18 o Fai 2022 – Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Rhowch 18 o Fai yn eich dyddiaduron, er mwyn ymuno gyda’r Urdd, Prifysgol Aberystwyth a phlant a phobl ifanc Cymru, wrth i ni rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da ein canmlwyddiant. Dilynwch @Urdd ar Twitter, ac Urdd Gobaith Cymru ar Facebook, a @UrddGobaithCymru ar Instagram wrth ddefnyddio #Heddwch100, er mwyn rhannu’r neges ar y diwrnod. Cadwch olwg allan ar gyfer pecyn ymgysylltu bydd ar gael i’w lawrlwytho yn agosach i’r amser.
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd - yr Argyfwng Hinsawdd
Mae ein neges argyfwng hinsawdd yn alwad ar y byd i weithredu, i ddefnyddio pwysigrwydd a phŵer ein llais i erfyn ar lywodraethau a chorfforaethau mawr i weithredu ar frys er mwyn atal newid hinsawdd. Crëwyd Neges Heddwch eleni mewn cydweithrediad gyda myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Gellir ei darllen yma.