Gan Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau, British Council Cymru

18 Chwefror 2021 - 09:00

Rhannu’r dudalen hon
Dyn â phensil yn ei law yn eistedd wrth bentwr o lyfrau
Living Pictures - Diary of a Madman. Y Perfformiwr, Robert Bowman a’r Cynhyrchydd, Kate Perridge ©

Sinéad Rushe

Yma, mae Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru, yn adolygu ein digwyddiad yn edrych ar gydweithio ym maes theatr a dawns - sesiwn olaf Gŵyl Ddigidol India-Cymru: cysylltiadau drwy ddiwylliant.

Daeth cynrychiolwyr o fyd y theatr yn India a Chymru at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad yma i drafod gwerth a phwysigrwydd cydweithio. Yn ystod y digwyddiad rhannodd y cyfranwyr hanesion personol am brosiectau cydweithio yr oeddynt wedi bod yn rhan ohonynt a’r cysylltiadau a ddeilliodd o hynny yn ogystal â phrosiectau cydweithio sydd ganddynt ar waith ar hyn o bryd.

Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno gan Gary Raymond, awdur, darlledwr a golygydd y Wales Arts review, ac fe gadeiriwyd y sesiwn gen i, Rebecca Gould. Rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn achos mae gennyf gysylltiad hir â’r theatr yn India. Aelodau’r panel ar gyfer y digwyddiad yma oedd: Quasar Thakore Padamsee, cyfarwyddwr artistig QTP; Sarah Argent, gwneuthurwr theatr llawrydd gwobrwyedig; Vaishali Bisht, cyfarwyddwr artistig Gŵyl Theatr i Blant Hyderabad; a Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo.

Darllenodd Sarah Argent bennill o gân hyfryd mewn Bengali cyn dechrau adrodd hanes ei siwrne gyda phrosiect Shishu Baban (theatr i fabanod) - menter ar y cyd rhwng Theatr Iolo o Gymru a Think Arts o India. Roedd gwrando arni’n siarad mor angerddol am y prosiect a gwylio’r montage o ffotograffau a ddangosodd yn ddigon i wneud i ni ddyheu am gael ail-fyw pob eiliad o’r prosiect gyda’r holl artistiaid a’r babanod a gymerodd ran!

 Rhoddodd Quasar ddisgrifiad o’r cynhyrchiad, Diary of a Madman, a siaradodd am y broses o ddod â’r cynhyrchiad draw o India i Gymru. Pwysleisiodd mor hanfodol yw cydweithio fel hyn a’r rhan bwysig y mae ymddiriedaeth yn ei chwarae wrth weithio ar y cyd.

Siaradodd Lee Lyford am ei brofiad o gyflwyno 'Transporter' yn India fel rhan o raglen #CymruYnKolkata. Disgrifir ‘Transporter’ fel ‘ymson trawsnewidiol am ddadleoliad dynol o safbwynt person yn ei harddegau’. Yn ogystal â chyflwyno perfformiadau o ‘Transporter’, trefnwyd gweithdai ysgrifennu i bobl ifanc lle’r oedd cyfle iddynt greu eu hymsonau eu hunain. Fe berfformion nhw’r ymsonau yn ystod Cwrdd Llenyddol Iau Kolkata ym mis Ionawr 2019. Dywedodd Lee fod y profiad o gyflwyno ‘’Transporter’ yng nghyd-destun anrhefn reoledig India wedi rhoi gwedd newydd ar y gwaith a phrofiad cwbl wahanol iddo o’r cynhyrchiad – profiad a oedd yn cynnig dehongliadau newydd – a dyna, yn ei farn ef, yw gogoniant cydweithio.

Siaradodd Vaishali Bisht am sefydlu Gŵyl Theatr i Blant Hyderabad. Er gwaethaf holl heriau Covid-19, soniodd mor ddiolchgar yr oedd am y cydweithio a’r cysylltiadau a ffurfiwyd fel rhan o raglen India-Cymru. Aeth ymlaen i ddisgrifio sut y mae Lee Lyford wedi bod yn mentora tri o ymarferwyr theatr lleol o bell. Yn ystod ei chyflwyniad, chwaraeodd Vaishali ran o sgwrs gydag un ohonynt, sef Santosh. Roedd yn wirioneddol galonogol i glywed person sydd wedi bod yn ymarferwr theatr ers yn blentyn yn sôn am gael ei ysbrydoli i geisio llwybrau newydd o ganlyniad i gydweithio. Y ddau ymarferwr arall a oedd yn cael eu mentora oedd Pallavi a Shayontoni.

Wrth i’r sesiwn ar gydweithio ym maes theatr a dawns ddirwyn i ben, daeth Gŵyl Ddigidol India-Cymru: cysylltiadau drwy ddiwylliant i ben hefyd. Cawsom ein gadael gyda’r gred gadarn y bydd cydweithio fel hyn yn parhau i arwain at greu gweithiau celf gwych – i’n trwytho, ein goleuo a’n hysbrydoli.

Gallwch wylio’r digwyddiad cyfan yma

Cyfres o ddigwyddiadau ar-lein arbennig oedd ‘Gŵyl Ddigidol India-Cymru: cysylltiadau drwy ddiwylliant’. Cafodd ei gynnal mewn partneriaeth rhwng British Council Cymru, British Council India, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a dathliadau Diwali Llywodraeth Cymru. Dros bythefnos ym mis Tachwedd 2020 buom yn archwilio’r gwaith diwylliannol sydd wedi digwydd rhwng artistiaid o India a Chymru ac arweinwyr diwylliannol o’r ddwy wlad (yn ogystal â’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd) ym meysydd llenyddiaeth, theatr, cerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol a chrefftau. A thrwy gyfrwng eu gwaith fe fuom yn dathlu’r cysylltiadau a’r cyfeillgarwch sy’n tyfu drwy’r amser rhwng India a Chymru.
Ein nod wrth gynnal y digwyddiad oedd cryfhau a dyfnhau’r cysylltiadau yma, a galluogi cydweithio creadigol rhwng y ddwy wlad yn y cyfnod anodd hwn. Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos a dathlu gwaith artistiaid o India a Chymru sydd wedi bod yn rhan o’r fenter ers 2017, yn ogystal â’r rheini sydd wedi derbyn grant yn ddiweddar drwy raglen grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru 2019/2020.

Rebecca Gould

Rebecca Gould

Pennaeth y Celfyddydau, British Council Cymru