Cymuned unigryw a sefydlwyd gan Gymry Cymraeg ym Mhatagonia yn yr Ariannin yw’r Wladfa. Mae Dr Walter Ariel Brooks yn olrhain sut mae’r iaith wedi esblygu yn yr Ariannin ers iddi gyrraedd yno yn 1865.
Ers i fi symud i Gymru o’r Ariannin bron i ddwy ddegawd yn ôl, mae fy mywyd wedi datblygu’n dairieithog. Sbaeneg yw fy mamiaith ac iaith gyntaf fy nghartref. Rwyf hefyd yn siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl – yn gymdeithasol ac wrth fy ngwaith.
Heddiw mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol yng Nghymru gydag ychydig llai na 20% o’r boblogaeth yn ei siarad yn ôl cyfrifiad diwethaf y Deyrnas Unedig. Dyma berodd imi gymryd swydd fel tiwtor Cymraeg i oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd.
Er i mi fwynhau’r profiad, roedd nifer o fy myfyrwyr mewn penbleth – pam yn y byd roedd Archentwr o Batagonia’n dysgu’r Cymry i siarad eu hiaith eu hunain?
Mae’r ateb i hynny’n cychwyn dros 150 o flynyddoedd yn ôl, gyda’r fintai o Gymry arloesol a deithiodd bron i 8,000 o filltiroedd ar draws Gefnfor yr Iwerydd. Roedd fy hen famgu a thadcu yn eu plith.
Yr iaith Gymraeg dan fygythiad
Er bod yr iaith Gymraeg bellach yn derbyn cefnogaeth gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn hanesyddol ni fu’r wladwriaeth yn bleidiol iddi. Yn yr 16eg Ganrif, fe basiodd y Brenin Henry VIII gyfreithiau’n datgan mai’r Saesneg fyddai unig iaith llysoedd Cymru ac na fyddai unrhyw un oedd am ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn cael dal swyddi cyhoeddus.
Cafodd maen y stigma yma ei wthio i’r wal gan adroddiad addysg a gyhoeddwyd gan swyddogion llywodraeth Lloegr yn 1847. Roedd yn cynnwys beirniadaeth hallt o foesau’r Cymry a’u hymlyniad i’r ffydd Brotestannaidd yn hytrach na’r Eglwys Anglicanaidd sefydledig.
Un o ganlyniadau’r adroddiad hwnnw oedd plannu’r syniad mai’r Saesneg oedd iaith cynnydd cymdeithasol ac economaidd, tra mai iaith i’ch cadw yn ôl oedd y Gymraeg.
Ymfudiad yn y 19eg Ganrif
Trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd cynnydd mewn ymfudo o Ewrop i’r Americas. Doedd Cymru ddim yn eithriad. Fe setlodd Cymry mewn amryw o wledydd Saesneg eu hiaith gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Canada, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd.
Llwyddodd y rhan fwyaf o fudwyr Cymreig y cymunedau hyn i wella’u bywydau a sicrhau gwell swyddi. Ond roedd nifer ohonyn nhw hefyd yn poeni am y bygythiad i’w treftadaeth ddiwylliannol a’u hunaniaeth.
Er gwaetha ymdrechion i greu rhwydwaith o gapeli Cymreig, cynnal traddodiadau ieithyddol a diwylliannol yr eisteddfodau a chefnogi cyhoeddiadau yn y Gymraeg, roedd cenedlaethau newydd y Cymry ar wasgar yn colli eu treftadaeth ieithyddol yn raddol wrth integreiddio i’w cymunedau newydd Saesneg eu hiaith.
Mudwyr o Gymru’n dechrau o’r newydd yn yr Ariannin
Roedd gan rhai Cymry weledigaeth am Gymru newydd, lle byddent yn rhydd o reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig a lle byddai eu diwylliant yn ddiogel rhag erydiad dan ddylanwad yr iaith Saesneg. I’r perwyl hwn, fe sefydlodd y Parchedig Michael D. Jones nifer o gymdeithasau ymfudo, ac erbyn heddiw mae’n cael ei ystyried yn un o gewri’r mudiad cenedlaetholgar Cymraeg.
Creu gwladfa newydd lle gallai’r holl ddinasyddion fyw’n llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg – dyna oedd y gobaith. Roedd hynny’n gwbl amhosib yng Nghymru’r cyfnod.
Yn y cyfamser, roedd llywodraeth yr Ariannin yn ceisio poblogi’r tiriogaethau anferth i’r de o Buenos Aires drwy annog ymfudwyr o Ewrop i setlo yno. Cafodd y polisi ei wreiddio yng Nghyfansoddiad Cenedlaethol yr Ariannin fel cyfle i dramorwyr i ddod i’r wlad ‘er mwyn aredig y tir, gwella diwydiannau a chyflwyno celfyddydau a’r gwyddorau’.
Cyrhaeddodd yr ymsefydlwyr cyntaf o Gymru i Chubut yn yr Ariannin ar 28 Gorffennaf 1865. Yn fuan wedi hynny, fe ymunodd Walter Caradog Jones a Catherine Davies, fy hen famgu a thadcu, â’r gymuned newydd hon.
Cyfnod anodd yn yr Ariannin
Yn grasboeth a garw, roedd De America yn wahanol iawn i’r wlad yr oeddent wedi ei gadael yng Nghymru. Ond erbyn yr 1890au roedden nhw wedi llwyddo i sefydlu sawl tref Gymraeg ei hiaith; camp a fyddai wedi bod yn hollol amhosib, yn gyfreithiol, yn eu mamwlad.
Magodd Walter a Catherine 13 o blant yn y Wladfa. Fe ddysgodd pob un ohonyn nhw i siarad math newydd o Gymraeg a oedd yn cyfuno nodweddion tafodieithoedd De a Gogledd Cymru. Bu’r Sbaeneg a ddysgwyd yn ysgolion cenedlaethol yr Ariannin hefyd yn ddylanwad ar yr iaith newydd yma.
Ym Mhatagonia y sefydlwyd ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg cyntaf y byd. Bron yn ddi-eithriad, mamiaith yr ymsefydlwyr oedd iaith llywodraethu, busnes a bywyd cymdeithasol y Wladfa, a’r Gymraeg hefyd oedd iaith y rhan fwyaf o lythyron a dyddiaduron, a’r holl gofnodion swyddogol.
Iaith dan fygythiad...eto
Yn ystod y ganrif nesaf fe ddirywiodd pwysigrwydd y Gymraeg wrth i fwy o siaradwyr Sbaeneg fudo i’r Wladfa o’r Ariannin a Chile. Gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf daeth mewnfudiad pobl ac adnoddau o Gymru i ben yn gyfan gwbl.
Gallwn ddilyn patrwm y newid trwy gofnodion priodasau. Bu’r llu o briodasau rhwng disgynyddion Cymreig a brodorion eraill De America yn gyfrwng i’r Wladfa dyfu a ffynu. Ond fe ddigwyddodd hynny ar draul yr iaith Gymraeg. Yn y cyfnod hwn, roedd yr Ariannin yn meithrin ymwybyddiaeth o’i hunaniaeth trwy gyfrwng yr iaith Sbaeneg, ac felly doedd dim lle nag annogaeth i ddwyieithrwydd.
Yn ôl ieithyddion cymdeithasegol gan gynnwys Joshua A Fishman, priodi o fewn cymuned unieithog yw’r ffordd orau o sicrhau parhad unrhyw iaith. Ar y llaw arall, gall priodi y tu allan i’ch grŵp ieithyddol eich hunan arwain at golli iaith.
Ar droad yr 20fed Ganrif roedd cyfenwau Cymraeg gan bron bob un a oedd yn priodi yn nhalaith Chubut. Erbyn 1940, roedd nifer y priodasau ymysg aelodau’r gymuned Gymraeg wedi disgyn i 25%, ac roedd canran tebyg yn briodasau iaith gymysg.
Adfywio diwylliant y tu hwnt i Gymru
Bu’r dathliadau yn 1965 i nodi canmlwyddiant y glaniad cyntaf yn sbardun i adfywiad ieithyddol. Teithiodd nifer fawr o ymwelwyr o Gymru draw i’r Wladfa a gweld bod eu cefndryd yno wedi cadw ffurf unigryw o’r Gymraeg yn fyw: Iaith a oedd yn rhydd o ddylanwad y Saesneg ond a oedd yn cario dylanwadau Sbaeneg.
Bu’r athrawon iaith gwirfoddol a gyrhaeddodd o Gymru yn yr 1980au a Phrosiect yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1997 yn rhan o broses adfywio’r Gymraeg a’i diwylliant yn Chubut.
Fe ddechreuodd pobl ifanc Patagonia - nad oeddent o anghenraid yn ddisgynyddion cymuned Gymraeg wreiddiol y Wladfa - ddysgu Cymraeg fel eu hiaith dramor gyntaf neu eu hail iaith dramor drwy gynlluniau mynediad rhad ac am ddim. Enillodd nifer ohonynt ysgoloriaethau i ymweld â Chymru er mwyn hogi eu sgiliau ieithyddol a dysgu mwy am wreiddiau eu cymuned.
Roedd y don newydd a brwdfrydig yma o ddysgwyr Cymraeg yn allweddol i adfywiad modern y Gymraeg ym Mhatagonia. Wedi sefydlu pwyllgor codi arian fe lwyddon nhw i sicrhau caniatad gan y llywodraeth i agor ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg ar gyfer eu plant.
Y Wladfa fodern
Erbyn heddiw mae tair ysgol ddwyieithog yn Chubut. Mae twristiaid a grwpiau ieuenctid o Gymru’n ymwelwyr cyson â’r dalaith, ac mae nifer o Batagoniaid yn teithio i’r cyfeiriad arall, i Gymru, er mwyn gwella eu sgiliau iaith.
Mae’r rhaglenni lleoliad i fyfyrwyr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a nifer o sefydliadau mawr eraill yn sicrhau bod cyfnewid talent academaidd yn digwydd yn gyson rhwng y ddau ddiwylliant. Mae sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru’n cynnig nifer o gyfleoedd cyfnewid i gerddorion, gwneuthurwyr ffilm a ffotograffwyr. Mae’r eisteddfod yn ei ffurf fodern hefyd yn ffynnu ar ddwy ochr yr Iwerydd.
Rhai gwahaniaethau ieithyddol rhwng Patagonia a Chymru
Mae hanes y Gymraeg a siaradwyd ym Mhatagonia ar draws y cenedlaethau wedi creu mosaic ieithyddol. Mae hi mor ddealladwy â’r Gymraeg a siaredir yng Nghymru heddiw, ond mae ganddi elfennau gwahanol hefyd.
Y Gymraeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o Batagoniaid a aned cyn 1950. Maen nhw’n siarad â hyder siaradwyr Cymraeg brodorol, tra fo dylanwad meddalwch eu hynganiad Sbaenaidd yn gwneud eu seiniau ffrwydrol (p,t,c,b,d,g) yn llai soniarus. Mae sain yddfol gryf yr ‘ch’ yn fwy meddal.
Mae yna ymadroddion sy’n dangos sut mae’r Sbaeneg wedi dylanwadu ar gystrawen y Gymraeg.
Pan ewch i dŷ siaradwr Cymraeg ym Mhatagonia, efallai y cewch eich cyfarch â’r gwahoddiad, ‘Pasiwch i mewn’ (o’r Sbaeneg ‘Pase’), yn hytrach na’r ‘Dewch i mewn’ arferol yng Nghymru.
‘Siarad ar y ffôn’ sy’n arferol yng Nghymru, ond ym Mhatagonia rydych yn ‘Siarad dros y ffôn’ (o’r Sbaeneg ‘Hablar por teléfono’).
Bron yn ddi-eithriad mae Patagoniaid a aned ar ôl 1970, sy’n siarad y Gymraeg fel ail neu drydedd iaith, wedi dysgu’r iaith gan diwtoriaid o Gymru. Fel arfer maen nhw wedi defnyddio gwerslyfrau o Gymru, sy’n cyflwyno ffurfiau ychydig yn wahanol i’r Gymraeg a siaradwyd gan eu cyndeidiau yn y Wladfa. Sbaeneg yw mamiaith y rhan fwyaf ohonynt ac mae hynny’n dylanwadu’n drwm ar eu hacen wrth siarad Cymraeg.
Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Bangor a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrthi’n dyfeisio cwrs iaith unigryw, ‘Cymraeg y Wladfa’.
Geiriau Cymraeg newydd ym Mhatagonia
Cafodd rhai geiriau Cymraeg eu bathu’n benodol ym Mhatagonia wrth addasu’r iaith ar gyfer amgylchfyd newydd.
Roedd llawer o berchnogion siopau lleol yn gosod hysbysebion ym mhapur Cymraeg ‘Y Drafod’ (a gyhoeddwyd ym Mhatagonia ers 1891). Yn aml, nid oedd y perchnogion siop hynny’n medru’r Gymraeg, ond gan eu bod am ddenu cwsmeriaid o’r gymuned Gymraeg, fe fydden nhw’n cyfieithu eu hysbysebion.
Bu’n rhaid iddyn nhw ddyfeisio geiriau newydd ar gyfer eitemau nad oedd yn bodoli mewn geiriaduron Cymraeg. Mae llawer o’r geiriau hynny’n cario’r olddodiad ‘fa’, sy’n dynodi ‘man’, ‘lleoliad’ neu ‘ganolfan’ yn y Gymraeg.
Rhai enghreifftiau:
- Arianfa: ar gyfer ‘banc’.
- Ymdrochfa: cyfieithiad o’r Sbaeneg, ‘balneario’ - sef y gair am draeth neu fan i ymdrochi.
- Ymgynghorfa: Mae hwn yn gyfieithiad uniongyrchol o’r gair Sbaeneg ‘consultorio’ (‘practis’ neu ‘swyddfa’). Felly roedd ymgynghorfa ddeintyddol yn gyfieithiad uniongyrchol o ‘consultorio dental’ - i ddisgrifio ‘practis deintydd’.
Un o fy ffefrynnau yw:
- Oriadurfa a thlysfa: cyfieithiad uniongyrchol o relojería y joyería yn y Sbaeneg i ddisgrifio siop lle gallwch brynnu oriorau a gemwaith.
Plant a dysgu’r iaith Gymraeg
Wrth ddod yn dad mi welais drosof fy hun sut mae plant yn dysgu ieithoedd o oedran ifanc iawn. Mae fy ngwraig a minnau’n Archentwyr brodorol sydd wedi astudio Saesneg a chyfieithu yn Buenos Aires, felly rydym ni’n ymwybodol o bwysigrwydd amlieithrwydd.
Gan mai Sbaeneg yw mamiaith ein plant, dyna fyddwn ni’n siarad â nhw yn ein cartref ac rydym ni’n dewis eu danfon i ysgolion meithrin a chynradd cyfrwng Cymraeg. Maen nhw’n codi’r Saesneg ymhobman; y teledu, siopau, cerddoriaeth a gyda’u ffrindiau. Mae’n ymddangos eu bod yn adrannu’r dair iaith yn llwyddiannus iawn, a phrin yw’r cymysgu rhwng ieithoedd - fel sy’n gyffredin gyda dysgwyr hŷn.
I fi, fel Archentwr, mae siarad Cymraeg yn cynrychioli cyswllt uniongyrchol â fy hen famgu a thadcu a’m treftadaeth Batagonaidd. Hefyd, mae’n ddolen gyswllt rhyngddo i a Chymru fodern a bywiog. Ond drwy fy mhlant, mae’n estyniad allan i’r dyfodol.
Mae siarad yr iaith hefyd yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol, i’r Gymraeg a’r holl ieithoedd lleiafrifol sydd dan fygythiad ledled y byd. Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru bellach, ar y cyd â’r Saesneg, ac yn sgil Deddf Yr Iaith Gymraeg 1993 mae ganddi statws cydradd yn y sector gyhoeddus. Mae tipyn o ffordd gyda ni i fynd eto wrth warchod ieithoedd lleiafrifol, ond rwy’n hoffi meddwl y byddai sefydlwyr cyntaf y Wladfa’n falch iawn o weld ble rydym wedi cyrraedd heddiw.
Mae Dr Walter Ariel Brooks yn arbenigwr ar yr iaith Gymraeg ac yn Rheolwr Addysg gyda’r British Council Cymru.