Mae'r Rhaglen Addysg Ryngwladol (y Rhaglen) yn rhaglen a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i rhoi ar waith gan y British Council. Mae'r rhaglen yn cwmpasu addysg feithrin, gynradd, bellach ac uwch. Mae gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc fel ei gilydd yn cael budd o gyfleoedd addysg rhyngwladol ffurfiol ac anffurfiol.
Nodau ac amcanion y rhaglen hon yw:
- darparu gwybodaeth a sgiliau i unigolion sy'n hanfodol er mwyn cyfrannu mewn cymuned fyd-eang
- gwella ymwybyddiaeth, agweddau ac ymateb i ddysgu byd-eang
- cynyddu achosion o gydweithredu parhaus rhwng Cymru a gwledydd eraill
- gwella lefelau addysg a phartneriaethau cynhyrchiol
- gwella cyflogadwyedd pobl ifanc yng Nghymru
- Canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru o ran polisi addysg.