Rydyn ni’n hyrwyddo ac yn cefnogi cyfleoedd cyfnewid a mudoledd i fyfyrwyr, ysgolheigion ac academyddion i mewn i Gymru ac allan o Gymru, ynghyd â chefnogi cyfleoedd i gydweithio ac i sefydlu partneriaethau rhwng prifysgolion, diwydiant a llywodraethau ledled y byd. Rydyn ni’n llywio ac yn gyrru gwaith rhyngwladoli ym maes addysg uwch drwy arweinyddiaeth agweddau a pholisi yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Beth rydyn ni’n ei wneud?
Hwyluso mudoledd myfyrwyr ac academyddion a phartneriaethau rhwng prifysgolion, diwydiant a llywodraethau.
Cymru Fyd-eang
Mae Cymru Fyd-eang yn bartneriaeth sy’n hyrwyddo’r sector addysg uwch ragorol sydd gan Gymru ar lefel ryngwladol, gan ddefnyddio ymchwil i’r farchnad, trefnu ymweliadau i Gymru gan ddarpar bartneriaid, hyrwyddo’r neges am Addysg Uwch yng Nghymru dramor, a hyrwyddo Addysg Uwch yng Nghymru drwy frand Astudio yng Nghymru.
Cymru Fyd-eang Darganfod
Rhaglen sy'n cael ei rhedeg gan British Council a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chymru Fyd-eang yw rhaglen Cymru Fyd-eang Darganfod. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid i ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru gynnig profiadau ymweld tymor byr i fyfyrwyr israddedig o Gymru weithio, astudio neu wirfoddoli mewn gwlad arall.
Digwyddiadau
Cymerwch ran yn y gwaith o Ryngwladoli Addysg Uwch – gweler y digwyddiadau sydd gennym ar y gweill.
Canolfan Wybodaeth
Dyma lle daw materion arweinyddiaeth agweddau o dan y chwyddwydr: cyfleoedd i edrych yn fanwl ar adroddiadau rhyngwladoli Addysg Uwch, ymchwil, fideos, a blogiau fesul thema allweddol.