyblion bod ITM yn fwy anodd na phynciau eraill, y gwerth isel a roddir ar ITM o’i gymharu â STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianeg a mathemateg) a’r cyfyngu ar ddewis pynciau er mwyn gwneud lle i Fagloriaeth Cymru. 

Meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae’n braf iawn gweld bod mwyafrif helaeth yr ysgolion wedi defnyddio gwasanaethau cymorth a rhaglenni ymgysylltu cynllun Dyfodol Byd-eang ar gyfer ITM. Ein gobaith yw bod y dirywiad yn nifer y disgyblion sy’n astudio iaith dramor fodern yn dechrau arafu, ond mae angen o hyd i lawer mwy o’n pobl ifanc i ddewis TGAU mewn iaith dramor. Mae’n peri penbleth bod llai o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dewis astudio ITM ac yn dangos bod Cymru’n dal i fethu manteisio’n llawn ar ei chryfderau fel cenedl ddwyieithog.

Bydd unrhyw brinder o ieithyddion yn y dyfodol yn cael effaith ddifrifol ar fusnes, twristiaeth ac ymgysylltiad rhyngwladol Cymru, yn enwedig gan fod meithrin cysylltiadau a masnach ryngwladol yn bwysicach nag erioed. Rhaid i ni newid statws dysgu ieithoedd tramor modern er mwyn eu diogelu a phwysleisio eu gwerth yn ein system addysg”

Yn wyneb y cwymp sylweddol a’r gostyngiad parhaus yn y nifer sy’n astudio ITM yng Nghymru ar gyfer TGAU a chymwysterau ôl-16, mae’r adroddiad yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys y tu hwnt i gwmpas cynllun Dyfodol Byd-eang. Er gwaethaf ystod o fentrau hyrwyddo, mae sgil effeithiau diwygiadau ym maes addysg a ffactorau eraill wedi creu pwynt tyngedfennol a fydd, yn fuan iawn, yn bygwth dileu’r gallu mewn rhai ieithoedd yn llwyr.

Nodiadau i olygyddion

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar ddadansoddiad o arolygon arlein a gwblhawyd gan athrawon sy’n gyfrifol am ITM mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Cyflawnwyd y gwaith yma rhwng Ionawr a Mawrth 2018 gyda chyfradd ymateb o 65% (135 o ymatebion o gyfanswm o 208 o ysgolion uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth yng Nghymru).

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Y llynedd, ymgysyllton ni â mwy na 75 miliwn o bobl yn uniongyrchol a 758 miliwn o bobl i gyd, gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd rydym yn gweithio gyda nhw – rydym yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin hyder. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig a gaiff ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. www.britishcouncil.org

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon