Mae 2018 yn gweld nodi canmlwyddiant pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobl a Deddf Senedd y Deyrnas Unedig (Cymhwyster Menywod), dwy garreg filltir o bwys yn hanes cynnydd cyfranogiad a grymuso gwleidyddol menywod.
I nodi’r achlysur hanesyddol yma, comisiynwyd gwaith ymchwil gan y British Council i ystyried y cynnydd a welwyd yng nghyfranogiad, grym ac arweinyddiaeth wleidyddol menywod ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r heriau sy’n dal i wynebu menywod a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ystyried safbwyntiau gwledydd tramor.
Wrth ystyried cyfranogiad, grym ac arweinyddiaeth wleidyddol menywod rhaid edrych y tu hwnt i gynrychiolaeth menywod yn y senedd yn unig. Mae gofyn hefyd i bwyso a mesur dylanwad menywod o fewn i strwythurau grym a phrosesau rheoli a gwneud penderfyniadau, a sut mae menywod mewn meysydd amrywiol yn cyfranogi ac ymgysylltu’n wleidyddol.
Mae’r adroddiad yn cynnig cyfle i adeiladu ar ganfyddiadau ac argymellion adroddiad diweddar yBritish Council a gosod sylfaen i feithrin trafodaeth a deialog rhyngwladol am y materion hollbwysig yma yn ogystal â chreu mwy fyth o gyfleoedd i hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad gwleidyddol menywod.
Mae hyn yn hybu Amcan Datblygiad Cynaliadwy 5.5 - ‘Cyfranogiad llawn ac effeithiol a chyfleoedd cyfartal o ran arweinyddiaeth ar bob lefel o brosesau gwneud penderfyniadau ym meysydd gwleidyddiaeth, yr economi a bywyd cyhoeddus.’ - a chefnogi swyddogaeth y British Council fel corff sy’n cynnig cyfleoedd, meithrin cysylltiadau ac ennyn ymddiriedaeth yn rhinwedd ei statws fel sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgiadol.
Canfyddiadau
Mae chwe phennod thematig yr adroddiad yn defnyddio’r profiadau a ranodd y cyfranogwyr gyda ni i archwilio’r sbardunau a’r rhwystrau allweddol i gynnydd menywod:
- Roedd y cyfranogwyr yn bendant eu barn am bwysigrwydd sylfaennol cyfraniad ymgyrchu menywod a chwaeroliaeth drosy 100 mlynedd diwethaf - o ran cynyddu mynediad menywod i wleidyddiaeth a grym, a dylanwad menywod ar yr agenda gwleidyddol a sut mae gwleidyddiaeth yn gweithredu.
- Er bod y cyfranogwyr yn cydnabod pwysigrwydd nifer o’r newidiadau cyfreithiol arwyddocaol sydd wedi hybu cynnydd gwleidyddol menywod dros y 100 mlynedd diwethaf, roeddent hefyd yn ymwybodol bod angen o hyd i newid y rheolau sydd ar waith ar draws y system wleidyddol a’r modd y mae porthorion y drefn honno yn gweithredu.
- Wrth ystyried diwylliant, normau ac arferion y gweithle gwleidyddol buffocws ar y ffyrdd y gall sefydliadau gwleidyddol agor drysau i groesawu menywod i’r byd gwleidyddol ar y naill law a chreu rhwystrau ar y llall.
- Roedd y cynnydd yn nifer a phwysigrwydd y menywod sydd mewn rolau arwain ym myd gwleidyddol y DU a’r grym a’r dylanwad sy’n deillio’n sgil hynny yn un o destunnau trafod allweddol y cyfranogwyr.
- Cafwyd cyfeiriadau cyson at y canlyniadau gweledol sydd wedi deillio o’r cynnydd yng ngrym a chyfranogiad gwleidyddol menywod yn ystod y ganrif ddiwethaf ac i ba raddau mae hyn wedi dylanwadu ar fywydau menywod a merched yn y DU ac yn rhyngwladol.
- Roedd y cyfranogwyr yn gweld bod holl gynnydd gwleidyddol menywod ac effaith hynny ar fywydau menywod yn gyffredinol wedi dod dan ddylanwad anatod y newidiadau ysgubol ehangach a welwyd yn y DU ac yn rhyngwladol yn ystod y 100 mlynedd diwethaf. Mae ‘Byd yn newid?’ yn adlewyrchu trafodaethau’r cyfranogwyr am sut y mae newidiadau ehangach wedi hwyluso datblygiadau a chynnydd pwysig ond wedi cyflwyno rhwystrau newydd hefyd.
Cafwyd cyfraniadau gan amrywiaeth o gyfranogwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i’r ymchwil yma, o Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn ogystal â chyfranogwyr rhyngwladol. Casglwyd y cyfraniadau trwy gyfrwng 40 o gyfweliadau unigol, chwech o fforymau bord gron gyda 77 o randdeiliaid, a mwy na 60 o ffilmiau byrion o bobl yn siarad; y cyfan yn adlewyrchu amrywiaeth eang o wahanol brofiadau a rhychwant o arbenigeddau.
Rhai o’r enghreifftiau a’r straeon a rannwyd gan ein cyfranogwyr yng Nghymru:
- Cyfraniad menywod o Gymru i’r llafurlu, ac effaith streic y glowyr o ran cynnig addysg wleidyddol a fu’n ysbrydoliaeth i Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad benywaidd. O ganlyniad mae ein plant a’n wyrion a’n wyresau yn fwy gweithgar yn wleidyddol.
- Y cyfleoedd a ddaeth yn sgil datganoli pwerau gwleidyddol o ran agor drysau gweithleoedd a systemau gwleidyddol i fenywod, a chyfraniad ymgyrchoedd menywod o fewn i hynny.
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru – platfform ar gyfer ymgynghori gyda menywod, dan nawdd Lywodraeth Cymru.
- Mae Chwarae Teg yn cynnig cyfleoedd i fenywod ifanc i gysgodi aelodau’r Cynulliad a chefnogi mynediad menywod i’r gweithle gwleidyddol.
- Mae Cawcws Menywod mewn Democratiaeth wedi mynd i’r afael â materion sy’n dangos pam fod menywod yng Nghymru’n ymgymryd â mwy o waith gofalu a gwaith domestig a thangynrychiolaeth menywod ym mywyd cyhoeddus Cymru. Maent hefyd yn datblygu cysylltiadau rhyngwladol gyda Senedd Gwlad yr Iâ.
- Hanes meithrin cydbwysedd cynrychiolaeth 50/50 rhwng y rhywiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru – y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i wneud hynny, a’r ymateb a’r effaith a gafodd hynny ledled y byd.
- Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
- Y rhan y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi chwarae wrth fynnu cynnydd a chefnogi cyfleusterau a hawliau i fenywod yng Nghymru: Beth mae Ewrop wedi ei wneud dros Gymru? Mae’r UE wedi bod yn cefnogi pob math o gyfleusterau i fenywod, yn ogystal â chefnogi hawliau menywod o ran amodau absenoldeb mamolaeth, sy’n golygu fod yr UE wedi bod yn bwysig i fenywod.
"Mae gyda ni gyfle amserol i wthio’n galed, agor drysau a bod yn radical. Beth bynnag mae’n cymryd i sicrhau amrywiaeth ar bob lefel. Yn ogystal ag unigolion, mae angen i ni weld pleidiau gwleidyddol yn gwthio hefyd". fforwm bord gron yng Nghymru.
Argymhellion
Gofynnwyd y cwestiwn yma i bob un o’r cyfranogwyr: ‘Pa newid hoffech chi ei weld dros y ddegawd nesaf?’
Cafwyd cyfoeth o ymatebion amrywiol wrth i’n cyfranogwyr drafod beth sydd angen ei gyflawni nesaf er mwyn sicrhau newid sylweddol erbyn 2028. Ond roedd consensws hefyd bod angen gweithredu nawr i sicrhau bod y manteision a enillwyd eisoes ar gael i holl fenywod y DU a menywod ledled y byd. Mae’r argymhellion yma’n gyfuniad o’r blaenoriaethau a nodwyd gan y cyfranogwyr wrth ymateb i’r cwestiwn am y newid yr hoffen nhw ei weld dros y ddeng mlynedd nesaf.
Camau Ymlaen yng Nghymru
Bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd prosesau llunio polisi a gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth 2018 cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru adolygiad cyflym o bolisiau ac arfer cydraddoldeb rhywiol Llywodraeth Cymru.
Roedd cam cyntaf yr adolygiad, a gyflwynwyd gan Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys adolygiad o bolisi a gwneud penderfyniadau yng Nghymru ynghyd ag argymhellion am yr hyn y gallwn ei ddysgu gan arfer rhyngwladol. Yn ôl yr adroddiad, er bod llawer wedi ei gyflawni eisoes, mae lle i wella wrth geisio sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, ac fe allwn ddysgu llawer gan arfer gorau llywodraethau ledled y byd. Cyflwynwyd nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
Mae Cam 2 yr ‘Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol’ yn mynd rhagddo a disgwylir ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2019 yn ogystal â chyflwyno cynllun gweithredu i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Rhagor o wybodaeth.
Mae gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yr uchelgais, hawl a’r rhwymedigaeth gyfreithiol i wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru. Mae gofynion y ddeddf yn golygu bod disgwyl i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hir-dymor eu penderfyniadau, i gydweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, a chymryd camau i rwystro problemau parhaus fel tlodi, anghyfiawnder a newid yn yr hinsawdd.
Mae’r ddeddf hon yn unigryw i Gymru ac mae wedi denu diddordeb gwledydd ledled y byd gan ei bod yn cynnig cyfle aruthrol i sicrhau newidiadau positif a hir-dymor ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Ymunwch â’r sgwrs
I sbarduno trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth o adroddiad ‘Menywod, Grym a Gwleidyddiaeth’, dewch i ymuno â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol wrth ymateb i’r cwestiwn isod gan ddefnyddio’r hashnodau #MenywodGrymGwleidyddiaeth a #WomenPowerPolitics
100 mlynedd yn ôl, fe enillodd (rhai) menywod yr hawl i bleidleisio yn y DU, ond o ran gwleidyddiaeth a grym mae anghydraddoldeb rhywiol yn parhau ledled y byd. Pa newid hoffech chi ei weld dros y 10 mlynedd nesaf?
Mae’r fideo uchod yn dangos ymatebion rhai o’n cyfranogwyr i’r cwestiwn yma yn ein fforymau trafod bord gron yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin, Llundain a Manceinion
Os oes gennych unrhyw gwestiynnau pellach, ebostiwch ni: genderequality@britishcouncil.org
Lawrlwytho’r adroddiad