Grŵp Inuit yn ymdeithio a Chymru

Mae grŵp o Inuit o’r Arctig Canada yn teithio i Gymru i ddysgu sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a sut mae’r iaith wedi ffynnu fel iaith fyw. Bydd y ddirprwyaeth sydd yn cynnwys 17 aelod o Bwyllgor Iaith Tapiriit Kanatami Inuit yn yr Arctig yn cwrdd â’r Prif Weinidog Carwyn Jones, Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws, a'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Bydd y grŵp yn teithio ledled Cymru (o 13 – 16 Rhagfyr) i gwrdd â grwpiau sydd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Byddant yn ymweld â Phrifysgol Bangor, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a CBAC.