Two young boys in white shirts standing at front of clasroom
©

British Council 

MAE'R BRITISH COUNCIL A SEFYDLIAD RHYNGWLADOL QATAR YN CYDWEITHIO I HYRWYDDO DYSGU AC ADDYSGU ARABEG AC AM DDIWYLLIANT ARABAIDD YNG NGWLEDYDD PRYDAIN

Nod cyfnod newydd y cydweithrediad hwn yw gwneud Arabeg yn ddewis realistig i ysgolion, penaethiaid, rhieni a disgyblion yng Nghymru. 

Amlygodd ymchwil diweddar i anghenion iaith hirdymor, a oedd yn edrych ar ystod o ddangosyddion economaidd, geowleidyddol, diwylliannol ac addysgol, mai Arabeg oedd yr iaith fwyaf angenrheidiol ond un i wledydd Prydain dros yr ugain mlynedd nesaf. 

Fodd bynnag, mae'r bwlch rhwng yr angen hwn a'r ddarpariaeth gyfredol yn nodedig o fawr: Dim ond ym mhump neu chwech y cant o ysgolion uwchradd gwledydd Prydain y caiff Arabeg ei dysgu. Mae'r mwyafrif o'r rhain yn ysgolion ffydd Mwslemaidd, ac yn aml dim ond fel pwnc allgyrsiol neu yn y sector atodol mae hyn. 

Mae'r British Council a Sefydliad Rhyngwladol Qatar yn gweithio i ddatblygu Arabeg i'r un graddau a ddisgwylir gydag ieithoedd mawr eraill y byd yn system ysgolion Prydain fel dewis dichonadwy i unrhyw ddisgybl o unrhyw gefndir i'w brofi.

Gwahoddir ysgolion Cymru i gydweithio â ni i gynnig Arabeg yn y cwricwlwm, gyda chyllid a chymorth am dair blynedd ar gael, fel y nodir yn 'Ein cynnig ariannu i ysgolion', isod.

Nod ein rhaglen yw:

  • Cynyddu nifer yr ysgolion yng Nghymru, a ledled gwledydd Prydain, sy'n dysgu Arabeg ac am ddiwylliant Arabaidd 
  • Cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol, mentora ac adnoddau modern i athrawon Arabeg       
  • Cynnal ymchwil newydd i Arabeg a diwylliant Arabaidd ac addysgeg ddiwylliannol, a dechrau pwyllgor rhanddeiliaid allweddol i lunio ffordd ymlaen er mwyn diwallu anghenion Arabaidd gwledydd Prydain

Ein cynnig ariannu i ysgolion

Rydym yn chwilio am ysgolion a fydd yn cyflwyno, neu'n ehangu, darpariaeth Arabeg yn y cwricwlwm gyda chynllun hirdymor (byddai cyllid am dair blynedd gyda phroses adolygu flynyddol), a fydd yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig i'r disgyblion sy'n cymryd rhan. Mae'r manylion llawn ar gael yn y ffurflen datgan diddordeb – anfonwch e-bost atom i gael y ffurflen.

Gwahoddir ysgolion i geisio am becyn ariannu a chymorth tair blynedd er mwyn cyflwyno, neu ehangu, darpariaeth Arabeg yng nghwricwlwm yr ysgol:

  • Grant o hyd at £15 mil y flwyddyn am dair blynedd (cyfanswm o £45 mil).
  • Dolenni at adnoddau gyda ffocws ar astudio diwylliant/diwylliannau Arabaidd.       
  • Cyfle i ymgeisio am sesiynau Skype gyda siaradwyr Arabeg.     
  • Cyfle i ymgeisio am Gyswllt Rhyngwladol gydag ysgol Arabeg.     
  • Cymorth gyda sesiynau blasu      
  • Cyswllt â'ch ysgol atodol Arabeg agosaf mewn cysylltiad â'r Ganolfan Adnoddau Genedlaethol ar gyfer Addysg Atodol. 
  • Cymorth â chanfod athrawon ieithoedd tramor modern sydd wedi'u hyfforddi yng ngwledydd Prydain a all ddysgu Arabeg.

