Ieithoedd y Dyfodol - merch fach yn ysgrifennu o flaen baneri rhyngwladol
©

Shutterstock

Ieithoedd y Dyfodol - Yr ieithoedd tramor sydd eu hangen ar Gymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn bod yn wirioneddol fyd-eang.

Mae adroddiad y Cyngor Prydeinig, ‘Ieithoedd y Dyfodol’, yn nodi pa ieithoedd y dylid eu blaenoriaethu i sicrhau ffyniant, diogelwch a dylanwad y DU yn y byd yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae’r ieithoedd yma’n bwysig i Gymru hefyd. 

Mae’r adroddiad yn pwyso a mesur y rhagolygon o ran y cyflenwad a’r galw am gymhwysedd ieithyddol yn y blynyddoedd i ddod, gan edrych ar anghenion ieithyddol ystod o ffactorau economaidd, geowleidyddol, diwyllianol ac addysgol gan sgorio’r gwahanol ieithoedd yn ôl y rhain.

Yn ôl yr adroddiad, y pum iaith bwysicaf yw:

1. Sbaeneg

Sbaeneg yw’r iaith sy’n dod yn ail o ran y niferoedd sy’n ei siarad fel iaith gyntaf ledled y byd, gydag oddeutu 437 miliwn o siaradwyr brodorol. 

2. Mandarin

Dan adain Tsieinëeg ceir grŵp o ieithoedd sydd â chyfanswm o dros 1,200 miliwn o siaradwyr brodorol. Tsieinëeg Mandarin (Putonghua), iaith swyddogol Tsieina, Taiwan a Singapore, yw’r iaith â’r nifer fwyaf o siaradwyr yn y byd, gyda bron i 900 miliwn o siaradwyr – y mwyafrif ohonynt yn Tsieina.

3. Ffrangeg

Mae mwy na 76 miliwn o bobl yn siarad Ffrangeg fel iaith gyntaf ac amcangyfrifir bod rhwng 100 a 200 miliwn o bobl ar draws y byd ei siarad fel ail iaith.

4. Arabeg

Arabeg yw’r bedwaredd iaith a siaredir fwyaf yn y byd. Mae ganddi dros 230 miliwn o siaradwyr brodorol, a rhwng 100 a 200 miliwn o bobl eraill ar draws gogledd Affrica a gorllewin Asia sy’n ei siarad fel ail iaith.

5. Almaeneg

Almaeneg sydd ar y brig o ran nifer ei siaradwyr brodorol yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae 24% o boblogaeth yr UE yn nodi taw’r Almaeneg yw eu hiaith gyntaf.

Mae niferoedd siaradwyr y pum iaith sydd ar frig y rhestr gryn dipyn yn uwch na’r pump nesaf ar y rhestr: 

•  Eidaleg

•  Iseldireg

•  Portiwgaleg

•  Japaneg 

•  Rwsieg

Mae Ieithoedd y Dyfodol yn dadlau fod buddsoddi i wella gallu’r DU i ddeall ac ymgysylltu â phobl yn rhyngwladol yn hanfodol mewn oes newydd o gydweithredu gydag Ewrop a gweddill y byd.

Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Yng nghyd-destun yr ansicrwydd a grewyd gan Brexit, mae un peth yn glir, bydd angen rhwydwaith rhyngwladol o gysylltiadau economaidd a diwylliannol ar Gymru os yw am gynyddu ei dylanwad a pharhau i fod yn gystadleuol. Ni allwn wireddu’r weledigaeth o Gymru eangfrydig sy’n rhan o gymuned fyd-eang os na fydd y sgiliau ieithyddol a rhyng-ddiwylliannol angenrheidiol gennym i feithrin perthnasau ar draws ffiniau rhyngwladol.” 

Tueddiadau Ieithyddol Cymru 

Ers 2015, mae British Council Cymru wedi bod yn monitro nifer ymgeiswyr arholiadau TGAU a Lefel-A mewn Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru. Mae ein hadroddiadau Tueddiadau Ieithyddol Cymru wedi dangos dirywiad cyson o ran dysgu Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn ysgolion uwchradd Cymru.

Gweler hefyd

Rhannu’r dudalen hon