Cafodd Melissa Hinkin, sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd, ei dewis i gymryd rhan yn rhaglen ‘Echoes of [Un]Silenced Voices’; partneriaeth rhwng British Council Botswana a Chanolfan Gelfyddydau Gweledol Thapong i gefnogi artistiaid ifanc lleol sy’n dechrau ennill eu plwyf ym Motswana i greu gwaith celf cyffrous, cyfoes ac arloesol ar draws rhychwant o wahanol gyfryngau.
Mae Melissa Hinkin yn guradur a chynhyrchydd llawrydd, ac mae hefyd yn gweithio fel Swyddog Arddangosfeydd i Artes Mundi yng Nghaerdydd. Dair blynedd yn ôl fe aeth i Johannesburg yn Ne Affrica dan adain menter arall gyda’r British Council; ac er bod y ddwy wlad yn gymdogion agos, mae’r amser a dreuliodd ym Motswana gyda’r rhaglen yma eisoes wedi cyflwyno profiadau a symbyliadau gwahanol iawn.
Mae ‘Echoes of [Un]Silenced Voices’ yn brosiect cydweithiol a ddeilliodd o alwad agored gan British Council i greu cysylltiadau rhwng ymarferwyr creadigol yn y Deyrnas Unedig a Chanolfan Gelfyddydau Gweledol Thapong, yr unig ganolfan sefydledig o’i math ym Motswana.
Yma, mae Melissa’n rhannu ei phrofiadau o gymryd rhan yn y prosiect celf ym Motswana:
Roeddwn i’n gyffrous iawn wrth ymateb i’r alwad yma, yn enwedig ar gefn fy mhrosiectau blaenorol a oedd yn cynnwys gweithio yn Ne Affrica rai blynyddoedd yn ôl.
Ers 1998, mae Canolfan Gelfyddydau Gweledol Thapong wedi bod yn hyrwyddo cydweithio ac ymarfer o’r radd flaenaf yn sector y celfyddydau gweledol ym Motswana. Mae gwaith y ganolfan yn cynnwys rhannu sgiliau, hyrwyddo datblygiad personol a datblygu a hyrwyddo’r celfyddydau yn lleol a rhyngwladol trwy gyfrwng rhwydweithio, defnydd o’r oriel a stiwdios, a rhaglennu bywiog. Ers 2010, bu’r ganolfan yn cynnig rhaglenni preswyl ym Motswana i artistiaid rhyngwladol weithio gydag artistiaid lleol yn ogystal â chynnal gweithdai allgyrch ac arddangosfeydd. Datblygwyd y rhaglen yma ar gefn prosiectau eraill a gynhaliwyd mewn dinasoedd eraill yn Affrica lle’r oedd rhwydweithiau ac ymarferion celf gweledol eisoes wedi eu sefydlu. Roedd yn ymestyniad o waith y prosiectau rheini ac yn gyfle i gefnogi maes celfyddydol sy’n dechrau ennill ei blwyf mewn gwledydd eraill yn Affrica.
Amcanion y rhaglen yw:
- Creu cyfle i artistiaid ym Motswana sydd ar gychwyn eu gyrfa i feithrin cysylltiadau â chynulleidfaoedd newydd
- Creu cyfle i ymgysylltu â chymunedau
- Cefnogi Thapong i dyfu’n ganolfan gynhwysol lle gall pobl greadigol ddod at ei gilydd, meithrin cysylltiadau a chydweithio
- Hyrwyddo cyd-greu, cydweithio a chyd-gynhyrchu celf newydd gan artistiaid sydd ar gychwyn eu gyrfa
- Meithrin cysylltiadau rhwng sectorau celfyddydau gweledol cyfoes Affrica a’r Deyrnas Unedig drwy hyrwyddo cysylltiadau rhwng yr artistiaid ym Motswana a sector celfyddydau gweledol y Deyrnas Unedig
- Hyrwyddo datblygiad gwaith unigryw a hynod sy’n arbrofol ac arloesol o ran y ffordd mae’n cael ei greu a’i gyflwyno
- Meithrin hyder y curadur lleol i weithio ym maes celfyddydau gweledol cyfoes a chefnogi darpar artistiaid yn y maes hwnnw
Fe weithiais yn agos gyda Thuthuka Tumelo, curadur cyfredol Thapong, nid yn unig gyda mewnbwn am feini prawf y tri phrosiect, ond hefyd wrth gynnig mentoriaeth i Thuthuka yn ogystal â Tumelo Bogatsu, Kago Monageng a Legakwanaleo Makgekgenene, y tri artist a gafodd eu recriwtio, trwy alwad agored, ar gyfer yr arddangosfa. Mae pob un o’r artistiaid yma (sydd rhwng 18-35 oed) yn gweithio gyda gwahanol gyfryngau ac yn derbyn fy nghefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau rhannu, achos er bod pob un ohonynt wedi cael hyfforddiant prifysgol, prin iawn yw eu profiad proffesiynol.
Yn rhinwedd fy ngwaith ledled y Deyrnas Unedig a nawr ym Motswana rwyf wedi sylwi ar lawer o wahaniaethau ac mae’r profiad wedi rhoi llawer o gyfleoedd dysgu i bawb sydd wedi cyfranogi. Cefais gyfle i gyflwyno fy mhrofiadau fy hun yn ogystal â phosibiliadau eraill fel prosiect ‘Folkstone Triennail’, Artes Mundi a’r Barbican, ac roedd yn brofiad cyffrous a heriol cael bod yn rhan o gamau cynnar datblygiad y sector a thystio i’r brwdfrydedd am y broses yn lleol. Mae’r heriau wedi cynnwys rheoli disgwyliadau a phrofiad, yr ystyriaethau arferol wrth gyfathrebu dros bellter yn enwedig wrth weithio’n rhyng-ddiwylliannol, yn ogystal â llywio ffordd drwy rai o’r ystyriaethau diwylliannol a hanesyddol sensitif am sut roeddwn i a’r partneriaid yn cydweithio.
Fy ngham nesaf fydd dychwelyd i Fotswana ddechrau Gorffennaf i baratoi ar gyfer cymal nesaf y prosiect, sef yr arddangosfa, ‘Echoes of (Un)Silenced Voices’, sy’n rhedeg o 12 Gorffennaf tan 8 Awst 2019. Yn ogystal, fe fyddwn ni’n parhau â’r sgyrsiau am sut i gynnal y momentwm a’r potensial ar gyfer datblygiad pellach. Rwy’n awyddus iawn i barhau’r berthynas sydd wedi dechrau’n sgil y gwaith yma, ac rwy’n edrych am gerrig camu eraill er mwyn gwireddu hynny.