Cerflun o fwnci gyda braich yn pwyntio i fyny
Facing 2018 ©

Polly Thomas

Arddangosfa gan NS Harsha yw Facing, un o brif artistiaid India, sydd wedi’i guradu ar y cyd gan Karen McKinnon o Artes Mundi, a Katy Freer o Oriel Celf Glynn Vivian.

Dyma’r arddangosfa fwyaf o’i waith a gafwyd yn y DU, ac mae’n cynnwys premiere o ddarn o waith o’r Sydney Biennale 2018 a darn arall o waith wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y Glynn Vivian. 

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys y prosiect Future, gweithdy ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc lleol ble byddant yn dychmygu eu dyfodol drwy addurno crysau mawr; fydd yn cynrychioli sut y maent am dyfu i fyny. Bydd y crysau yn cael eu dangos fel rhan o’r arddangosfa.

Mae’r arddangosfa, sydd am ddim, i’w gweld yn Oriel Celf Glynn Vivian yn Abertawe o 7 Gorffennaf – 9 Medi 2018

Ennillodd Harsha’r wobr Artes Mundi yn 2018. Mae ei waith yn cwmpasu themâu lleol a byd-eang, gan ddod â manylion bywyd pob dydd ei India frodorol ynghyd â digwyddiadau yn y byd a lluniau rydym yn eu gweld ar y newyddion. 

Mae ei waith yn tynnu ein sylw at yr hurt a'r hynod gymaint ag y mae at y trasig a'r hyn sy'n rhyngwladol arwyddocaol.

Mae gwaith Harsha yn cynnwys paentiadau, cerfluniau a gosodiadau ond caiff ei ysbrydoli hefyd gan arfer sy'n cynnwys y gymdeithas, gan dynnu cymunedau i mewn i'w waith sy'n atgyfnerthu ei haelioni a'i ysbryd gan ganiatáu i'r gwyliwr edrych ar y byd o'i gwmpas mewn ffordd chwareus.

Darllenwch gyfweliad gydag artist er mwyn deall ei waith yn well ac archwilio’r arddangosfa drwy’r rhith daith yma.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o India Cymru, menter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council sy’n cefnogi cydweithredu a chyfnewidiadau artistig rhwng aelodau o’r proffesiynau creadigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India. Mwy o wybodaeth am India Cymru.   

Dolenni allanol

Rhannu’r dudalen hon