Cwmni theatr o Gymru sy’n creu cynhyrchiadau i blant a phobl ifanc yw Theatr Iolo. Yn ystod tymor ‘Cymru yn Kolkata’ yn Ionawr 2019, fe deithiodd Theatr Iolo draw i Kolkota yn India.
Yno, fe fuon nhw’n perfformio ‘Transporter’, sef cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Iolo a chanolfan Glan-yr-Afon yng Nghasnewydd. Sioe un fenyw yw ‘Transporter’ sy’n adrodd hanes merch 13 oed o’r enw Maya. Cafodd ei ysgrifennu a’i pherfformio gan Catherine Dyson, a’i chyfarwyddo gan Andy Smith gyda thrac sain gwreiddiol gan Lewis Gibson. Cyflwynwyd y perfformiadau yng Nghwrdd Llenyddol Iau Kolkata Tata Steel yn y Victoria Memorial Hall yn Kolkata.
Bu Catherine Dyson hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu a pherfformio i bobl ifanc yn ThinkArts Corner.
Fe arweiniodd Catherine 10 o gyfranogwyr drwy gyfres o ymarferion ysgrifennu gan archwilio syniadau am ysgrifennu a dulliau cyflwyno, cynnwys, ffurf a strwythur, yn ogystal â dulliau unigryw o greu a chyflwyno deunydd. Nod yr ymarferion oedd dangos sut y gallai profiadau ac atgofion y cyfranogwyr fod yn sylfaen grymus ar gyfer drama yn ogystal â dangos sut y gellir creu ‘straeon yn syth’ wrth ddefnyddio iaith mewn ffyrdd anisgwyl, a sut y gall ffurf a siâp yr ysgrifennu adlewyrchu’r cynnwys.
Ar ôl tri gweithdy dwys ac wedi i bob un o’r cyfranogwyr ysgrifennu eu straeon byrion eu hunain, bu Catherine yn eu helpu i baratoi a chyflwyno eu gwaith i gynulleidfa fyw. Cynhaliwyd y perfformiad byw yma yng Nghwrdd Llenyddol Iau Kolkata, yn y Victoria Memorial Hall, o flaen cynulleidfa o dros 300 o bobl a oedd yn cynnwys grŵp mawr o ddisgyblion ysgol yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd.
Darllenwch ragor am brofiadau Catherine
Roedd ‘Transporter’ yn rhan o raglen ‘Cymru yn Kolkata’ - tymor o weithgareddau celfyddydol Cymreig a chydweithio artistig a gynhaliwyd yn Kolkata yn Ionawr 2019 gyda chefnogaeth y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Deilliodd ‘Cymru yn Kolkata’ o’r perthnasau a’r rhwydweithiau a sefydlwyd yn ystod tymor #IndiaCymru yn 2017-18 - rhaglen sylweddol o weithgareddau a fu’n sbardun i gydweithio artistig rhwng Cymru ac India.