Yn ystod 2019 derbyniodd artistiaid theatr, dawns a ffilm a sefydliadau celfyddydol o Gymru nawdd gan y gronfa yma i deithio i wledydd yn Affrica Is-Sahara. Ymwelodd cynrychiolwyr prosiectau’r fenter â nifer o wledydd, gan gynnwys Ghana, Kenya, Nigeria, Senegal, De Affrica a Tanzania.
Bu’r ymweliadau’n gyfrwng i gryfhau perthnasoedd a oedd yn bodoli’n barod rhwng artistiaid a sefydliadau’r celfyddydau yng Nghymru a gwledydd yn Affrica Is-Sahara. Roeddent hefyd yn gyfle i ffurfio cysylltiadau newydd a hybu gwell dealltwriaeth o sectorau’r celfyddydau yng Nghymru a gwledydd Affrica Is-Sahara.
O ganlyniad i weithgareddau chwe thrip y chwe phrosiect cafodd 55 o gyfarfodydd eu cynnal, gydag 85 o gysylltiadau newydd.
Mae llawer o’r cysylltiadau yma’n parhau: Mae amryw o brosiectau newydd ar y gweill neu wedi digwydd yn barod, ac mae llawer o bosibiliadau’n cael eu trafod ar gyfer y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth am y prosiectau
Gŵyl Ddawns Caerdydd: Senegal
Ym mis Mehefin 2019 teithiodd Chris Ricketts o Ŵyl Ddawns Caerdydd i Senegal i ddysgu mwy am faes dawns Gorllewin Affrica, y dylanwadau traws sector yno, a sut y gallai’r rhain gyfoethogi labordy coreograffi a phreswyliad. Cafodd Chris gyfarfodydd gyda darpar bartneriaid (gyda golwg ar fentrau cydweithredol) yn ogystal ag artistiaid a choreograffwyr a allai gymryd rhan yn y labordy coreograffi a’r preswyliad - naill ai yn Senegal neu yng Nghymru.
Bydd yr ymweliad yn helpu gyda’r broses o lunio rhaglen Gŵyl Ddawns Caerdydd, sy’n dod â dawnswyr o bob rhan o’r byd at ei gilydd i berfformio mewn canolfannau yng Nghaerdydd.
Griot Creative: Kenya
Ym mis Mawrth 2019, bu Hywel George o Griot Creative, asiantaeth gynhyrchu ffilm ac ymgynghorwyr cyfathrebu moesegol o Gaerdydd, ar ymweliad â Kenya. Bu’n gyfrwng iddo ddysgu mwy am y sector creadigol yn Kenya yn ogystal â chyfoethogi ei wybodaeth am y wlad. Cafodd gyfle hefyd i ddatblygu syniadau am weithdai gyda phartneriaid ac artistiaid o Kenya gan gynnwys Babu Gee Omoisi Omong'are ac MC Miggy Echambioni.
Mae Griot Creative a’u partneriaid yn parhau i ddilyn trywydd prosiectau ffilm a chyfryngau eraill, gan gynnwys menter newydd i hybu buddsoddi effaith gwyrdd a fydd yn creu model cynaliadwy i arian datblygu yn Kenya. Maen nhw hefyd yn gobeithio datblygu prosiect cerddorol cydweithredol gyda’u partneriaid yn Kenya.
Hide Productions: Nigeria
Yng Ngwanwyn 2019, teithiodd Paul Whittaker a Tamsin Griffiths o gwmni Hide Productions i Nigeria i ddysgu mwy am sectorau celf ac addysg y wlad a’r diwylliant theatr ac adrodd straeon yno. Bu’r ymweliad hefyd yn gyfrwng iddynt rannu eu harbenigedd a meithrin cysylltiadau gyda darpar gydweithwyr.
Tra’r oeddent yn Nigeria fe fuon nhw’n gweithio gyda Letterworks, sefydliad drama ac adrodd straeon sy’n darparu sesiynau tiwtora ysgrifennu creadigol a sgiliau darllen i blant, pobl ifanc ac oedolion - i’w helpu i ddatblygu dulliau pwerus ac effeithiol o adrodd eu straeon. Yn ogystal, fe wnaethon nhw arwain gweithdy ysgrifennu creadigol a symudiad i blant, a chynnal sesiynau hyfforddi ar weithgareddau theatr ieuenctid ar gyfer staff Letterworks.
