Merch ifanc gyda phlethi brown a thop streipiog yn edrych ar sgrin cyfrifiadur, gydag oedolyn yn eistedd wrth ei hochr

Gan fod ysgolion ar gau mae’n flin gennym ni gyhoeddi bod y gystadleuaeth hon wedi cael ei gohirio. Byddwn ni’n rhoi diweddariad pellach yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.  

Gall plant cymryd rhan yn yr her ysgrifennu stori amlieithog am fwyta’n iach o gartref, ac mae gennym adnoddau i’ch helpu.

Rydym yn gobeithio y byddant yn cael hwyl wrth ddysgu am fwyta’n iach, diwylliannau eraill ac ieithoedd tramor.

Tasg ysgrifennu stori amlieithog

Yn y ddogfen adnoddau a allwch chi lawrlwytho isod, mae ystod o dasgau ac offer i’ch helpu.

Dechreuwch drwy ddysgu am beth ydy bwyta’n iach, yna dysgwch am wledydd, bwyd a ryseitiau o’r byd, yn ogystal â dysgu am iaith dramor.

Bydd hyn yn helpu i ysgrifennu stori gyda lluniau ar y thema bwyta’n iach yn defnyddio tair iaith: Saesneg, Cymraeg ac iaith arall o’ch dewis.

Hefyd, byddem yn hoffi gweld agweddau o ddiwylliant yr iaith dramor rydych yn cynnwys yn y stori.

Mae’r tasgau’n addas ar gyfer plant 7 – 11 oed. 

Amcanion dysgu

Dod ag ieithoedd a diwylliannau gwahanol yn fyw ym maes dysgu’r plant drwy gwblhau’r dasg ysgrifennu amlieithog hon.

Mae’r adnodd yn cynnwys tasg fydd yn helpu i ysgrifennu’r stori:

  • Trafodaeth a chwestiynau ymchwil am fwyta’n iach. Dylai’r plant ddefnyddio technoleg neu lyfrau i wneud ymchwil annibynnol i ddarganfod yr atebion.
  • Tasgau megis chwilio am ryseitiau a gwneud bwyd o’r byd.
  • Tablau gyda geiriau ac ymadroddion mewn ieithoedd gwahanol: Sbaeneg, Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg.
  • Templed ar dudalen 12 ellir ei lenwi gyda geiriau ychwanegol mewn ieithoedd tramor gwahanol gall y plant darganfod ar-lein.
  • Cwestiynau i arwain gydag ysgrifennu stori ar thema bwyta’n iach.
  • Templedi i ysgrifennu a darlunio stori ar y thema bwyta’n iach, ar ffurf gomig neu lyfryn.

Lawrlwythwch yr adnodd isod 

Rhannu gwaith

Bydden ni wrth ein boddau yn gweld y gwaith rydych chi’n wneud gartref a dangos bod plant yn gallu aros mewn cysylltiad o bell. 

Rhannwch lun neu fideo os gwelwch yn dda ar Drydar yn defnyddio’r hashnod #StoriAmlieithog a #CultureConnectsUs a thagiwch @BCouncil_Wales neu ebostiwch ni: TeamWales@britishcouncil.org

Os yn bosibl, byddwn ni’n rhannu ar ein tudalen Trydar

Cwestiynau 

Rhannu’r dudalen hon