Dathlu Mynd yn Ddigidol – gwyliwch ein ffilm fer newydd!
Rydyn ni’n falch iawn i lansio ein ffilm newydd am raglen Mynd yn Ddigidol Affrica Is-Sahara – Cymru. Mae’r ffilm fer yma’n crisialu hanfod Mynd yn Ddigidol – datblygu prosesau artistig, arddangos gwaith rhyfeddol a ffocysu ar gysylltiadau digidol.
Gyda chyfraniadau gan rai o bartneriaid ein prosiectau ac aelodau o staff British Council yng Nghymru a gwledydd Affrica Is-Sahara, mae’r ffilm yn dangos natur arloesol a gwytnwch pobl a phŵer cydweithio digidol rhyngwladol mewn cyd-destun byd-eang a heriol.
Gwerthuso Rhaglen Mynd yn Ddigidol: model newydd a llwyddiannus ar gyfer cydweithio rhyngwladol
Cafodd pedwar o ymchwilwyr o Affrica Is-Sahara a Chymru eu comisiynu gennym i werthuso cymal cyntaf y rhaglen. Ar ddiwedd y cymal cyntaf canfu’r gwerthuswyr fod y rhaglen yn gyffredinol wedi llwyddo i gyflawni’r amcanion a osodwyd ar ei chyfer: datblygu rhwydweithiau, newid canfyddiadau pobl am weithio’n ddigidol a phrofi yn y pendraw y gall model digidol fod yn fodel llwyddiannus ar gyfer cydweithio rhyngwladol sy’n ystyriol o’r hinsawdd.
Gallwch ddarllen crynodeb o’r adroddiad newydd isod.
Yn sgil llwyddiant Mynd yn Ddigidol Affrica Is-Sahara – Cymru, rydyn ni wedi dyblygu’r un model digidol ar gyfer ein rhaglen newydd, Mynd yn Ddigidol Pacistan – Cymru. Mae’r rhaglen yma’n rhan allweddol o weithgareddau tymor cyntaf menter y D.U. – Pacistan. Rhagor o wybodaeth yma.
Grantiau Cydweithio Digidol
Mae cefnogi cydweithredu artistig rhyngwladol wedi bod yn rhan ganolog o’n gwaith o’r dechrau. Mewn ymateb i’r cyfyngiadau cynyddol ar deithio rhyngwladol oherwydd Covid-19 a phryderon cynyddol am gynaliadwyedd mentrau cydweithio wyneb yn wyneb, roeddem yn edrych am ffyrdd newydd o feithrin y cysylltiadau rhyngwladol yma. Mae’r rhaglen ariannu yma wedi galluogi’r timoedd prosiect i greu dulliau rhithwir newydd o weithio’n rhyngwladol, sydd yn eu tro wedi arwain at greu dulliau o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid artistig sy’n ystyriol o’r hinsawdd.
Rydym yn gobeithio y bydd y rhaglen yn meithrin rhwydweithiau cydweithio newydd yn ogystal â chryfhau rhwydweithiau sy’n bodoli’n barod. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn cryfhau datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru a gwledydd Affrica Is-Sahara yn y sector diwylliannol rhyngwladol, a sicrhau fod Cymru a gwledydd Affrica Is-Sahara yn gallu rhannu sgiliau arddangos digidol strategol gan ehangu cyrhaeddiad a dylanwad rhyngwladol y ddau ranbarth.
Yn 2021 cafodd grantiau eu dyfarnu i dimoedd prosiect yng Nghymru a gwledydd yn Affrica Is-Sahara i gydweithio ar brosiectau creadigol digidol creadigol. Yn 2022, byddwn yn rhoi cefnogaeth i bump o brosiectau i barhau â’u gwaith.
4pi Productions a Matamba Film Labs for Women
Mae prosiect Future Femme Filmakers yn fenter ar y cyd rhwng Matamba Film Labs yn Harare, Zimbabwe a 4Pi Productions yng Nghaerdydd. Mae wedi dod â menywod creadigol sydd â diddordeb mewn dulliau blaengar ac arloesol o adrodd straeon at ei gilydd i gydweithio gydag amrywiaeth o dechnegau realiti cymysg, rhannu gwybodaeth a phrofiad, rhwydweithio, a meithrin cysylltiadau ar draws diwylliannau a gwledydd.
Yn 2022, dros gyfnod o bum mis, bydd partneriaid prosiect Future Femme Filmmakers yn cynnal labordy sbarduno lle bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn cael hyfforddiant i gynhyrchu ffilmiau realiti rhithwir eu hunain.
ASSITEJ South Africa a Sarah Argent a Kevin Lewis
Cafodd ‘Humanising the Zoom (play) Room’ cael ei gyd-lynnu a’i arwain gan ASSITEJ, rhwydwaith genedlaethol o artistiaid yn Ne Affrica, a’r gwneuthurwyr theatr o Gymru, Sarah Argent a Kevin Lewis. Bu artistiaid o Dde Affrica ac wyth o artistiaid o Gymru sy’n gweithio ym maes theatr i gynulleidfaoedd ifanc yn cymryd rhan mewn cyfres o sgyrsiau, pryfocion, gweithdai ymarferol a chyfarfyddiadau dros gyfnod o wyth wythnos.
