Llun o geffyl mewn caligraffeg Arabaidd

Os ydych chi’n chwilio am dipyn o ysbrydoliaeth ar gyfer eich dosbarth, beth am fwrw golwg dros y pecynnau addysg yma – mae pob pecyn ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.

D-Day 80: Cofio Glaniadau Normandi

Mae'r adnodd yma, a luniwyd ar gyfer disgyblion yn y Deyrnas Unedig a Ffrainc, yn cyflwyno prif ddigwyddiadau glaniadau D-Day yn 1944 a'u heffaith ar y bobl a'r llefydd dan sylw.

Arabeg a Diwylliant Arabaidd

Cafodd y pecyn addysg ei gynllunio i helpu athrawon ysgolion cynradd i gyflwyno agweddau o’r iaith Arabeg a’r diwylliant Arabaidd i’w dysgwyr, gan gynnwys:

•Chwedlau a straeon Arabaidd adnabyddus , sy’n cyflwyno moeswersi i’r dysgwyr

•Cyfri  o 1 i 10 mewn Arabeg

•Perffeithio ynganiad cyfarchion Arabeg 

•Archwilio patrymau geometrig cywrain mosäigau Arabaidd.

Yr Her Fawr Ar-lein i Ysgolion

Mae taflenni gweithgareddau’r Her Fawr Ar-lein i Ysgolion yn cynnig ffyrdd hwyliog i ddysgu am iaith a diwylliant yn eich ystafell ddosbarth.

Mae’r taflenni gweithgareddau’n annog disgyblion i ffeindio ffeithiau am nifer o wahanol wledydd, dysgu ymadroddion newydd mewn gwahanol ieithoedd, a dysgu am fwydydd, chwaraeon, cerddoriaeth a chaneuon o wahanol ddiwylliannau.

Mae gyda ni daflenni gweithgareddau ar gyfer: Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Mandarin, Arabeg a Chymraeg. 

  • Yn addas ar gyfer disgyblion: 7 – 11 oed, 11 – 14 oed
  • Cysylltiadau Cwricwlwm:  Ieithoedd Modern

Y Windrush ac Ymfudo

Mae’r pecyn yma’n cynnwys syniadau i sbarduno trafodaeth am ymfudo. Mae’n canolbwyntio ar hanes ymfudiad y Windrush yn 1948 a dathlu cyfraniad mudwyr o’r Caribî i ffyniant Prydain.

  • Yn addas ar gyfer disgyblion: 4 – 7 oed, 7 – 11 oed, 11 – 14 oed  
  • Cysylltu â’r Cwricwlwm: Celf, ABCh/Dinasyddiaeth, Saesneg, Hanes

Rivers of the World

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys syniadau am wersi trawsgwricwlaidd am afonydd o ansawdd uchel sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr uwch gynradd ac is uwchradd.

Patagonia 150

Bydd yr adnodd addysg Patagonia 150 yn helpu ysgolion addysgu eu disgyblion am Gymru a’r Wladfa ym Mhatagonia. Dyluniwyd yr adnodd hwn ar gyfer disgyblion CA2 a CA3.

Comisiynwyd yr adnodd gan Lywodraeth Cymru a’i gynhyrchu gan y cyhoeddwyr addysgol Atebol Press.

*Mae’r adnodd hwn hefyd ar gael yn Sbaeneg

Blwyddyn y Teigr 2022

Yn ôl y Calendr Lloerol Tsieineaidd, mae Blwyddyn y Teigr yn dechrau ar y cyntaf o Chwefror 2022. Mae’r pecyn addysg i ysgolion cynradd yma’n cynnwys gwybodaeth a gweithgareddau i helpu athrawon a disgyblion ddysgu mwy am yr ŵyl wanwyn bwysig yma ac am iaith a diwylliant Tsieina.

Gemau'r Gymanwlad 2022 Adnodd i Ysgolion

Cafodd yr adnodd yma ei lunio i ddathlu Gemau'r Gymanwlad 2022 a'r gwaith parhaus y mae'r Gymanwlad yn ei wneud i wella bywydau ei dinasyddion.

Shakespeare Lives

Cafodd y pecyn hwn ei greu gan y British Council mewn partneriaeth â’r Royal Shakerpeare Company. Fe’i dyluniwyd yn arbennig i annog dysgu ar draws y cwricwlwm. Mae’r adnodd wedi’i rannu’n bum thema: Arweinyddiaeth a Phŵer, Teulu a Pherthnasau, Hunaniaeth a Chydraddoldeb, Ffawd a Thynged, Cyfiawnder a Rheolau.

•  Grŵp oedran: 7 – 11 oed, 11 -14 oed. 

•  Cysylltiadau â’r cwricwlwm: PHSE/Dinasyddiaeth, Dylunio a Thechnoleg, Saesneg, Hanes, Drama

Double Club Cymraeg - Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Bydd athrawon iaith a’u disgyblion yn mwynhau gweithio gyda’r pecynnau addysg pêl-droed yma. Datblygwyd y pecynnau gan Lywodraeth Cymru gyda’r Gymdeithas Pêl-droed Cymru a’i gefnogi gan British Council Cymru, bydd y pecynnau’n dal sylw cefnogwyr pêl-droed ifanc!

*Mae’r pecynnau ar gael yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg a Phortiwgeaidd. 

Rhannu’r dudalen hon