Athro’n chwerthin gyda dau ddisgybl

 

Darganfod grym dysgu byd-eang

Mae rhaglen newydd Cysylltu Dosbarthiadau trwy Ddysgu Byd-eang yn cefnogi ysgolion yn rhyngwladol i ddysgu am themau byd-eang a chydweithio ar y materion mawr sy’n llunio dyfodol ein byd. 

SUT MAE’N GWEITHIO

Mae rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau’n cynnig siwrne hyblyg i ysgolion sy’n cyfannu byd dysgu, rhannu gwybodaeth a chydweithredu rhyngwladol. Mae’n cynnwys yr elfennau canlynol:

Creu partneriaethau rhwng ysgolion – Cydweithio gyda chyfoedion yn y DU ac yn rhyngwladol ar weithgareddau ysgol sy’n canolbwyntio ar themau byd-eang. Mae partneriaethau’n cynnig cyfle i athrawon i rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. 

Datblygu eich sgiliau – Rydym yn annog athrawon i wella eu sgiliau a’u harbenigeddau er mwyn sicrhau bod themau byd-eang yn rhan ganolog o’u gwaith dysgu trwy fanteisio ar ein cyrsiau hyfforddi sydd ar gael arlein neu wyneb yn wyneb.

Gweithgareddau yn y dosbarth – Cydweithio gydag ysgolion partner ar weithgareddau’n seiliedig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Lawrlwythwch un o’n pecynau adnoddau am ddim i ddechrau ymgorffori egwyddorion a themau’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yng ngwaith eich dosbarth.

Ariannu  – Gallwch wneud cais am arian, naill ai fel clwstwr o ysgolion neu fel partneriaeth rhwng dwy ysgol, er mwyn hwyluso ymweliadau, digwyddiadau a hyfforddiant fel rhan o siwrne rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau.

Achrediad - Dan drefn y Wobr Ysgolion Rhyngwladol byddwn yn cydnabod ac amlygu unrhyw gamau yr ydych yn llwyddo i’w cymryd fel rhan o’ch siwrne gyda rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau i wreiddio addysg ryngwladol yn eich ysgol 

Rydym hefyd am annog ysgolion i ddefnyddio ein hadnoddau dysgu, cyrsiau hyfforddi arlein am ddim a nifer o gyfleoedd eraill i greu partneriaethau gydag ysgolion mewn gwledydd tramor gyda chymorth a thrwy gydweithrediad amryw o sefydliadau eraill.

PAM CYMRYD RHAN?

Mae mwy i Gysylltu Dosbarthiadau na deall materion byd-eang yn unig; mae hefyd yn hyrwyddo datblygiad sgiliau athrawon a disgyblion fel y gallant gyfrannu i newid y byd er gwell. Trwy raglen Cysylltu Dosbarthiadau fe allwch:

  • ymweld ag ysgol bartner, cydweithio a chynllunio sut i wreiddio themau byd-eang yn eich cwricwlwm
  • cryfhau partneriaethau sy’n bodoli eisoes ac ehangu’ch rhwydwaith ysgolion
  • sicrhau bod pobl ifanc yn meithrin y sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn byd sy’n wynebu globaleiddio cynyddol 
  • manteisio ar hyfforddiant wedi’i gyllido’n llawn ar gyfer arweinwyr ac athrawon, wyneb yn wyneb neu arlein
  • cefnogi cydweithio rhyngwladol rhwng pobl ifanc yn eu cymunedau a chyfrannu at gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy 
Rhannu’r dudalen hon