Cafodd ein digwyddiad ‘Tuag at strategaeth diplomyddiaeth chwaraeon i Gymru; safbwyntiau rhyngwladol’ ei gynnal yn dilyn lansio ein hadroddiad ymchwil Tuag at strategaeth chwaraeon i Gymru.
Roedd y digwyddiad panel diweddaraf yma’n canolbwyntio ar bolisi ac arfer rhyngwladol ym maes diplomyddiaeth chwaraeon.
Gan ddilyn trywydd adroddiad 2020, buom yn ystyried sut yr oedd yr adroddiad yn cyd-daro â pholisi ac arfer mewn gwledydd tramor yn ogystal ag archwilio gweithgarwch arbenigwyr a sefydliadau chwaraeon anwladwriaethol sy’n rhoi diplomyddiaeth chwaraeon ar waith. Bu’r digwyddiad yn gyfrwng i ni gyflwyno lleisiau rhyngwladol i’r sgwrs, a’u gwahodd yn eu tro i fwrw golwg ar feysydd allweddol a allai gwmpasu strategaeth diplomyddiaeth chwaraeon, gan roi enghreifftiau ymarferol a chyfle i drafod.
Cawsom glywed am:
•Wlad ifanc sy’n dechrau mabwysiadu dull diplomyddiaeth chwaraeon - gan Silvija Mitevska, Ymgynghorydd Chwaraeon i Brif Weinidog Gweriniaeth Gogledd Macedonia.
•Hybu ymgysylltu rhyngwladol drwy chwaraeon yr Alban - gyda’r Athro Grant Jarvie, Cadeirydd Chwaraeon a Chyfarwyddwr Sefydlu’r Academi Chwaraeon ym Mhrifysgol Caeredin. Bu’r Athro Jarvie yn sôn am ddefnyddio ‘chwaraeon fel cist o arfau’ i wireddu amrywiaeth o amcanion polisi. Cyflwynodd safbwyntiau newydd am sut y gellid rhoi dulliau diplomyddiaeth chwaraeon ar waith yn fwy effeithiol i ateb heriau byd ar ôl Brexit a byd ar ôl Covid.
•Clwb Pêl-droed Port Adelaide yn Awstralia, a greodd bartneriaeth lwyddiannus gyda Shanghai rhwng 2015 a 2020. Esboniodd Andrew Hunter, rheolwr cyffredinol y clwb ar y pryd, sut y gweithiodd Llywodraeth Talaith De Awstralia, Llywodraeth Federal Awstralia a Chlwb Pêl-droed Port Adelaide gyda’i gilydd i feithrin cysylltiadau dwyochrog ym marchnad dramor allweddol Tsieina trwy brism Pêl-droed Rheolau Awstralia.
Gallwch wylio’r digwyddiad uchod.