Ar ôl lansiad llwyddiannus ein rhaglen Mynd yn Ddigidol: Affrica Is-Sahara-Cymru, yn awr rydym yn cyhoeddi rhaglen newydd i hybu cydweithio digidol rhwng artistiaid a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a Phacistan.
Bydd rhaglen Mynd yn Ddigidol: Pacistan-Cymru yn cyd-fynd â thymor o weithgareddau sy’n cael ei gynnal gan y British Council rhwng mis Mawrth 2022 a mis Awst 2022 sef, ‘Pacistan-Y Deyrnas Unedig 2022: Safbwyntiau Newydd’. Bydd tymor Pacistan-Y Deyrnas Unedig 2022 yn gyfuniad o fentrau cydweithio’r British Council a mentrau cydweithio ehangach rhwng Pacistan a’r Deyrnas Unedig gyda rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau ym meysydd y celfyddydau, addysg, Saesneg, gwaith a sgiliau ieuenctid a chwaraeon. Bydd fformat y tymor yn cyfuno gweithgarwch wyneb yn wyneb (os bydd teithio’n bosib) a digidol, gan gynnwys perfformiadau, arddangosfeydd, rhaglenni datblygu proffesiynol, gosodweithiau celf, cynhyrchiadau ar y cyd, preswyliadau ac ymchwil.
Grantiau Cydweithio Digidol
Mae hybu cydweithio artistig rhyngwladol wedi bod yn rhan ganolog o’n gwaith o’r dechrau. Mewn ymateb i’r cyfyngiadau cynyddol ar deithio rhyngwladol oherwydd Covid-19 a phryderon cynyddol am gynaliadwyedd mentrau cydweithio wyneb yn wyneb, rydym yn ymchwilio i ddulliau newydd o feithrin cysylltiadau rhyngwladol.
Bydd rhaglen Mynd yn Ddigidol yn darparu cyfleoedd i sectorau’r celfyddydau greu cysylltiadau proffesiynol a chyfleoedd i bobl ifanc ym Mhacistan a Chymru. Nod y rhaglen yw hybu cydweithio a datblygu partneriaethau hirdymor yn y sectorau creadigol. Bydd y timoedd prosiect sy’n cymryd rhan yn dyfeisio dulliau rhithwir newydd o weithio’n rhyngwladol a meithrin dull o gydweithio rhyngwladol a chyfnewid artistig sy’n ystyriol o’r hinsawdd.
Ceisiadau drwy fynegiad o ddiddordeb
Rydym yn awyddus i weithio gydag artistiaid sy’n dechrau gwneud eu marc, cysylltiadau newydd, a phrosiectau sydd â chysylltiadau â Phacistaniaid alltud yng Nghymru.
Bydd hyd at bedwar grant o £8000 yn cael eu dyfarnnu i dimoedd prosiect yng Nghymru a Phacistan i’w galluogi i gydweithio ar brosiectau digidol creadigol.
Isod, cewch ragor o wybodaeth am bwy sy’n gymwys i wneud cais a’r mathau o brosiectau yr ydym yn awyddus i’w cefnogi: