Rhaglen breswyl i artistiaid yn ymateb i her yr hinsawdd oedd Egin. Cafodd ei chynnal yng Nghapel Curig ym Mharc Cenedlaethol Eryri ym mis Gorffennaf 2019. Cafodd y rhaglen ei chynnal a’i churadu gan National Theatre Wales mewn partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a chefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Roedd Egin yn fan cyfarfod i artistiaid Cymreig a rhyngwladol o wahanol ddisgyblaethau artistig – pob un ohonynt ar wahanol bwyntiau yn eu gyrfaoedd. Bu’r rhaglen yn gyfrwng i feithrin cysylltiadau rhwng artistiaid a meddylwyr a’r gymuned leol, yr amgylchedd naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Cymru. Man cychwyn Egin oedd defnyddio arbrofi creadigol fel cyfrwng i lywio ymarfer newydd, dychmygu posibiliadau ar gyfer y dyfodol ac ysbrydoli dulliau cynaliadwy o fyw.
Bu British Council Cymru yn helpu i hyrwyddo presenoldeb rhyngwladol ar y rhaglen drwy gydweithio gyda’i swyddfeydd ledled y byd i ganfod a chefnogi artistiaid rhyngwladol i gymryd rhan.
Yn ogystal â’r rhaglen breswyl i artistiaid rhyngwladol cafodd cyfres o drafodaethau anffurfiol eu curadu i gydredeg ag Egin. Roedd ‘TIR. ARIAN. GWRTHRYFEL. GOBAITH.’ yn trafod materion o bwys ynghylch newid yr hinsawdd.
Mae rhagor o wybodaeth am Egin ar gael ar wefan National Theatre Wales.
Isod, mae rhagor o wybodaeth am yr artistiaid a gymerodd ran yn Egin: