Dydd Mawrth 03 Mawrth 2020

Mae pump o brosiectau diwyllianol cydweithredol rhwng India a Chymru wedi cael eu cadarnhau ar gyfer rhaglen Connections through Culture: India-Wales

Bydd Gŵyl y Llais, Focus Wales, Gŵyl Diffusion, Gareth Bonello a Theatr Iolo yn datblygu prosiectau gyda gwyliau diwylliannol yn India. 

Byddant yn cydweithio i greu gwaith newydd ac yna’n teithio’r prosiectau i nifer o wyliau yn India a Chymru – gan gyflwyno gwaith rhyngwladol i gynulleidfaoedd newydd ac eang.

Menter gan y British Council gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yw’r gronfa yma, ac mae’n dilyn yn ôl traed tymor #IndiaWales a gynhaliwyd yn 2018 a thymor #WalesinKolkata a gynhaliwyd yn 2019. Nod y fenter yw hybu cydweithio cyfartal rhwng India a Chymru er budd y naill a’r llall a galluogi sefydliadau yn y ddwy wlad i rannu gwybodaeth, sgiliau a modelau busnes i adeiladu sector gwyliau diwylliannol mwy cadarn a chynaliadwy yn y ddwy wlad.

Dywedodd Barbara Wickham OBE, Cyfarwyddwr India’r British Council:

“Mae Cymru ac India’n rhannu angerdd am y celfyddydau yn ogystal â hanes o gydweithio yn y sector yma. Fe dderbyniom geisiadau rhagorol ar gyfer ein rhaglen grantiau, Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant, ac rydym wedi dewis prosiectau creadigol gwirioneddol gyffrous ar draws India a Chymru gyda nifer o wyliau diwylliannol blaengar. Mae hwn yn gyfle gwych i’r British Council yn India ac yng Nghymru a Llywodraeth Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru i wreiddio perthnasoedd creadigol; a galluogi partneriaethau cynaliadwy i feithrin cysylltiadau, creu a chydweithio yn y blynyddoedd i ddod.”

Prosiectau a gafodd eu dewis ar gyfer y rhaglen:

Bydd Gŵyl y Llais yn gweithio gyda Jodhpur Riff, gŵyl gerddoriaeth werin sy’n cael ei chynnal yn Rajasthan. Bydd y prosiect yn defnyddio cerddoriaeth a’r gair llafar i gyflwyno gwaith gan leisiau benywaidd mewn Hindi traddodiadol a’r Gymraeg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Graeme Farrow: 

“Ein gweledigaeth ar gyfer Gŵyl y Llais yw y bydd yn tyfu i fod yn rhan ganolog o galendr digwyddiadau rhyngwladol blynyddol Cymru, ac o ymroddiad Caerdydd i roi cerddoriaeth wrth galon datblygiad y ddinas. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Gŵyl Werin Ryngwladol Rajastan (Jodhpur RIFF) ar y prosiect cyffrous yma ac yn edrych ymlaen at ei chroesawu i Gaerdydd.”

Bydd gŵyl Ziro Festival, yn rhanbarth Arunachal Pradesh yr India yn gweithio mewn partneriaeth gyda Focus Wales yn Wrecsam. Mae’r ddwy ŵyl yn rhoi llwyfan i arddangos cerddoriaeth annibynnol gan artistiaid a bandiau ei gwledydd. Drwy’r prosiect yma byddant yn cydweithio i gyflwyno artistiaid o Gymru ar lwyfannau Gŵyl Ziro ar y naill law, ac artistiaid o India ar lwyfannau Focus Wales ar y llall.

Bydd Theatr Iolo cwmni theatr i bobl ifanc, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gŵyl Theatr i Blant Hydrabad. Dywedodd Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo: 

“Rydyn ni wrth ein bodd i dderbyn grant Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India/Cymru, ac yn teimlo’n gyffrous iawn am weithio mewn partneriaeth gyda Gŵyl Theatr i Blant Hydrabad a chael cyfle i rannu proses a dysgu oddi wrth ein gilydd a datblygu gwaith newydd ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc. Mae hwn yn gyfle ardderchog i Theatr Iolo ymestyn ein cynulleidfa yn India gan ein bod eisoes wedi meithrin cysylltiadau gwerthfawr gyda Think Arts yn Kolkata yn ystod tymor #IndiaWales llynedd.”

Bydd y canwr a’r sgwennwr caneuon a chyn enillydd Gwobr Cerddoriaeth Cymru, Gareth Bonello yn gweithio gyda Jodhpur Riff i ddatblygu cysylltiadau rhwng cerddorion o Gymru, Bryniau Cassia a Rajasthan. 

Bydd Gŵyl Diffusion a Biennale Chennai Photo yn cydweithio i gomisiynu gwaith a fydd yn cael ei ddangos yng Ngŵyl Diffusion yn 2021 cyn teithio i Biennale Chenai Photo yn 2022.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â  Rosa.bickerton@britishcouncil.org Ffôn: +44(0) 758 5984 319

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan: https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/celfyddydau/cysylltiadau-drwy...

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru 

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru’n hwyluso gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau trwy gyfrwng cydweithrediadau, prosiectau, rhwydweithiau a chyfathrebu. Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru sy’n gweithio ar lefel ryngwladol. Rydym hefyd yn fan cyswllt i artistiaid a sefydliadau celfyddydol rhyngwladol sy’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn meithrin rhagoriaeth artistig ryngwladol a hybu effaith a chydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant Cymru. www.wai.org.uk

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn gweithio gyda thros 100 o wledydd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, Saesneg, addysg a’r gymdeithas sifil. Llynedd, fe wnaethom ni ymgysylltu â mwy na 75 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 758 miliwn o bobl i gyd - gan gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau. Rydym yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd yr ydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn newid bywydau drwy greu cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau a meithrin hyder. Sefydlwyd y British Council ym 1934 ac rydym yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy’n cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ac yn gorff cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn derbyn grant cyllid craidd o 15 y cant gan lywodraeth y Deyrnas Unedig www.britishcouncil.org 

Rhannu’r dudalen hon