Dydd Mawrth 04 Tachwedd 2025

 

Prif Ganfyddiadau'r Adroddiad:

  • Nifer y ceisiadau i astudio ar gyfer Safon Uwch mewn Ffrangeg ac Almaeneg wedi gostwng yn sylweddol; a pherygl gwirioneddol y gall Almaeneg ddiflannu fel pwnc Safon Uwch yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf
  • Dau o bob pump o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd yn nodi nad oes ganddynt unrhyw ddarpariaeth ieithoedd ôl-16 - patrwm sy'n fwy amlwg mewn ardaloedd llai breintiedig. Mae hynny'n torri llwybr astudio ieithoedd - o TGAU i Safon Uwch a thu hwnt - yng Nghymru
  • Mae'r ddarpariaeth addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol ar gyfer TGAU yn dal i fod yn anghyson; nid yw dwy ran o dair o'r ysgolion a ymatebodd yn cynnal gwersi iaith TGAU o gwbl os yw nifer y dysgwyr yn rhy isel - problem sy'n fwyaf amlwg mewn ardaloedd llai breintiedig. Mae disgyblion ysgolion mewn ardaloedd breintiedig yn llawer mwy tebygol o barhau i ddysgu ieithoedd y tu hwnt i lefel TGAU
  • Er hyn, mae rhai ysgolion mewn ardaloedd llai breintiedig yn ffynnu ym maes addysg ieithoedd - gan gynnig modelau o arfer da o ran addysgu a dysgu ehangach a pholisïau cefnogol
  • Mae'r ysgolion hefyd yn nodi'r canlynol fel rhwystrau i addysgu ieithoedd: niferoedd isel o ddysgwyr sydd am astudio ieithoedd, dull asesu a graddio arholiadau allanol a heriau o ran adnoddau
  • Mae nifer y ceisiadau ar gyfer TGAU mewn Ffrangeg wedi cynyddu am yr ail flwyddyn yn olynol, tra bod ceisiadau ar gyfer Sbaeneg, a welodd ostyngiad yn 2023 a 2024, wedi cynyddu'n sylweddol - arwyddion cynnar sy'n awgrymu adferiad ym maes ieithoedd yng Nghyfnod Allweddol 4
  • Mae dros 80% o'r ysgolion cynradd a ymatebodd yn addysgu iaith ryngwladol bellach - dwywaith y ganran a nodwyd yn 2022
  •  

Mae nifer y dysgwyr sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol y tu hwnt i lefel TGAU yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol, ac mae British Council Cymru'n rhybuddio y gall y cynnydd diweddar mewn addysgu a dysgu ieithoedd gael ei golli os na chymerir camau brys a pharhaus i wella'r sefyllfa. 

Mae adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2025 a gyhoeddir gan British Council Cymru heddiw (Dydd Mawrth, 4 Tachwedd) yn cyflwyno darlun cymysg. Gwelir cynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n dysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd, ac arwyddion cynnar fod y sefyllfa o ran TGAU yn gwella. Ond mae'r dirywiad parhaus yn y nifer sy'n astudio ieithoedd ar gyfer cymhwyster ôl-16 yn fygythiad gwirioneddol i ddyfodol hirdymor addysgu a dysgu ieithoedd yng Nghymru.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan Brifysgol Queen's Belffast, ar sail arolwg o sefyllfa addysgu a dysgu ieithoedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau ôl-16 yng Nghymru - yn  holi am brofiad a barn athrawon am y cynnydd a'r heriau ym maes addysg ieithoedd o dan y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Nododd dros 80% o'r ysgolion cynradd a ymatebodd eu bod bellach yn addysgu iaith ryngwladol - dwywaith cymaint â'r ffigwr a nodwyd yn 2022. Ffrangeg yw'r iaith fwyaf poblogaidd o hyd, ac yna Sbaeneg ac Arabeg; roedd Iaith Arwyddion Prydain, Pwyleg a Phortiwgaleg ymysg yr ieithoedd eraill a nodwyd gan yr ysgolion a ymatebodd.

Ond, er bod ieithoedd rhyngwladol yn elfen ofynnol o'r cwricwlwm newydd i ysgolion cynradd, canfu'r adroddiad eu bod yn wynebu o heriau sylweddol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfyngiadau o ran hyfedredd staff mewn ieithoedd rhyngwladol - nododd tua thri chwarter yr ysgolion cynradd a ymatebodd fod diffyg sgiliau mewn ieithoedd rhyngwladol yn un o'r prif heriau a wynebir ganddynt, yn ogystal â phrinder amser cwricwlwm a chystadleuaeth gan Gymraeg a Saesneg.

Yn y cyfamser, wedi dros ddegawd o ddirywiad mae nifer y ceisiadau ar gyfer TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru'n dechrau dangos arwyddion petrus o gynnydd. Gwelwyd cynnydd mewn Ffrangeg - o 2,126 yn 2024, i 2,269 yn 2025 (cynnydd o 6.7%). Er y gwelwyd gostyngiad yn nifer y ceisiadau ar gyfer Sbaeneg rhwng 2023 a 2024, bu cynnydd yn 2025, o 1,359 i 1,591 (cynnydd o 17%). Ond mae'r dirywiad mewn Almaeneg yn parhau - 432 o geisiadau eleni (gostyngiad o 7%). Yn gyffredinol, mae'r nifer sy'n dewis astudio ieithoedd rhyngwladol ar gyfer TGAU wedi tyfu am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae'n bosib fod y twf yma'n arwydd o'r cynnydd mewn cysylltiad ag ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd ac yng Nghyfnod Allweddol 3 yn unol â gofynion y Cwricwlwm i Gymru newydd ac ymdrechion ysgolion i hybu addysg amlieithog.

Er gwaetha'r arwyddion o welliant, mae sefyllfa TGAU mewn ieithoedd rhyngwladol yn parhau'n anghyson yng Nghymru. Nododd dwy ran o dair o'r ysgolion a ymatebodd eu bod yn canslo dosbarthiadau ieithoedd rhyngwladol os yw nifer y dysgwyr yn rhy isel - problem sy'n fwyaf amlwg mewn ardaloedd difreintiedig. Mae ysgolion mewn cymunedau mwy breintiedig yn llawer mwy tebygol o gynnal cyrsiau a chynnig mwy o amrywiaeth o ieithoedd. Mae'r ymchwilwyr yn rhybuddio fod perygl y bydd yr anghysondeb yn y ddarpariaeth ar gyfer ieithoedd yn dyfnhau anghydraddoldeb addysgol yng Nghymru, a gwadu cyfle i rai dysgwyr allu parhau i astudio ieithoedd y tu hwnt i Gyfnod Allweddol 3.

Ymysg y rhwystrau eraill sy'n atal dysgwyr rhag dewis astudio ieithoedd ar gyfer TGAU nodwyd y canlynol: y canfyddiad cyffredinol o 'Saesneg Byd-eang' (statws Saesneg fel un o ieithoedd pwysicaf y byd), natur heriol arholiadau allanol, diffyg amser cwricwlwm a chyfyngiadau amserlennu.

Mae darlun addysg ieithoedd Safon Uwch yn destun mwy o bryder. Gwelwyd gostyngiad o 30% yn nifer y ceisiadau ar gyfer Ffrangeg o 242 yn 2024, i 169 yn 2025, tra bu gostyngiad o 32% yn y ceisiadau ar gyfer Almaeneg (o 62 i 42). Sbaeneg yw'r unig iaith sy'n sefydlog ar lefel Safon Uwch, tra bod nifer y ceisiadau i astudio ieithoedd eraill yn parhau'n isel iawn. Os bydd y tueddiadau presennol hyn yn parhau, bydd rhai ieithoedd - yn enwedig Almaeneg - yn diflannu'n llwyr o'r cwricwlwm.

Nododd dwy ran o bump o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd nad oes ganddynt unrhyw ddarpariaeth ieithoedd ôl-16. Roedd y duedd yma'n amlwg iawn mewn ardaloedd llai breintiedig. Nododd hanner yr ysgolion sydd â darpariaeth ôl-16 eu bod yn canslo dosbarthiadau os yw nifer y dysgwyr yn rhy isel.

Adlewyrchir gwahaniaethau cymdeithasol-economaidd hefyd yn yr ysgolion sy'n cyflogi Cynorthwywyr Iaith. Dim ond 5% o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd sy'n cyflogi Cynorthwyydd Iaith - ac mae pob un o'r rheini'n ysgolion mewn ardaloedd mwy breintiedig. Mae diffyg arian yn dal i gyfyngu ar allu llawer o ysgolion i fanteisio ar gyfleoedd fel hyn, sy'n arwain at anghysondeb mewn cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â siaradwyr brodorol a diwylliannau eraill.

Er gwaetha'r heriau hyn, mae'r adroddiad hefyd yn amlygu enghreifftiau o arloesi. Mae nifer fach o ysgolion mewn ardaloedd llai breintiedig yn herio'r tueddiadau cenedlaethol cyffredinol - drwy gynnal cynnig ieithoedd sefydlog (a hyd yn oed ei ehangu). Maent yn llwyddo i wneud hynny drwy amserlennu creadigol, cydweithio ag ysgolion a cholegau partner a manteisio ar fentrau fel Cynllun Mentora Myfyrwyr ITM - cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi cefnogaeth i ysgolion hybu amlieithrwydd a chynyddu nifer y dysgwyr sy'n dewis astudio iaith ryngwladol ar gyfer TGAU.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at dwf yn yr amrywiaeth ieithyddol mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru - yn sgil y cynnydd yn nifer ac amrywiaeth yr Ieithoedd Cartref, Treftadaeth a Chymuned a siaredir gan ddysgwyr. Nododd 84% o'r ysgolion uwchradd a ymatebodd fod ganddynt ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae ysgolion uwchradd ar draws Cymru'n cynnig Arabeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Japaneg, Mandarin, Sbaeneg ac Wrdw; rhyngddynt, mae dysgwyr ar draws yr ysgolion a ymatebodd yn siarad 45 o ieithoedd gwahanol.

Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar ddefnydd o adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (AI) wrth addysgu ieithoedd. Nododd dros hanner yr ysgolion cynradd nad ydynt yn defnyddio AI eto, gydag athrawon yn nodi eu bod yn ansicr o sut orau i'w ddefnyddio i hybu'r dysgu. Yn yr ysgolion uwchradd a ymatebodd, gwelwyd cynnydd yn y defnydd o adnoddau Deallusrwydd Artiffisial. Nododd 9% o'r ymatebwyr eu bod yn defnyddio adnoddau AI yn gyson (o'i gymharu â dim un ysgol yn 2024); a nododd 44% eu bod yn defnyddio adnoddau AI yn achlysurol (o'i gymharu â 25% yn 2024).

Wrth drafod y canfyddiadau, dywedodd Dr Ian Collen (un o gyd-arweinwyr yr ymchwil): "Daw'r canfyddiadau hyn am dueddiadau ieithoedd yng Nghymru ynghanol pryder cynyddol am ddyfodol ieithoedd rhyngwladol ledled ecosystem addysg y wlad. Mae ein data'n dangos na chaiff dosbarthiadau TGAU eu cynnal o gwbl mewn dwy ran o dair o'r ysgolion a ymatebodd os nad oes digon o ddysgwyr - ac mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion hynny mewn ardaloedd llai breintiedig. I bob pwrpas, mae'r cyfle i bobl ifanc ehangu eu gorwelion yn cael ei wadu. Heb gydlynu buddsoddiad ar draws holl ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion y wlad, mae'r adroddiad yn rhybuddio bod amheuaeth wirioneddol am allu Cymru i gynnal dyfodol hirdymor addysgu a dysgu ieithoedd."

Ychwanegodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2025 yw ein hunfed adroddiad ar ddeg yn edrych ar sefyllfa addysgu a dysgu ieithoedd yng Nghymru, ac mae'n bryd i droi tystiolaeth yn weithred. Mae addysgu a dysgu ieithoedd yn ganolog i'r weledigaeth o Gymru fel gwlad eangfrydig sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae'r arwyddion cynnar o egin cynnydd mewn ysgolion cynradd ac adfywiad cymharol cofrestriadau ar gyfer TGAU yn galonogol, yn enwedig wrth iddynt ddychwelyd i'r lefelau a welwyd cyn Covid. Ond mae'r cynnydd yn fregus, ac mae dirywiad cyffredinol sefyllfa ieithoedd ar lefel uwchradd yn destun pryder gwirioneddol.

"Mae'r cwymp sylweddol yn y nifer sy'n astudio ieithoedd yn y cyfnod ôl-16, yn enwedig Almaeneg, yn rhybudd gwirioneddol nad allwn ei anwybyddu. Heb lwybr dysgu clir o'r ysgol i'r brifysgol, rydym mewn perygl o golli'r brwdfrydedd a'r chwilfrydedd y mae dysgwyr ifancach yn dechrau ei ail-ddarganfod."

"Mae athrawon ymroddedig ac arweinwyr y consortia yn cadw'r fflam yn fyw, gan ddangos pa mor hanfodol yw amlieithrwydd i sicrhau fod pobl ifanc yn ffynnu mewn byd sy'n tyfu'n fwyfwy cysylltiedig. Mae buddsoddiad Cymru yn yr iaith Gymraeg wedi dangos yn barod yr hyn sy'n bosibl drwy weledigaeth a buddsoddiad hirdymor. Gyda'r un uchelgais ar gyfer ieithoedd rhyngwladol, gallwn feithrin cenhedlaeth wirioneddol amlieithog, a fydd yn gallu gwireddu addewid y Cwricwlwm i Gymru newydd a chryfhau safle Cymru ar lwyfan y byd."

Byddwn yn cynnal lansiad swyddogol adroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2025 yn y Senedd heno, gan ddod ag addysgwyr, llunwyr polisi ac eiriolwyr iaith at ei gilydd i drafod sefyllfa Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru. Bydd aelodau o'r tîm ymchwil, Jayne Duff, Aisling O'Boyle ac Ian Collen, yn cyflwyno prif ganfyddiadau'r adroddiad; a bydd dwy ysgol - Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol Gynradd Gwauncelyn yn rhannu enghreifftiau o arfer gorau ym maes addysgu ieithoedd.

I ddarllen yr adroddiad llawn a dysgu mwy am Dueddiadau Ieithoedd Cymru ewch i Tueddiadau Ieithoedd Cymru neu dilynwch #TueddiadauIeithoeddCymru // #LanguageTrendsWales. 

Mae Tueddiadau Ieithoedd Cymru'n parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a thramor drwy'r celfyddydau, addysg ac addysgu ieithoedd. Mae mwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ar gael yma: https://wales.britishcouncil.org/  neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Cysylltiadau'r cyfryngau - cysylltwch â

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council: +44 (0)7542268752     E: Claire.McAuley@britishcouncil.org      

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.

Rhannu’r dudalen hon