Yma, mae Divya Parikh, Rheolwr Prosiectau, yn adolygu’r sesiwn ar fentrau ar y cyd a chydweithio yn y celfyddydau gweledol a gynhaliwyd fel rhan o Ŵyl Ddigidol India-Cymru - yn edrych ar y perthnasoedd cynhyrchiol rhwng sectorau’r celfyddydau yng Nghymru ac India.
Roedd y sesiwn ar gydweithio yn y celfyddydau gweledol yn edrych ar y naratifau diwyllianol a rennir yn y celfyddydau gweledol a’r cydweithio ar draws ffiniau a diwylliannau sy’n digwydd rhwng India a Chymru. Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno gan Janaka Pushpanathan, Cyfarwyddwr y British Council yn Ne India, a’i gadeirio gan Karen McKinnon, curadur yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe. Aelodau’r panel oedd: Shuchi Kapoor, ffotograffydd dogfennol a chyd-sefydlydd Sefydliad Biennale Chennai Photo; Katy Freer, swyddog arddangosfeydd yn Oriel Glynn Vivian; a David Drake, curadur, sgwenwr, cynhyrchydd, a chyfarwyddwr Ffotogallery.
Siaradodd David Drake am Dreamtigers - prosiect India-Cymru a menter ar y cyd rhwng Ffotogallery a Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffotograffiaeth Delhi. Mae Dreamtigers yn brosiect cydweithredol sy’n archwilio’r effaith ddwys y mae technoleg a mynegiant creadigol, ynghyd â hunaniaeth genedlaethol wedi ei hail-lunio a’i diwygio, yn ei gael ar gymdeithas fodern. Cyflwynodd ddetholiad o ddelweddau trawiadol o waith yr artistiaid sy’n cymryd rhan yn y prosiect sef, Sunil Gupta, Charan Singh, Akshay Mahajan, Sohrab Hura, Bharat Sikka, Karthik Subramaniam a Reshma Pritam Singh. Rhannodd y straeon y tu ôl i bob un o’r delweddau, ac fe siaradodd hefyd am y cysylltiadau sydd wedi cael ei meithrin drwy’r prosiect.
Rhoddodd Katy Freer ddisgrifiad o’r arddangosfa o waith NS Harsha, ‘FACING’, a gafodd ei chyflwyno yn Oriel Glynn Vivian yn Abertawe mewn partneriaeth gydag Artes Mundi. Gyda chyfres o ddelweddau grymus disgrifiodd Katy sut y cafodd yr arddangosfa ei datblygu, a sut y llwyddon nhw i arddangos cerflunwaith rhyfeddol a grewyd gan NS Harsha (a gafodd ei gomisiynu fel rhan o’r prosiect) ynghyd â gweithiau celf eraill.
Rhoddodd Shuchi Kapoor ddisgrifiad o grant ‘Dychmygu’r Genedl Wladwriaeth’ (Imagining the Nation State) – menter ar y cyd rhwng Biennale Vhennai Photo a Gŵyl Diffusion/Ffotogallery. Soniodd am sut y cafodd y fenter gydweithredol yma ei chreu, a soniodd hefyd am ddyfodol y prosiect. Yna, fe gyflwynodd yr artistiaid sydd wedi derbyn y grant, sef Dipanwita Saha, Huw Alden Davies, Palani Kumar, Sebastián Bustamante a Tarun Bhartiya.
Tua diwedd y sesiwn, nododd y Cadeirydd, Karen McKinnon, mor bwysig yw’r perthnasoedd sydd wedi cael eu ffurfio a sut y mae cydblethu diwylliannau yn y modd yma’n creu etifeddiaeth a rhoi cyfle i bobl ymwneud â syniadau fel cenedlaetholdeb, newid yn yr hinsawdd, hunaniaeth, cynaliadwyedd, cydraddoldeb ac amrywiaeth ar raddfa fyd-eang.
I gloi’r digwyddiad cafwyd sesiwn holi ac ateb gyda chyfres o gwestiynau diddorol iawn gan y gynulleidfa, gan gynnwys cwestiwn am sut i danio dychymyg pobl ifanc a’u cymell i fod yn rhan o wyliau fel hyn.
Gallwch wylio’r digwyddiad cyfan yma: