India Cymru
Menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council yw India Cymru. Mae’n cefnogi cydweithio artistig a mentrau cyfnewid rhwng aelodau’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mae India Cymru yn cefnogi rhaglen ehangach Blwyddyn Diwylliant y DU ac India yn 2017 ond mae hefyd yn ymestyn y tu hwnt i hynny.
Mae nodi 70 mlynedd ers annibyniaeth India yn ystod 2017, yn cynnig cyfle pwysig i Gymru ac India adfywio a chryfhau eu perthynas, i greu cysylltiadau dynamig newydd drwy fynegiant artistig ac i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu creadigol newydd.
Cynyddu gwerth prosiectau cyfnewid diwylliannol rhyngwladol i Gymru; dathlu diwylliant Cymru yn ei holl amrywiaeth o ran iaith, mynegiant creadigol ac ymgysylltiad; meithrin cysylltiadau hirhoedlog ac ystyrlon ledled y byd drwy’r celfyddydau – dyma sydd wrth wraidd India Cymru.
Dan arweiniad aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol o bob cwr o Gymru mewn cydweithrediad â phartneriaid yn India, mae India Cymru yn cefnogi 15 o brosiectau i ddatblygu a chyflwyno gwaith ar sawl ffurf celfyddydol sy’n cysylltu artistiaid o bob rhan o Gymru ag artistiaid a chynulleidfaoedd ledled India: O Fangor i Bangalore!
Mae Alan Gemmell, Cyfarwyddwr India ar gyfer y British Council wedi cydnabod pa mor bwysig y gall prosiectau cydweithredol artistig fod o ran meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac India.
Drwy gyfrwng ein Blwyddyn Diwylliant ac India Cymru rydyn ni’n gwneud tri pheth: dathlu perthynas India heddiw â Chymru a’r DU; creu cyswllt â phobl ifanc yn y ddwy wlad gyda’r nod o’u hysbrydoli i feithrin perthynas rhwng India a Chymru am y 70 mlynedd nesaf. Gobeithio y byddwn ni hefyd yn rhannu gwerthoedd Cymru â phobl yn India, gan greu cyfeillgarwch a phartneriaethau o’r newydd a fydd yn sylfaen dda ar gyfer y 70 mlynedd nesaf.
Prosiectau rydym yn eu cefnogi
Rydym yn cefnogi portffolio o brosiectau cyfoethog ac amrywiol sy’n dwyn ynghyd artistiaid a sefydliadau celfyddydol blaenllaw o India a Chymru. Mae sawl ffurf celfyddydol yn rhan o’r rhaglen: theatr, dawns, y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, cerddoriaeth a’r celfyddydau cymhwysol a chrefft.
Mae llawer o’r prosiectau yn cynnwys perfformiadau cyhoeddus uchel eu proffil ac arddangosfeydd byw a digidol. Mae eraill yn gweithio’n uniongyrchol â chymunedau drwy weithdai a theithiau. Dechreuodd y rhaglen yn ystod misoedd cyntaf 2017 a bydd yn parhau i 2018.
Maent oll yn brosiectau cydweithredol cyffrous ac arloesol sy’n ysgogi deialog creadigol ac sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn y ddwy wlad.
Mae’r rhestr lawn o’r prosiectau sydd wedi’u dewis i’w gweld isod: