A yw pandemig yn adeg ddelfrydol i ddatblygu diwylliant mwy amrywiol, cynhwysol a hygyrch yn sector y celfyddydau yn India a Chymru? Yma, mae Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru yn bwrw golwg yn ôl ar sesiwn a gynhaliwyd yn ystod Gŵyl Ddigidol India-Cymru i drafod y celfyddydau ac arweinyddiaeth yn ystod Covid-19.
Wrth i sectorau’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn India a Chymru ddechrau goresgyn pandemig Covid-19, fe glywsom dystiolaeth gan arweinwyr ym maes y celfyddydau yn India a Chymru am sut y mae cydweithio a gwytnwch yn galluogi ac annog y sector i ddychmygu dyfodol newydd a gwell i’r celfyddydau. Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno gan Debanjan Chakrabarti, Cyfarwyddwr y British Council yn Nwyrain a Gogledd-ddwyrain India, a’i gadeirio gan Rashmi Dhanwani, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd The Art X Company. Aelodau’r panel ar gyfer y digwyddiad yma oedd: Laura Drane, cynhyrchydd, ymgynghorydd a hwylusydd; Abdul Shayek, Cyfarwyddwr Artistig a Chyd Brif Weithredwr TARA Arts; a Ruchira Das, arweinydd ym maes y celfyddydau.
Trafododd y panel amrywiaeth o bynciau gan gynnwys sut yr oeddynt wedi llywio eu ffordd drwy’r pandemig a’i effaith ar eu gwaith ac ar waith eu sefydliadau. Fe siaradon nhw am sut yr oedd y sector diwylliant yn y Deyrnas Unedig, Cymru ac India wedi ymateb gan bwysleisio cyfraniad mentrau ar y cyd a chydweithio yn ystod y cyfnod hwn. Yn ogystal, fe drafodon nhw pa wersi y gallwn eu dysgu’n sgil y pandemig wrth geisio creu ‘normal’ newydd a gwell.
Hefyd, soniodd Rashmi am arolwg ‘Mesur y Tymheredd’ (Taking the Temperature) – menter ar y cyd rhwng British Council India, FICCI a chwmni The Art X Company. Nod yr arolwg oedd olrhain effaith Covid-19 ar y sector creadigol yn India drwy gasglu ymatebion gan amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol yn y maes creadigol, cwmnïau sy’n ymwneud â’r celfyddydau, sefydliadau yn y sector sy’n cynnig cefnogaeth, llunwyr polisi a chyllidwyr. Mae rhifyn cyntaf yr adroddiad ar gael ar-lein nawr.
Yn ystod ei sgwrs, bu Laura’n bwrw golau ar derm newydd, sef ‘dadgynhyrchu’ (un-producing), ac fe siaradodd am yr ymateb cyfunol yng Nghymru i bandemig Covid-19. Tynnodd sylw at bwysigrwydd cynwysoldeb yn sector y celfyddydau – sy’n bwysicach nag erioed nawr wrth inni lunio’r ‘normal’ gwell yr ydym i gyd am ei weld. Dywedodd ei bod, yn sgil y pandemig, wedi sylweddoli cymaint yw grym lleisiau cyfunol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys menter ‘Be Nesa?’ (What Next?), rhwydwaith y gellir cael mynediad iddo’n rhad ac am ddim ac sy’n cysylltu gweithwyr llawrydd, artistiaid a sefydliadau - i oleuo, trafod a llunio dyfodol y celfyddydau a diwylliant a’u defnyddio i greu cymdeithas gyfiawn.
Rhannodd Ruchira ac Abdul eu profiadau diweddar gan roi cipolwg i ni ar sut y gwnaethon nhw lywio eu ffordd drwy’r sefyllfa ddigynsail yma wrth addasu a newid cynlluniau i gynnal cysylltiadau. Soniodd Abdul am sut y rhoddon nhw eu menter ‘pen i bapur’ ar waith – yn hytrach na defnyddio platfformau digidol, fe fuon nhw’n defnyddio llythyron a sgwenwyd â llaw fel cyfrwng i gadw mewn cysylltiad gyda chyd artistiaid.
Soniodd Abdul hefyd am eu hymdrechion i geisio cryfhau’r sgwrs am amrywiaeth yn ystod pandemig Covid-19. Pwysleisiodd eto’r angen i ddarparu cyllid a chreu rhagor o gyfleoedd i grwpiau amrywiol o artistiaid.
Daeth y panel i’r casgliad ei bod yn adeg ddelfrydol i ddatblygu gwell diwylliant yn sector y celfyddydau yn India a Chymru - diwylliant sy’n fwy gwybodus, amrywiol, cynhwysol a hygyrch.
Gallwch wylio’r sesiwn dreiddgar a ddisgrifir uchod yma