Mae Tamsin a Paul yn gobeithio cydweithio gyda Letterworks ar brosiect newydd gyda phobl ifanc yn Nigeria.
Jukebox Collective: Ghana
Cwmni creadigol o Gaerdydd sy’n gweithio ym maes dawns stryd yw Jukebox Collective. Maen nhw’n darparu addysg a gwasanaethau ymgynghori yn ogystal â chynhyrchu perfformiadau.
Cafodd cynrychiolwyr Jukebox eu denu i Accra (prifddinas Ghana) gan amrywiaeth ddramatig ac egni arbennig y ddinas. Nod eu hymweliad oedd cwrdd â darpar bartneriaid ar gyfer prosiectau cyd-weithio, ail-gydio mewn cysylltiadau a oedd eisoes ganddynt yn y wlad a meithrin mwy o gysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica.
Roedden nhw hefyd eisiau archwilio ffyrdd o gynnwys amrywiaeth o ddulliau a chysyniadau dawns Affricanaidd yn eu gwaith creadigol. Maen nhw’n awyddus iawn i hybu’r diddordeb cynyddol ym maes Affrobeat a dawns o Affrica yng Nghymru yn ogystal â meithrin mwy o ymwybyddiaeth yn Ghana o ddatblygiadau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru.
Roedd ganddynt nod arall hefyd, sef herio rhwystrau fel trefniadau mewnfudo a gofynion visa ataliol sy’n rhwystro dawnswyr o wledydd yn Affrica rhag teithio i ddatblygu eu crefft.
Yn ystod eu hymweliad fe wnaethon nhw gyfarfod â thros 15 o unigolion a sefydliadau gan feithrin cysylltiadau a fydd yn cyfoethogi gwaith yn Ghana ac yng Nghymru yn ogystal â hybu posibiliadau croes-beillio rhyng-ddiwylliannol.
Sarah Argent a Kevin Lewis: De Affrica
Mae Sarah Argent a Kevin Lewis yn gweithio yng Nghaerdydd; maen nhw’n ymarferwyr blaenllaw ym maes theatr ar gyfer babanod a phlant. Fe deithion nhw i Dde Affrica i dreulio amser gyda Play Africa, menter gymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant, yn ogystal â rhaglenni eraill fel Drama for Life a Market Theatre Laboratory.
Yn ystod eu hymweliad fe dreulion nhw wythnos yn Nhalaith Gauteng yn gosod seiliau trefniadol ar gyfer sefydlu prosiect rhyngwladol gyda ASSITEJ De Affrica - rhan o’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Theatr i Blant a Phobl Ifanc. Bydd y prosiect yma’n helpu i ddatblygu theatr ar gyfer y blynyddoedd cynnar a theatr i fabanod. Bydd hefyd yn galluogi’r ymarferwyr sy’n cymryd rhan i fanteisio ar holl rychwant eu gwahanol sgiliau a’u harbenigedd i fentora’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr a’u helpu i ddatblygu eu hymarfer.
Watch Africa Cymru: Tanzania and Kenya
‘Watch Africa Cymru’ yw’r ŵyl Ffilm Affricanaidd flynyddol a gynhelir yng Nghymru. Yn 2019, ymwelodd cynrychiolwyr o’r ŵyl â Kenya a Tanzania i gwrdd â’u partneriaid a datblygu prosiect newydd ar y cyd o’r enw ‘Safari Tatu’ (Tair Taith).
Mae ‘Safari Tatu’ yn cael ei ariannu gan raglen Llywodraeth Cymru - ‘Cymru o Blaid Affrica’. Nod y fenter yma yw cyd-weithio gyda phobl ifanc i gynhyrchu ffilm gydweithredol sy’n archwilio beth mae ‘dod i oed’ yn ei olygu yn Kenya, Tanzania a Chymru. Mae’n fenter ar y cyd gyda Gŵyl Ffilm Ryngwladol Zanzibar yn Tanzania a Sinema Tuwatch yn Kenya. Bydd y prosiect yn hyfforddi pobl ifanc i gynhyrchu tair ffilm fer a fydd yn cael eu troi’n ffilm nodwedd lawn. Bydd ‘Safari Tatu’ yn edrych ar brofiadau pobl ifanc mewn gwahanol lefydd wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion gan archwilio’r hyn sy’n gyffredin yn ogystal â’r gwahaniaethau rhyngddynt.