Enghreifftiau o fodelau cwricwlwm posib

Dylai cynlluniau un ai ehangu darpariaeth Arabeg gyfredol eich ysgol neu gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu Arabeg.

Er enghraifft:

  • Rydych yn defnyddio hwn i gyflwyno Arabeg i'ch ysgol am y tro cyntaf.
  • Rydych eisoes wedi bod yn cynnig Arabeg yn allgyrsiol, ac rydych nawr yn dymuno ei hymgorffori i'r cwricwlwm.
  • Rydych wedi cynnig Arabeg i siaradwyr brodorol yn unig yn y gorffennol, ond byddech nawr yn ehangu'r cynnig hwn i'r rhai nad ydynt yn siarad Arabeg yn y cartref na thu allan i'r ysgol.
  • Rydych yn cyflwyno Arabeg fel dewis i gynnwys arholiadau ar lefel TGAU a/neu Safon Uwch (neu gymhwyster cydnabyddedig arall).
  • Rydych yn gweithio gyda'ch Ysgol Atodol Arabeg leol i ffurfioli llwybr tuag at gymhwyster.

Gall modelau fod yn hyblyg ac yn gweithio i amgylchiadau eich ysgol.

Er enghraifft:

  • Rydych yn cyflwyno Arabeg i'r cwricwlwm ochr yn ochr ag ieithoedd tramor eraill ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol.
  • Rydych yn cynnig sesiynau blasu yn ystod dwy flynedd gyntaf yr ysgol uwchradd ac yn cyflwyno Arabeg yng nghwricwlwm uwch yr ysgol ochr yn ochr ag ieithoedd tramor modern eraill.
  • Rydych yn cynnig ffrwd Arabeg arbennig i ieithyddion talentog yn ogystal â'ch cynnig ieithoedd tramor modern presennol.
  • Rydych yn cyflwyno gwersi gloywi yn y Chweched Dosbarth (gyda mynediad at gymhwyster).

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

E-bostiwch ni i dderbyn y manylion llawn a meini prawf cymhwysedd. Byddwn ni'n anfon ffurflen Datgan Diddordeb atoch i'w llenwi, a byddwn ni'n cysylltu â chi i gynnig:

  • Sgwrs gychwynnol i drafod amgylchiadau penodol yr ysgol.
  • Cyngor ar lenwi'r ffurflen datgan diddordeb.
  • Sesiwn flasu Arabeg gydag athro sy'n siaradwr brodorol wedi'i darparu gennym ni. 
  • Ail sgwrs gyda'r ysgol i adolygu'r cais a rhoi cyfle i'r ysgol ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.

Mae'r cynnig yn agored i ysgolion uwchradd a Cholegau Chweched Dosbarth yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gall ysgolion gwladol wneud cais eu hunain; bydd ceisiadau gan ysgolion annibynnol yn cael eu hystyried os ydynt yn gweithio ar y cyd ag ysgol wladol.

Cyfleoedd eraill a gwybodaeth ddefnyddiol 

Mae'r rhaglen Arabeg a Diwylliant Arabaidd hefyd yn cynnig:

  • Cyfleoedd ariannu eraill
  • Ymchwil i'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi ysgolion wrth ddiwallu anghenion Arabeg pobl ifanc ar gyfer y dyfodol
  • Cynhadledd flynyddol i addysgwyr a gweithwyr proffesiynol Arabeg ar draws gwledydd Prydain
  • Datblygiad proffesiynol i athrawon
  • Pecyn Arabeg a Diwylliant Arabaidd, sy'n cyflwyno'r byd Arabaidd i ddisgyblion ifanc rhwng 7 ac 11 oed, gan herio eu canfyddiadau o ddiwylliant Arabaidd ar yr un pryd.

Find out more

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon