Rhaglen a gaiff ei chynnal gan y British Council a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chymru Fyd-eang yw Cymru Fyd-eang: Darganfod, sy’n rhoi cyllid i sefydliadau yng Nghymru ddarparu profiadau ymweld wyneb yn wyneb a rhithwir byrdymor i fyfyrwyr israddedig yng Nghymru er mwyn gweithio, astudio neu wirfoddoli mewn gwlad arall. 

Gall myfyrwyr o Gymru dreulio rhwng dwy ac wyth wythnos yn astudio, yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn fyd-eang.

Ar gyfer cyfleoedd wyneb yn wyneb, mae cyllid ar gael ar gyfer costau byw a theithio, ac ar gyfer cyfleoedd rhithwir mae’r cyllid ar gyfer ffioedd rhaglen. 

Mae Cymru Fyd-eang: Darganfod yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ddysgu a darganfod, meithrin sgiliau a hyder, gwella cyflogadwyedd, a datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol. 

Pwy sy'n gymwys i gymryd rhan?

Mae Cymru Fyd-eang: Darganfod ar agor i fyfyrwyr israddedig o Gymru sy’n astudio yn un o’r sefydliadau canlynol yng Nghymru:

Os ydych chi’n fyfyriwr a bod gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yng nghynllun Cymru Fyd-eang: Darganfod, cysylltwch â swyddfa ryngwladol eich sefydliad drwy glicio ar y dolenni uchod i ddysgu pa gyfleoedd sydd ar gael.

Er mwyn bod yn gymwys am y cyllid, mae'n rhaid i israddedigion:

  • fod yn wladolyn y Deyrnas Unedig neu fod ganddynt 'statws preswylydd sefydlog' 
  • fod yn o Gymru ers tair blynedd neu fwy cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs
  • fod wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig am dair blynedd cyn dechrau'r cwrs.

Cysylltwch â ni

E-bost: GlobalWalesDiscover@britishcouncil.org

Rhannu’r dudalen hon