Bu’r prosiect yn gyfrwng i’r artistiaid ffeindio pethau sydd o ddiddordeb cyffredin iddynt a materion y maent yn poeni amdanynt. Bu’n gyfrwng hefyd i rannu sgiliau a gwybodaeth am greu cynhyrchiadau a chyfarfyddiadau theatr sy’n tanio’r dychymyg, adlewyrchu gwirionedd emosiynol a herio. Yn ogystal, mae wedi meithrin cyd-ddealltwriaeth o bwysigrwydd iaith, diwylliant a threftadaeth De Affrica a Chymru.
Yn 2022, bydd dau fwrsari yn cael eu cynnig i artistiaid sydd eisoes yn cymryd rhan yn y prosiect i greu darn o theatr ddigidol i bobl ifanc. Bydd y grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno cynigion a mentora ei gilydd. Bydd y cynigion llwyddiannus yn cael eu datblygu a’u cyflwyno yng ngŵyl Cradle of Creativity Festival yn y Market Theatre yn Johannesburg, ym mis Awst 2022.
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre
Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre yn Malawi yn cydweithio ar brosiect o’r enw Amlygu/Meddylfryd (Maniffest/Mindset).
Yn ystod cymal cyntaf y prosiect, buon nhw’n archwilio sut y gall gwneuthurwyr theatr ifanc o wahanol ddiwylliannau gydweithio i greu gweithiau theatr digidol. Roedd y cyfnewid diwylliannol yma’n cynnwys perfformwyr a gwneuthurwyr theatr ifanc (rhwng 17 a 22 oed) o Gymru a Blantyre ym Malawi. Bu’r ddau sefydliad yn cynnal gweithdai drama ar-lein ar y cyd dan arweiniad ysgrifenwyr a gwneuthurwyr ffilm o’r ddwy wlad. Buon nhw’n archwilio platfformau digidol y gellir eu rhannu, a sut y gellir eu defnyddio fel man cyfarfod digidol i bobl ifanc o wahanol gefndiroedd diwylliannol fel y gallant gydweithio i greu darnau theatr ar gyfer ffonau symudol.
Yn 2022, bydd y ddau bartner yn ehangu cwmpas y gweithdai i gynhyrchu darn o theatr ddigidol a fydd yn cael ei gyflwyno mewn gŵyl fawr ar gyfer celfyddydau digidol a gynhelir yn flynyddol yn Malawi, sef Gŵyl Theatr y Pasg. Bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno a’i gyfryngu yng Nghymru hefyd drwy app AM.
Gŵyl Ddawns Caerdydd a Festival Duo Solo Danse
Mae Digital Encounters / Rencontres Numériques yn fenter ar y cyd rhwng Gŵyl Ddawns Caerdydd a Festival Duo Solo Danse yn Senegal.
Yn ystod 2021, bu’r prosiect yn archwilio dawns ar y sgrin a ffilmiau dawns gydag artistiaid ac ymarferwyr dawns o Gymru, Senegal a gwledydd eraill yn Affrica Is-Sahara.Mae’r gwaith wedi cynnwys cynnal labordy hyfforddi ar-lein, comisiynnu tri darn dawns byr newydd, creu platfform ar-lein a digwyddiad arddangos a gwefan sy’n cyflwyno’r artistiaid a’r ffilmiau sy’n rhan o’r prosiect.
Yn 2022, bydd y prosiect yn cynnal mwy o labordai ar-lein ar gyfer cohort newydd o artistiaid yn ogystal ag uwch labordy gydag artistiaid a gymerodd ran yng nghymal ymchwil a datblygu’r prosiect. Yn ogystal, bydd y prosiect yn troi at elfennau eraill o feysydd coreograffi a gwneuthuriad ffilm a’u rhoi ar waith i ymestyn a herio canfyddiadau am bosibiliadau’r cyfrwng ffilm dawns a’r hyn y gallai fod.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Godess Bvukutwa, o Ganolfan Menywod Mambakwedza
Nod prosiect When Women Write oedd grymuso merched yn eu harddegau a menywod ifanc rhwng 16-24 oed yng Nghymru a Zimbabwe i adrodd eu straeon trwy gyfrwng platfform digidol. Rhoddodd y prosiect wahoddiad i fenywod o ardaloedd dirwasgedig yn y ddwy wlad i gymryd rhan mewn gweithdai i gryfhau eu cymhwysedd digidol a datblygu eu sgiliau ysgrifennu barddoniaeth, ysgrifau a straeon.
Bydd platform When Women Write yn cael ei lansio ar-lein ym mis Ionawr 2022, gyda darlleniadau gan ferched a menywod sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn ogystal ag awduron ac ysgrifenwyr benywaidd o Gymru a Zimbabwe.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Dr Christina Thatcher o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Goddess Bvukutwa o Ganolfan Menywod Mambakwedza.
Yn 2022, bydd ysgrifenwyr newydd o Gymru a Simbabwe yn cael eu gwahodd i fynychu preswyliadau rhithwir fel rhan o raglen ‘Where I’m Writing From’ lle byddant yn cymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu a sesiynau mentora. Bydd ffrwyth y gwaith a gynhyrchir yn ystod y preswyliadau hyn yn cael ei arddangos drwy’r platfform.