Performers rehearsing in Pakistan
Performers rehearsing in Pakistan

Rhaglen Fyd-eang – Creu Cysylltiadau drwy Ddiwylliant

Yn dilyn lansiad llwyddiannus ein rhaglen Mynd yn Ddigidol: Affrica Is-Sahara - Cymru, rydym wedi cychwyn rhaglen newydd i hybu mentrau digidol ar y cyd rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a Phacistan.

Bydd rhaglen Mynd yn Ddigidol: Pacistan-Cymru yn cyd-fynd â thymor Pacistan-Y Deyrnas Unedig 2022: Persbectifau Newydd sy’n cael ei gynnal gan y British Council rhwng mis Mawrth 2022 a mis Awst 2022. Bydd Pacistan-D.U. 2022 yn gyfuniad o fentrau cydweithio’r British Council a mentrau ar y cyd eraill rhwng y Deyrnas Unedig a Phacistan, gyda rhaglen o weithgareddau ym meysydd y celfyddydau, yr iaith Saesneg, addysg, gwaith ieuenctid/sgiliau a chwaraeon. Bydd fformat y rhaglen yn gyfuniad o weithgareddau wyneb yn wyneb (os caniateir teithio) a gweithgareddau digidol - gan gynnwys perfformiadau, arddangosfeydd, rhaglenni datblygu proffesiynol, gosodweithiau celf, cynhyrchiadau ar y cyd, preswyliadau ac ymchwil.

 

Flow: across water and time - Mission Gallery, Rameesha Azeem, Maheen Zia, Ayessha Quraishi, Shanzay Subzwari , Zohra Amarta Shah

  • 1 Chwe - 31 Mai 2022
  • Dyfarnwyd grant o £18,000 i’r prosiect

Bydd Mission Gallery yn Abertawe yn rheoli mentrau cydweithio rhwng artistiaid yng Nghymru a 5 artist benywaidd o Bacistan sef: Rameesha Azeem (dawns digidol), Maheen Zia (ffilm a Realiti Rhithwir), Ayessha Quraishi (barddoniaeth weledol), Shanzay Subzwari (celf fideo glywedol a gweledol), Zohra Amarta Shah (celf weledol, paentiadau, crefftau).

Bydd y prosiectau hyn yn:

- hybu cydweithio traws-ddiwylliannol rhwng artistiaid ym Mhacistan a Chymru er budd yr holl gyfranogwyr

- hwyluso cyfleoedd creadigol i ymarferwyr drwy alwadau agored, sgyrsiau a chysylltiadau uniongyrchol 

- mynd i’r afael â gofynion technegol a logistaidd y pum prosiect cydweithio artistig yma i sicrhau y gellir cyflwyno’r gwaith yn y dyfodol 

- archwilio platfformau ar gyfer cyflwyno’r gwaith.

ENW’R PROSIECT – i’w gadarnhau - Puppet Soup & Rafi Peer

  • Chwe – Hydref 2022
  • Dyfarnwyd grant o £12,000 i’r prosiect

Mae Puppet Soup yng Nghymru, a Rafi Peer Theatre Workshop ym Mhacistan yn cydweithio i greu ffurf ddigidol newydd o theatr bypedau; byddant yn datblygu dosbarthiadau meistr ar gyfer gwaith pypedau a sefydlu gŵyl bypedau newydd a fydd yn cael ei chyflwyno ar-lein i gynulleidfa fyd-eang - i hyrwyddo a datblygu celfyddyd pypedau yn y ddwy wlad ac yn fyd-eang.

Trail - Harcharan Singh & Ahsan Iqbal Bari

  • Mawrth – Medi  2022
  • Dyfarnwyd grant o £10,000 i’r prosiect

Bydd yr artistiaid sain Harcharan Singh (yng Nghymru) ac Ahsan Iqbal Bari (ym Mhacistan) yn gweithio i greu tri darn o waith clyweledol. Bydd y gweithiau’n cael eu creu ar y cyd gyda cherddorion a dawnswyr o Bacistan a Chymru ar gefn sesiynau creadigol rhwng yr artistiaid sy’n cymryd rhan - gan gyfuno cerddoriaeth, barddoniaeth, y gair llafar a symudiad. Bydd yr artistiaid yn archwilio gwreiddiau traddodiadau dawns a cherddoriaeth hynafol yng Nghymru a Phacistan yn ogystal â dulliau modern o’u trawsffurfio.

Rhannu’r dudalen hon