Plant o flaen map o’r byd
©

Shutterstock

Ymunwch â ni i glywed gan arbenigwyr ar addysgu ieithoedd tramor modern ac i rannu eich barn ar ddyfodol amlieithrwydd yng Nghymru, ddydd Iau 10 Rhagfyr, 16.30-17.30pm GMT.

Mae’r digwyddiad hwn yn nodi penllanw Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2020 lle’r ydym wedi dadansoddi ffigurau arholiadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer ieithoedd yng Nghymru yn 2020, yn ogystal â rhannu barn arbenigwyr a sylwebyddion ar addysg ieithoedd tramor modern yng Nghymru.

Yn ystod y digwyddiad bydd cyfle i chi glywed gan banel o arbenigwyr o Gymru ac arbenigwyr rhyngwladol, ymateb i’r erthyglau a gyhoeddwyd fel rhan o ‘Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2020 – Y Sgwrs’, a rhannu eich syniadau a’ch sylwadau am ddyfodol amlieithrwydd yng Nghymru. Byddwn yn croesawu cwestiynau gennych yn ystod y digwyddiad, neu gallwch gyflwyno eich cwestiynau ymlaen llaw wrth ddefnyddio’r ffurflen gofrestru.

Eleni rydym wedi gofyn i’n holl gyfranwyr, fel rhan o’n cyfres o gyhoeddiadau a’r digwyddiad yma, i edrych tua’r dyfodol a rhannu eu syniadau am sut y gall Cymru dyfu’n begwn disglair ar gyfer addysgu a dysgu ieithoedd. Rydym eisiau ystyried y cyfleoedd y gallai’r cwricwlwm newydd eu cynnig i addysg Ieithoedd Tramor Modern a’r posibiliadau y mae’n eu cynnig i ddysgwyr yng Nghymru.

Yn cyflwyno ein panel o arbenigwyr rhyngwladol

Yr Athro Mererid Hopwood (Cadair), Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Cymru

Anna Vivian Jones, Arweinydd Datblygu Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh), ERW, Cymru

Dr Josephine Moate, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Jyväskylä, Y Ffindir

Dr Céline Healy, Darlithydd mewn Addysg a Chydlynydd y Rhaglen M.Ed. , Adran Addysg Prifysgol Maynooth, Iwerddon

Yr Athro David Lasagabaster, Athro Ieitheg Gymhwysol, Prifysgol Gwlad y Basg, Sbaen

Rhannu’r dudalen hon