'White Horse' tu-allan i Swyddfa'r British Council yn Llundain
Ceffyl Gwyn Mark Wallinger (2013) yn cael ei arddangos y tu allan i Bencadlys y British Council, Spring Gardens, Llundain  ©

Delwedd Peter White

Nod ein gwaith ym maes y celfyddydau yw hyrwyddo diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd amrywiol y DU dramor. 

Rydym yn gweithio gyda ffurfiau celfyddydol amrywiol a chyda'r dalent orau o Brydain i ddatblygu rhaglenni a chyfleoedd i gydweithio yng Nghymru.

 

Pensaernïaeth, Dylunio a Ffasiwn

Mae'r tîm Pensaernïaeth, Dylunio a Ffasiwn yn creu cysylltiadau rhwng dylunwyr a sefydliadau diwylliannol ledled y byd drwy amrywiaeth eang o brosiectau sy'n cwmpasu'r tair disgyblaeth. Rhagor o wybodaeth am sut maent yn gweithio.

Economi Greadigol

Dysgwch ragor am waith y British Council yn yr Economi Greadigol i gefnogi ein rhwydwaith o entrepreneuriaid creadigol, arweinwyr diwylliannol a gwneuthurwyr polisi a chyfleoedd i gymryd rhan.

Ffilm

Mae adran Ffilm y British Council yn cysylltu ffilmiau a gwneuthurwyr ffilmiau yn y DU i gynulleidfaoedd newydd, gan arddangos arloesedd, amrywiaeth a rhagoriaeth ffilmiau Prydeinig ar draws y byd a chanfod cyfleoedd cyfnewid creadigol. 

 

Llenyddiaeth

Mae gwefan Llenyddiaeth y British Council yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn a wnawn, y prosiectau rydym yn gweithio arnynt, newyddion gan gymunedau Llenyddiaeth a chyhoeddi'r DU, Cyfeirlyfr Gwyliau byd-eang ac adnoddau i weithio gyda Llenyddiaeth Brydeinig gyfoes yn y dosbarth.

 

Cerddoriaeth

O gerddoriaeth electronig i fyd jazz, o gerddoriaeth draddodiadol i gerddoriaeth werin, ac o gerddoriaeth glasurol i gerddoriaeth indi, rydym yn gweithio ymhob genre o gerddoriaeth. Mae gan y tîm cerddoriaeth ei sioe radio ei hunan hefyd sef The Selector, sy'n cynnwys y gerddoriaeth newydd orau o'r DU. Cewch ragor o wybodaeth am Gerddoriaeth y British Council yma.

 

Theatr a Dawns

Rydym yn hyrwyddo talent orau'r sector celfyddydau perfformio yn y DU drwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau gan gynnwys teithiau o gynyrchiadau newydd, gweithdai a phreswylfeydd, seminarau a chynadleddau, arddangosfeydd ac ymweliadau astudio â'r DU ar gyfer ymarferwyr o dramor. Rhagor o wybodaeth am Theatr a Dawns.

 

Celfyddydau Gweledol

Rydym yn hyrwyddo celfyddydau gweledol drwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau gan gynnwys arddangosfeydd teithiol, gweithdai, seminarau a chynadleddau. Archwiliwch a darllenwch ein Casgliad o tua 8,500 o weithiau celf Prydeinig.

 

Rhannu’r dudalen hon